Mae’r cynghorau lleol wedi gwario llai o lawer ar gostau tirlenwi dros y pedair blynedd diwethaf o ganlyniad i ragori ym maes ailgylchu.
Mae amcangyfrif bod costau wedi gostwng o 23% ac mae cyfanswm y sbwriel sy’n cael ei gladdu wedi gostwng at 450,000 o dunelli erbyn 2014/15, o’i gymharu â 641,000 yn 2012/13.
Meddai llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA):
“Gan fod nifer o gynghorau lleol yn ailgylchu dros 58% o wastraff cartrefi eu bröydd bellach, mae byd llywodraeth leol Cymru yn helpu’r wlad i barhau ar flaen y gad o ran rheoli gwastraff yn gynaladwy.”
“Mae gwaith yn mynd rhagddo i ofalu y bydd modd i bob cyngor lleol barhau i gyflawni targedau uchelgeisiol fel na fyddwn ni’n anfon mwy na 5% o holl wastraff y wlad hon i’r domen erbyn 2024/25. Y nod yw y byddwn ni’n ailgylchu 70% o’n gwastraff erbyn hynny ac yn trin y 30% sy’n weddill mewn cyfleusterau sy’n cynhyrchu ynni o wastraff – ffordd amgylcheddol lawer gwell o gael gwared ar y gwastraff mae pob cartref yng Nghymru wedi cyfrannu ato.”
“Mae cynlluniau newydd ar waith trwy Gymru gyfan gan fod gwasanaethau ailgylchu a rheoli gwastraff yn parhau i ddatblygu yn ôl targedau Llywodraeth Cymru. O ganlyniad i arloesi parhaus y cynghorau lleol, mae Cymru yn ailgylchu 56% o’i gwastraff bellach, o’i chymharu â dim ond 10% yn 2005. Bydd y duedd honno’n parhau i effeithio’n fawr ar faint o wastraff aiff i’r domen i’w gladdu yn y dyfodol.”
DIWEDD