CLILC

 

Posts in Category: Ynys Môn

  • RSS
  • Add To My MSN
  • Add To Windows Live
  • Add To My Yahoo
  • Add To Google

Categorïau

Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru - Cludiant 

Yn Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru ar sefyllfa bresennol y Cynllunio Datgarboneiddio yn Llywodraeth Leol Cymru, dadansoddwyd yr ymyriadau a restrir yng nghynlluniau Datgarboneiddio cynghorau yn ôl pedwar maes blaenoriaeth, yn cynnwys Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, a Defnydd Tir. Mae’r meysydd hyn yn adlewyrchu’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu hadroddiad Carbon Sero Net 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus.  

 

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi prynu cerbydau ail-law i gadw hyblygrwydd o ran y fflyd wrth ganiatáu amser i archwilio dewisiadau / penderfyniadau ynghylch cerbydau Trydan neu Hydrogen.

Grŵp Cydlynwyr COVID-19 ar y Cyd (Cyngor Sir Ynys Môn) 

Dydd Mercher, 17 Mehefin 2020 09:42:00 Categorïau: Cefnogi Pobl Agored i Niwed COVI9-19 COVID-19 (Gwirfoddoli - Partneriaeth) Ynys Môn

Mae Cyngor Sir Ynys Mȏn wedi sefydlu grŵp Cydlynwyr Covid-19 ar y cyd ar draws sefydliadau Statudol a’r trydydd sector.  Mae’r grŵp, wedi’i gadeirio gan Arweinydd y Cyngor yn rhan o ymateb yr ynys i’r pandemig. Mae’n cynnwys y Cyngor a’r trydydd sector dan arweiniad Medrwn Mȏn a Menter Mȏn sydd yn gweithio i baratoi adnoddau i grwpiau cymorth cymunedol Covid-19 ar yr ynys. Mae grŵp y cydlynwyr wedi datblygu canllawiau cymunedol Covid-19. Mae gan y cyngor 860 o wirfoddolwyr cofrestredig yn gweithredu mewn 36 o dimau ardal. Mae chwedeg o’r gwirfoddolwyr hyn yn cael eu cyfrif fel gwirfoddolwyr arbenigol gan fod ganddynt DBS cyfredol. Trwy gymorth cymunedol, grwpiau gwirfoddolwyr a gwasanaeth prydau ‘neges’ mae tua 675 o unigolion yn cael eu cefnogi, gyda 325 o unigolion pellach yn derbyn cymorth gyda gwasanaeth casglu presgripsiynau, siopa bwyd ac atgyfeiriadau i amryw o wasanaethau cymorth.

http://www.wlga.cymru/Blog/ViewCategory.aspx?cat=88&pageid=723&mid=2030