Mae’r awdurdodau lleol wedi croesawu adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru sy’n dweud bod y cynghorau lleol wedi cwtogi ar eu gweithluoedd yn fwy cost-effeithiol na gweddill y sector cyhoeddus.
Gan fod pob sefydliad cyhoeddus yn annog gweithwyr i ymadael yn gynnar er mwyn cwtogi ar gostau’r gweithlu yn ystod llymder parhaus (er y byddai’n well gyda nhw pe na bai angen gwneud hynny), ystyriodd Swyddfa Archwilio Cymru a oedd pob sefydliad cyhoeddus yn cael gwerth ei arian.
Ar ôl hel gwybodaeth ymhlith 58 o gyrff cyhoeddus Cymru rhwng mis Chwefror a mis Mehefin 2014, daeth Swyddfa Archwilio Cymru i’r casgliad bod y sector cyhoeddus yn arbed tua £305 miliwn y flwyddyn.
Dywedodd yr adroddiad mai tua £18,786 yw’r gost i gynghorau lleol ac awdurdodau’r parciau cenedlaethol ar gyfartaledd pan fo gweithiwr yn ymadael yn gynnar. Mae hynny’n is o lawer na chostau Llywodraeth Cymru sef £49,983 (cost fwyaf y sector cyhoeddus yn ôl y pen ar gyfartaledd) a chostau cynghorau lleol yr Alban – £37,459 y pen ar gyfartaledd.
Meddai’r Cyng. Peter Rees (Castell-nedd Port Talbot), Llefarydd WLGA dros Gyflogaeth:
“Mae cyllideb graidd y cynghorau lleol wedi gostwng yn fawr, ac un o’r pethau mwyaf anffodus yw bod y gweithlu’n prysur grebachu. Mae polisïau ymadael effeithiol yn hanfodol o ran helpu’r cynghorau i arbed arian dros y tymor byr yn ogystal â bod yn fwy effeithlon yn y pen draw, ac mae’r adroddiad yma’n dangos bod y cynghorau lleol yn cwtogi ar y gweithlu yn y modd mwyaf cost-effeithiol i goffrau’r wlad.”
“Er bod dros 72% o ymadawiadau cynnar y sector gwladol yn ymwneud â chynghorau lleol neu awdurdodau parciau cenedlaethol, mae telerau diswyddo ym myd llywodraeth leol yn llai hael o lawer na rhai gweddill y sector. Yn wir, bu rhaid i nifer o gynghorau gwtogi eto fyth ar y telerau hynny yn ddiweddar am fod eu cyllidebau’n crebachu drwy’r amser. Er na fydd hynny’n lleddfu’r ansicrwydd a’r straen ymhlith gweithwyr cynghorau lleol o ganlyniad i’r llymder parhaus a’r dyfalu am ad-drefnu byd llywodraeth leol, mae’n dangos bod y cynghorau lleol yn parhau i reoli newidiadau na allan nhw eu hosgoi yn y gweithlu yn y modd mwyaf cost-effeithiol.”
DIWEDD