Bu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn llongyfarch disgyblion ar draws Cymru heddiw ar eu llwyddiant yn eu arholiadau Lefel A a Bagloriaeth Cymru.
Mae’r nifer o ddisgyblion a lwyddodd i gyrraedd graddau A* – E wedi codi unwaith eto, yn dilyn y patrwm sydd wedi ei sefydlu mewn blynyddoedd diweddar. Mae cynnydd wedi bod hefyd yn y nifer o ddisgyblion a dderbyniodd raddau A* / A mewn pynciau gwyddoniaeth allweddol megis Bioleg, Ffiseg a Chemeg.
Enillodd 94.0% y Dystysgrif Her Sgiliau fel rhan o Bagloriaeth Cymru, gyda 78.7% o ymgeiswyr yn llwyddo yn y cymhwyster Bagloriaeth Cymru Uwch. Bu cynnydd o 3.4% yng nghofrestriadau’r cymhwyster Bagloriaeth Cymru Uwch sydd yn dangos bod mwy o ddisgyblion yn adnabod gwerth y cymhwyster hwn.
Dywedodd Llefarydd WLGA dros Addysg, y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd):
“Mae dyfalbarhad y disgyblion wedi talu ar ei ganfed heddiw, a hoffwn longyfarch pob un ohonynt ar eu llwyddiant a’u gwaith caled. Mae diwrnod canlyniadau wastad yn achlysur llawn nerfau i bawb sydd ynghlwm ag ef – fel cyn athro rwyf innau wedi treulio nifer o nosweithiau di-gwsg cyn y canlyniadau yn gobeithio bod fy nisgyblion wedi cyflawni eu gorau, a hoffwn ddymuno’r gorau i bob disgybl ym mha bynnag lwybr y bydden nhw’n dewis ei ddilyn.
“Rhaid hefyd cofio am gyfraniad amhrisiadwy rhieni, athrawon a staff ysgol yn cefnogi’r disgyblion – hebddyn nhw, ni fyddai canlyniadau heddiw wedi bod yn bosib. Mae pawb sydd yn rhan o’r system addysg yng Nghymru yn parhau i fod wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu’r cyfleon gorau i ddisgyblion, a byddem yn parhau i weithio’n galed ar bob lefel i sicrhau bod ein disgyblion ein ffynnu ac yn cyflawni eu potensial.”