CLILC

 

Posts in Category: COVID-19 (Ysgol - Partneriaeth)

  • RSS
  • Add To My MSN
  • Add To Windows Live
  • Add To My Yahoo
  • Add To Google

Categorïau

Tystysgrif Gymeradwyaeth ar gyfer y Wobr Caffael Ysgol – CLlLC a Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) yn caffael gorchuddion wyneb i blant ysgolion Cymru 

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) wedi cael tystysgrif gymeradwyaeth ar gyfer y Wobr Caffael Ysgolion  gan Wobrau Busnes Addysg am gydweithio wrth ddarparu gorchuddion wyneb i blant ysgol. Yn ystod y pandemig Covid-19, bu i’r GCC weithio gyda Lyreco, CLlLC a RotoMedical, adran offer cyfarpar diogelu a meddygol Rototherm Group, ym Margam, De Cymru, i gynhyrchu a dosbarthu gorchudd wyneb 3 haen i blant ysgol Cymru trwy'r fframwaith GCC ar gyfer cyfarpar diogelu personol. Bu i CLlLC amlygu’r angen i ddarparu gorchuddion wyneb, i ysgolion Cymru i GCC yn dilyn cyhoeddi grant Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol Cymru i brynu’r eitemau hyn. Roedd hefyd ddyhead i gynhyrchu gorchuddion wyneb yng Nghymru. Yna, bu i GCC a CLlLC weithio gyda RotoMedical i ddeall sut y gallant helpu i wasanaethu sector cyhoeddus Cymru yn y frwydr yn erbyn y feirws. Prynodd Lyreco y cynnych gan RotoMedical ar ran GCC a’u dosbarthu i gwsmeriaid gan ddefnyddio eu rhwydwaith logisteg cenedlaethol eu hunain. Mae Lyreco yn gwasanaethu eu cwsmeriaid de Cymru o’u canolfan ddosbarthu ym Mhen-y-Bont ar Ogwr a chwsmeriaid Gogledd Cymru o ychydig dros y ffin yn Warrington.

Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cefnogi ysgolion gyda dysgu yn y cartref (CBS Castell-nedd Port Talbot) 

Fe fu ysgolion yn cefnogi dysgu yn y cartref drwy gydol y cyfnod clo.

Fe gynhaliodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot arolwg o’u holl ysgolion yn ymwneud â’u darpariaeth dysgu o bell a lluniwyd Cynllun Parhad Dysgu a chafodd ei rannu gyda’r holl ysgolion o ganlyniad.

Roedd yr arolwg yn nodi unrhyw ddiffygion yn ymwneud â hyfforddiant a’r gefnogaeth oedd ei hangen a chefnogwyd unrhyw ysgol oedd angen cymorth technegol er mwyn darparu dysgu o bell gan swyddogion y cyngor.

Mae’r cyngor wedi darparu dros 1000 o ddyfeisiau ar gyfer disgyblion nad oes ganddynt offer TG priodol na / neu fynediad i’r rhyngrwyd.

Wrth baratoi ar gyfer ailagor, fe baratôdd yr holl ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot gynlluniau adfer ac asesiadau risg wedi eu seilio ar y canllawiau a ddarparwyd gan dîm gwella ysgolion y cyngor a Llywodraeth Cymru, a darparodd y cyngor ganllawiau ar Ddysgu Cyfunol. Wrth i'r ysgolion ailagor fe sicrhaodd y cyngor fod Penaethiaid yn derbyn cefnogaeth wythnosol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ar ddatblygiadau allweddol ac i drafod pryderon. Sefydlwyd porthol Cwestiynau Cyffredin pwrpasol.

http://www.wlga.cymru/Blog/ViewCategory.aspx?cat=211&pageid=723&mid=2030