CLILC

 

Bydd angen gwasanaethau’r Cyngor yn fwy nag erioed i frwydro arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd wrth i Gymru oroesi yn dilyn y pandemig.

  • RSS
Dydd Gwener, 18 Mehefin 2021 Categorïau: Newyddion
Dydd Gwener, 18 Mehefin 2021

Wrth nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd, dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd (Casnewydd), Llefarydd Lles CLlLC:

 

“Efallai yn fwy nag erioed o’r blaen, rydym i gyd wedi gweld pwysigrwydd cysylltiad a chymuned yn ystod y 18 mis diwethaf. Mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn gallu cael effaith anferthol ar les meddyliol pobl a’u hansawdd bywyd. Mae gwasanaethau lleol sy’n cael eu rhedeg gan y Cyngor yn gallu helpu i ddarparu rhywle i bobl droi am gefnogaeth neu i gysylltu â phreswylwyr eraill.”

 

“O ystod o wasanaethau gofal cymdeithasol i ganolfannau hamdden ac asedau cymunedol, mae ein hawdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau gwella bywyd dirifedi sy’n gallu helpu pobl yn ein cymunedau i greu cysylltiadau. Bydd angen mannau o’r fath yn fwy nag erioed wrth i ni ddechrau ar y siwrnai faith o adfer yn dilyn y pandemig.”

 

“Ein gwasanaethau lleol yw’r glud sy’n cadw ein cymunedau gyda’i gilydd.  Gyda buddsoddiad ychwanegol yn y gwasanaethau ataliol hyn, gallwn helpu i wneud yn siŵr nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl nac yn gorfod dioddef ar ben eu hunain.”

 

-DIWEDD- 

http://www.wlga.cymru/council-services-will-be-needed-more-than-ever-to-battle-social-isolation-and-loneliness-as-wales-recovers-from-the-pandemic