Mae cynrychiolwyr byd llywodraeth leol Cymru wedi cwrdd i bennu'r hyn mae rhaid ei wneud i ateb heriau fydd yn codi o ganlyniad i newid y wladwriaeth les yn ysgubol.
Mae'r gynhadledd yn rhan o ymateb byd llywodraeth leol Cymru i amserlen ddadleuol Llywodraeth San Steffan. Ei diben yw nodi cerrig milltir y broses a phennu'r hyn mae angen ei wneud i helpu cymunedau i ymdopi â'r effeithiau mawr sydd i'w disgwyl yn sgîl newidiadau sylweddol o'r fath.
Meddai'r Cynghorydd David Phillips (Abertawe), Llefarydd WLGA dros Fudd-daliadau:
“Mae Llywodraeth San Steffan wedi dechrau'r diwygio mwyaf yn nhrefn budd-daliadau'r deyrnas ers yr Ail Ryfel Byd, ac mae'r cynghorau lleol a'u partneriaid strategol bellach yn wynebu gorchwyl annymunol, sef cyflwyno'r newidiadau a cheisio lleddfu'r effeithiau ar rai o gymunedau mwyaf difreintiedig y wlad.
Er y gallai llawer ohonon ni anghytuno â'r ffordd mae'r newidiadau hyn wedi'u rhoi ar waith, yn arbennig y ffordd mae hawlwyr wedi'u difenwi, mae byd llywodraeth leol yn gyfrifol am ofalu bod pobl yn gwybod beth sy'n dod a'u bod yn barod amdano. Rhaid parhau i ddarparu ar gyfer y bobl fwyaf bregus eu sefyllfa yn ein cymdeithas ni, gan eu helpu a'u diogelu'n briodol.
Mae byd llywodraeth leol wedi rhoi llawer o sylw i faterion budd-daliadau yn barod, ac mae cynghorau lleol y wlad yn cydweithio â thrigolion a phartneriaid i adnabod y bobl y gallai'r newidiadau effeithio arnyn nhw a phennu'r ffordd orau o'u helpu. Ar ben hynny, mae nifer o gynghorau lleol yn ymwneud â phrosiectau arbrofol mae gobaith y byddan nhw'n cyfeirio amryw newidiadau yn y dyfodol.
Mae'r gynhadledd yma'n taflu oleuni ar yr effeithiau a'r cerrig milltir y bydd rhaid eu trin a'u trafod, nid yn unig dros y misoedd nesaf ond dros y blynyddoedd sydd i ddod. Felly, rydyn ni wedi cymryd cam arall ynglŷn â llunio ymateb cadarn i'r materion ymestynnol mae Llywodraeth San Steffan wedi'u creu trwy ddiwygio trefn y budd-daliadau.”
DIWEDD