Mae’r cynghorau lleol wedi gofyn am ragor o gymorth ariannol i ateb gofynion Mesur yr Amgylchedd a fydd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw.
Er eu bod yn croesawu’r mesur yn ffordd bwysig o fynd i’r afael â’r newid hinsoddol a gofalu y bydd Cymru yn rheoli ei chyfoeth naturiol yn fwy cynaladwy, mae’r cynghorau lleol o’r farn y dylai fod rhagor o gymorth ariannol ar gyfer dyletswyddau newydd.
Meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Llefarydd WLGA dros yr Amgylchedd, Datblygu Cynaladwy a Gwastraff:
“Mae Mesur yr Amgylchedd yn arbennig o bwysig ynglÅ·n â diogelu cyfoeth naturiol y wlad, ac mae’r cynghorau lleol yn croesawu llawer o’i brif gynigion.”
“Wrth roi gwasanaethau mewn sawl maes megis cynllunio, rheoli gwastraff, datblygu economaidd a rheoleiddio amgylcheddol, mae’r cynghorau lleol yn cyfrannu’n fawr o ran diogelu’r amgylchedd. Rydyn ni o’r farn bod angen rhagor o arian ar gyfer unrhyw ddyletswyddau statudol ychwanegol ym maes llywodraeth leol.”
“Mae WLGA wedi amlinellu ei safbwynt yn ei maniffesto, ‘Atebolrwydd Lleol 2016-21’, sef y dylai fod yn y mesur ystyriaeth ynglÅ·n â sut mae’r arian sy’n deillio o’r dreth ar fagiau plastig yn cael ei ddyrannu a’i wario. Gan fod y cynghorau lleol yn ymwneud â chydlynu gweithgareddau cyrff eraill sy’n derbyn arian o’r fath, byddai o gymorth i’w hadrannau amgylcheddol pe baen nhw wedi’u cynnwys ymhlith y rhai a allai elwa ar y dreth yng ngoleuni’r ffaith bod cyllidebau’r adrannau hynny wedi crebachu’n fawr dros y blynyddoedd diwethaf hyn. Mae’r dreth yn cynnig ffordd amlwg o roi cymorth er lles gwasanaethau lleol y bydd Mesur yr Amgylchedd yn dibynnu arnynt i’w roi ar waith.”
DIWEDD