Cynghorau yn paratoi am Brexit

Dydd Iau, 20 Medi 2018

Mae Rhaglen Cefnogi Trosglwyddiad Brexit CLlLC yn cael ei lansio yr wythnos hon, gyda’r cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau yn cael ei gynnal fel rhan o arlwy o gefnogaeth CLlLC i gynghorau yn eu paratoadau ar gyfer ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd.

Cafodd y digwyddiad cyntaf – yn cael ei gyflwyno ar y cyd rhwng CLlLC, y Swyddfa Gartref a WCVA – ei gynnal heddiw, ac yn darparu awdurdodau lleol gyda’r cyfle i ddysgu mwy am eu rôl yn cyfathrebu Rhaglen Ymsefydlu y Swyddfa Gartref, a fydd yn galluogi trigolion a’u teuluoedd i ymgeisio am statws sefydlog yn y y DU.

Bydd digwyddiadau eraill a gynhelir gan CLlLC yn y misoedd nesaf yn canolbwyntio ar oblygiadau a pharatoadau ar gyfer Brexit mewn meysydd yn cynnwys yr amgylchedd, diogelu’r cyhoedd a materion gwledig.

Gwnaed arlwy o gefnogaeth CLlLC yn bosibl diolch i £150,000 o gyllid a dderbyniwyd fel rhan o Rhaglen Cefnogi Trosglwyddiad EU gan Lywodraeth Cymru. Yn ogystal a chynnal cyfres o ddigwyddiadau gwybodaeth, caiff y cyllid hefyd ei ddefnyddio i ddarparu adnoddau a chomisiynu ymchwil ar faterion ble y bydd Brexit yn effeithio’n fawr ar lywodraeth leol.

Awdurdodau lleol sy’n gweithredu dros 60% o ddeddfwriaeth yr UE. Mae cynghorau ledled Cymru yn asesu effaith posib Brexit yn eu ardaloedd lleol, ac yn paratoi gyda chefnogaeth gan CLlLC.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart (Abertawe), Llefarydd CLlLC dros Ewrop:

“Yr unig sicrwydd sydd gennym ni ar hyn o bryd ydi y bydd pethau’n wahanol wedi i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Brexit heb fargen yn debygol o gael effaith negyddol sylweddol ar ystod o wasanaethau cyngor a fydd yn taro ein trigolion. Rydyn ni angen gwneud popeth o fewn ein gallu i baratoi am Brexit heb fargen, hyd nes y bydd unrhyw fargen a manylion unrhyw drefniant newydd wedi eu cytuno.”

“Gyda dim arwydd eto am senario debygol wedi Brexit, mae’n hanfodol bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn dod at eu gilydd i drafod a pharatoi am bob canlyniad posib. Rwy’n edrych ymlaen i gwrdd a chydweithwyr i drafod syniadau am sut y gall awdurdodau lleol addasu i’r newidiadau enfawr sydd ar y gorwel.”

I ganfod mwy am waith CLlLC, ewch i http://www.wlga.cymru/brexit.

-DIWEDD-

Categorïau: Ewrop Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30