Colli 37,000 o swyddi llywodraeth leol mewn cymunedau dros ddegawd

Dydd Iau, 20 Mehefin 2019

Amlinella adroddiad a gyhoeddwyr heddiw yr effaith syfrdanol y mae degawd o gynni wedi ei gael ar weithlu cynghorau yng Nghymru.

 

Mae llywodraeth leol wedi gorfod dioddef bron i £1bn o doriadau ers cycheyn cynni yn 2009. Dengys adroddiad y Sector Gyhoeddus yng Nghymru, gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, y cafodd 37,000 o swyddi eu colli o lywodraeth leol rhwng Rhagfyr 2009 a Medi 2018, yn gyfystyr â 19.9% o’r gweithlu.

 

Wedi gorfod ysgwyddo baich trymaf y toriadau yn y sector gyhoeddus, mae arweinwyr a chynghorwyt ar draws Cymru wedi dadlau yn gyson nad oes gan wasanaethau lleol hanfodol bellach mo’r gallu i ddioddef rhagor o doriadau cyllidebol anferthol heb oblygiadau difrifol i wasanaethau.

 

Dywedodd y Cynghorydd David Poole (Caerffili), Llefarydd CLlLC dros y Gweithlu:

 

“Mae gweithwyr llywodraeth leol yn cyfri am weithwyr cymdeithasol, athrawon, gweithwyr ar y ffyrdd, casglwyr gwastraff, achubwyr bywyd mewn canolfannau hamdden, llyfrgellwyr a llawer mwy, a dengys yr adroddiad yma’n gwbl glir sut y mae’r swyddi yma yn cael eu colli o’n cymunedau o ganlyniad i doriadau parhaus. Gweithlu’r cyngor sydd wedi gorfod ysgwyddo baich cynni yn fwy nag unrhyw sector arall. Er gwaethaf y pwysedd ychwanegol sydd wedi cael ei roi arnyn nhw, mae nhw wedi parhau i ddarparu’r gwasanaethau hynny sy’n hanfodol i lesiant ein cymunedau. Fodd bynnag, mae gallu’r gweithlu i ddelio â thoriadau o’r fath heb effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau hanfodol, megis gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, bellach wedi dod i ben.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Adnoddau a Chyllid:

 

“Y bil cyflog am ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol yw £3.6bn, ac mae’n rhaid i ni fuddsoddi hynny i redeg ein hysgolion, canolfannau dydd a chyfleusterau lleol a drysorir, er mwyn darparu’r gwasanaethau a’r gefnogaeth y mae pobl ei angen yn ddyddiol. Bydd yn rhaid gwario dros £100m rhwng 2020-21 dim ond er mwyn i gyflogau y staff sy’n darparu gwasanaethau lleol i gadw i fyny â chwyddiant. Mae’n gwbl hanfodol bod llywodraethau ar bob lefel yn cydnabod pa mor hanfodol yw hi bod gwasanaethau lleol yn derbyn setliad teg sy’n cydnabod y pwysau hyn cyn cyhoeddiadau cyllidebol yr Hydref.”

 

-DIWEDD-

 

NODIADAU I OLYGYDDION:

Mae adroddiad “Y Sector Gyhoeddus yng Nghymru” gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru ar gael ar-lein yma:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/news/view/1517194-share-of-welsh-workforce-in-the-public-sector-reaches-historic-low

Categorïau: Gweithlu Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30