Mae cynghorau lleol Cymru wedi parhau â’u hanes o lwyddiant amgylcheddol trwy gyrraedd targed statudol cyntaf y wlad ym maes ailgylchu.
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Gyfunol i bennu targedau statudol o’r fath pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru gyfres o nodau uchelgeisiol hyd 2024/25 fis Tachwedd 2010.
Mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod yr awdurdodau lleol wedi cyflawni’r targed statudol cyntaf, sef ailgylchu 52% o’u gwastraff, gan eu bod nhw wedi ailgylchu neu gompostio dros 800,000 o dunelli o wastraff.
Y cam nesaf yw ailgylchu 70% o’n gwastraff, heb fynd â dim i’r domen, erbyn 2025.
Meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan, Llefarydd WLGA dros Faterion Gwastraff:
“Dros y blynyddoedd diwethaf hyn, mae cynghorau Cymru wedi ailgylchu gwastraff yn uwch o lawer na chyfartaledd y deyrnas. Dyma gamp fawr nid yn unig gan gynghorau lleol ond, hefyd, gan gymunedau’r wlad sy’n gwneud y gorau o’r gwasanaethau casglu ym mhob bro.
Er ei bod yn amlwg y bydd peth amrywio ledled y wlad yn ôl nifer helaeth o ffactorau a chamau lleol, dyma rywbeth mae byd llywodraeth leol wedi’i gyflawni ar y cyd. Allwn ni ddim gorffwys ar ein bri, fodd bynnag, gan y bydd yn fwyfwy anodd inni gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru o hyn ymlaen. At hynny, mae disgwyl na fydd cymaint o adnoddau ar gyfer gwasanaethau o achos prinder arian.
Mae’r cynghorau’n cael manteisio bellach ar Raglen y Newid Cydweithredol mae WLGA a WRAP yn ei chynnal ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Fe fydd cynghorion a chymorth arbenigol y rhaglen yn eu helpu i gyflawni targedau ac osgoi’r dirwyon sylweddol mae modd eu gosod am fethu â gwneud hynny.
Dim ond gyda chymorth ein cymunedau y gallwn ni gyrraedd targedau ailgylchu gan fod llwyddiant pob cynllun ailgylchu’n dibynnu arnyn nhw. Mae taith hir i wlad heb wastraff, a rhaid i bawb helpu i gyrraedd y nod.”
DIWEDD