Ymateb y cynghorau i gais eu staff am gynnydd
I gadw arian ar gyfer gwasanaethau hanfodol ac osgoi diswyddo rhagor o staff, fydd gweithwyr llywodraeth leol Cymru a Lloegr ddim yn cael cynnydd yn eu cyflogau ar gyfer 2012/13.
Meddai’r Cyng. Gordon Kemp, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) dros Gyflogaeth:
“Dyma benderfyniad anodd ond priodol i’r trethdalwyr a’r gweithlu yn ei gyfanrwydd. Yn wyneb rhagor o gostau a llai o arian, doedd dim dewis gan y cynghorau. O gynyddu cyflogau, byddai rhaid diswyddo rhagor o staff a chwtogi ar wasanaethau angenrheidiol.
Mae’r cyhoeddiad heddiw yn golygu na fydd cynnydd yng nghyflogau’n gweithwyr ni am y drydedd flwyddyn yn olynol ac rydyn ni’n cydnabod eu rhwystredigaeth. Er bod y cynghorau’n wynebu talcen caled o ran arian, mae Cyflogwyr Llywodraeth Leol am ddechrau trafodaethau gyda’r undebau llafur ynglŷn â newid cyflogau ac amodau fel y bydd modd cynnig cynnydd yn 2013.”
Nodiadau i olygyddion:
Mae’r cyhoeddiad heddiw yn ymwneud ag 1.6 miliwn o weithwyr llywodraeth leol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae undebau llafur byd llywodraeth leol – Unsain, GMB a Unite – wedi gofyn am ‘...gynnydd sylweddol ar gyfer pob pwynt ar rwn y cyflogau i gydnabod caledi ariannol gweithwyr llywodraeth leol – yn arbennig y rhai isaf eu cyflogau – o ganlyniad i chwyddiant a’r ffaith na roes y cyflogwyr £250 i’r rhai sy’n cael llai na £21,000 y flwyddyn, er bod Llywodraeth San Steffan o blaid hynny’.
Mae trefniadau ar wahân ar gyfer athrawon a’r gwasanaethau tân.
-DIWEDD-