Ar 4ydd Hydref, fe fydd WLGA yn dod â’r bobl sy’n gyfrifol am ddefnyddio arian Undeb Ewrop yng Nghymru at ei gilydd mewn cynhadledd i drafod y ffordd orau o fanteisio ar gyfres ariannu newydd yr undeb i leddfu tlodi ac allgau cymdeithasol ledled y wlad.
Mae’r gynhadledd, 'O dlodi i ffyniant: hwyluso newidiadau trwy raglenni ariannu Undeb Ewrop 2014-20' i’w chynnal tra bydd cyfres ariannu bresennol yr undeb (2007-13) yn dod i ben ac y bydd paratoadau ar gyfer y gyfres nesaf (2014-20) yn dechrau codi stêm yn Ewrop, y Deyrnas Gyfunol a Chymru. Bydd dros 70 o gynrychiolwyr o’r cynghorau, Llywodraeth Cymru a’r trydydd sector yn mynd i’r gynhadledd yn Llandudno ac fe fydd rhai o hoelion wyth Senedd Ewrop a Chomisiwn Ewrop yn siarad yno, hefyd.
Meddai’r Cynghorydd Bob Bright (Casnewydd), Llefarydd WLGA dros Faterion Ewrop, a fydd yn siarad yn ystod y gynhadledd:
“Mae byd llywodraeth leol yn bartner allweddol yn rhaglenni ariannu hanfodol Undeb Ewrop yng Nghymru. Dyma gyfle i gwrdd â’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, y trydydd sector a grwpiau cymunedol i gyfnewid sylwadau am y ffordd orau o fynd i’r afael â thlodi ac allgau cymdeithasol trwy raglenni’r undeb yn y dyfodol. Mae’n dangos bod y rhai sy’n ymwneud ag arian Undeb Ewrop ar lawr gwlad bob dydd yn fodlon ac yn gallu manteisio i’r eithaf ar gyfres nesaf y rhaglenni er lles cymunedau Cymru.”
Meddai’r Cynghorydd David Phillips (Abertawe), Llefarydd WLGA dros Faterion Tlodi, a fydd yn llywio’r gynhadledd:
“Trechu tlodi fydd o dan sylw yn y gynhadledd yma am ei fod yn effeithio ar bob rhan o Gymru. Gan y bydd Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru am Faterion Tlodi, Vaughan Gething AC, a chynrychiolwyr Comisiwn Ewrop, Senedd Ewrop a Llywodraeth Cymru yn siarad yno, fe gaiff y cynadleddwyr gyfle i ddysgu rhagor am weithredu arfaethedig y rhaglenni a sut y dylen ni lunio ffyrdd o fynd i’r afael â thlodi ac allgau cymdeithasol trwy Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Undeb Ewrop. Mae hyrwyddwyr materion tlodi’r awdurdodau lleol yn gwneud llawer yn eu broydd ac rydyn ni’n ystyried sut mae cydlynu ymdrechion lleol, rhanbarthol a gwladol i leddfu tlodi a sut y gall arian Undeb Ewrop ychwanegu at arian mewnol i’r perwyl hwnnw. Bydd y gynhadledd yn dangos bod cynghorau Cymru yn awyddus iawn i ysgwyddo rôl ganolog yn rhaglenni’r undeb yn y dyfodol, ac rwy’n edrych ymlaen at ddod â hoelion wyth Cymru at ei gilydd mewn un ystafell ar gyfer trafodaeth fywiog am y cyfleoedd fydd ar gael i gymunedau rhwng 2014 a 2020.”
Mae’r gynhadledd wedi’i threfnu i gyd-ddigwydd ag Wythnos Diwrnodau Agored Pwyllgor y Rhanbarthau (cynulliad Undeb Ewrop ar gyfer cynrychiolwyr rhanbarthol a lleol) lle bydd cyfle i gyrff llywodraeth leol a rhanbarthol hybu arferion da ynglŷn â rhoi arian a pholisïau Undeb Ewrop ar waith. Bydd WLGA (trwy ei swyddfa ym Mrwsel) yn cymryd rhan yn yr wythnos bob blwyddyn.
Diwedd