CLILC

 

Posts in Category: COVID-19 (Ynysigrwydd Cymdeithasol - Ymgysylltu)

  • RSS
  • Add To My MSN
  • Add To Windows Live
  • Add To My Yahoo
  • Add To Google

Categorïau

Prosiect Galw Rhagweithiol a gwasanaeth cyfeillio Sir Ddinbych (CC Sir Ddinbych) 

Yn ystod y cyfnod clo fe sefydlodd Cyngor Sir Ddinbych y ‘prosiect galw rhagweithiol’. Yn ogystal â ffonio'r holl breswylwyr yn y sir oedd yn gwarchod eu hunain, aethant ati hefyd i ffonio'r holl bobl ddiamddiffyn dros 70 oed nad oeddent yn gwarchod eu hunain. Cynhyrchwyd sgriptiau a dilynwyd hynny i sicrhau fod yr holl breswylwyr yn cael cynnig yr holl gefnogaeth oedd ar gael gan gynnwys atgyfeiriad i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (sy'n cysylltu gwirfoddolwyr gyda'r rhai hynny sydd angen cymorth ychwanegol) neu gefnogaeth gan wasanaeth cyfeillio'r cyngor.

Sefydlwyd y gwasanaeth cyfeillio i helpu’r rhai oedd yn teimlo’n ynysig ac eisiau rhywun i sgwrsio â nhw. Mae gwirfoddolwyr, gan gynnwys cynghorwyr, yn sgwrsio gyda phreswylwyr i helpu eu lles yn ystod y cyfnod hwn sy’n ansicr ac i rai yn gyfnod unig hefyd.

Mae’r gwasanaeth cyfeillio yn parhau ar ôl llawer o lwyddiant yn ystod y cyfnod clo.

Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych hefyd yn parhau gyda’u cefnogaeth, gan gysylltu gwirfoddolwyr gyda’r rhai sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol e.e. gyda siopa a chasglu presgripsiynau.

Mae Pecyn Adnoddau Cymunedol Cyngor Sir Ddinbych, sydd wedi ei lunio i helpu preswylwyr gyda chefnogaeth yn ystod y cyfnod clo, yn parhau i gael ei ddiweddaru ac ar gael ar y wefan.

Cefnogi gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y pandemig (Pen-y-bont ar Ogwr CBS) 

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr mae ymdrech sylweddol wedi ei wneud i sicrhau fod gan ofalwyr y gefnogaeth maent ei angen yn ystod y pandemig.

Fe ddarparodd Gwasanaeth Lles Gofalwyr y Cyngor linell gymorth 24 awr i gefnogi gofalwyr yn ystod y cyfnod clo. Derbyniodd y gwasanaeth lefel uchel o alwadau a phrofodd i fod yn wasanaeth gwerthfawr i ofalwyr yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Mae gwasanaethau gofalwyr y cyngor wedi datblygu/cyflwyno ystod o ffyrdd i gyfathrebu gyda gofalwyr yn ystod y pandemig, gan gynnwys posteri a gwybodaeth, galwadau ffôn uniongyrchol i wirio lles gofalwyr, negeseuon ebost rheolaidd, defnyddio technoleg fideo fel zoom a defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.  Hefyd mae gwasanaethau fel sesiynau cwnsela a chyngor wedi eu darparu dros y ffôn i gefnogi gofalwyr.

Mae trefniadau wedi eu gwneud i ofalwyr ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr i dderbyn Cyfarpar Diogelu Personol yn unol â'r canllawiau cenedlaethol.

Gwiriadau lles a chefnogaeth i denantiaid cyngor (CBS Wrecsam) 

Ers 23 Mawrth 2020, mae 21,595 o alwadau lles wedi eu gwneud gan Swyddogion Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i’w tenantiaid cyngor.

Cysylltwyd â’r holl denantiaid cyngor o leiaf unwaith ac mae swyddogion yn parhau gydag ail rownd o alwadau lles, er bod ail gychwyn swyddogaethau tai eraill a'r ffaith fod nifer o denantiaid yn dychwelyd i'w gwaith yn effeithio ar hyn bellach. Mae tenantiaid nad oedd modd cysylltu â nhw dros y ffôn wedi derbyn llythyr yn gofyn iddynt gysylltu â’u Swyddfa Dai.

Yn ystod y pandemig mae'r gefnogaeth a gynigiwyd gan Swyddogion Tai y cyngor wedi cynnwys cyngor a chymorth ariannol, cymorth gyda chyflwyno ceisiadau am Gredyd Cynhwysol a Thaliadau Disgresiwn at Gostau Tai, trefnu cynlluniau talu rhent fforddiadwy gyda thenantiaid sydd wedi bod ar ffyrlo ac atgyfeiriadau i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam am barseli bwyd, dosbarthu presgripsiwn a siopa. 

Mae swyddogion hefyd wedi hyrwyddo gwasanaethau a allai fod o fudd i denantiaid oedd yn ynysu ac wedi gwneud atgyfeiriadau i asiantaethau sy’n cynnig cefnogaeth a chyngor ar unigrwydd, trais domestig, iechyd meddwl ac ymddygiad gwrth gymdeithasol. Roedd swyddogion hefyd yn cynghori ar y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim ac yn codi ymwybyddiaeth o dwyll i helpu i gadw tenantiaid diamddiffyn yn ddiogel. I rai tenantiaid roedd y galwadau’n golygu unigolyn cyfeillgar y gallant siarad â nhw gan eu bod yn teimlo’n ynysig. Croesawyd y galwadau ac roedd tenantiaid yn eu gwerthfawrogi.

Cyfathrebu gyda phreswylwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod COVID-19 (CBS Pen-y-bont ar Ogwr) 

Mae gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn ffynhonnell allweddol o wybodaeth ar gyfer preswylwyr yn ystod y pandemig, gyda diweddariadau dyddiol ar y gefnogaeth o ran Covid-19.

I gyrraedd preswylwyr nad oes ganddynt fynediad i blatfformau digidol, mae’r cyngor wedi dosbarthu pamffledi i’r holl aelwydydd yn y fwrdeistref yn amlygu’r gefnogaeth gan y cyngor yn ystod pandemig Covid 19.  

Roedd hyn yn cynnwys gwneud pobl yn ymwybodol fod cefnogaeth ar gael mewn amryw o wahanol ieithoedd- er enghraifft mae tudalen ‘Cefnogaeth i bobl yn y pandemig’ ar wefan y cyngor yn cynnwys dolenni i adnoddau amlieithog Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddodd y cyngor 90 o ddiweddariadau newyddion yn ymwneud â'r cyfnod clo yn sgil Covid-19 i gynulleidfaoedd allweddol, ar gyfradd o un y dydd rhwng Mawrth a Gorffennaf ac mae wedi datblygu hyn yn ddiweddariad bob pythefnos i roi gwybod i gynulleidfaoedd allweddol am y datblygiadau diweddaraf yn ystod y pandemig.

Mae’r cyngor yn gweithio’n agos gyda sefydliadau ambarél e.e. Cydlyniant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr a’r Fforwm Cydraddoldeb a Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr i ddosbarthu gwybodaeth i grwpiau penodol.

Maent yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid fel Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Heddlu De Cymru, Cynghorau Tref a Chymuned ayb i ddosbarthu gwybodaeth ac maent yn cefnogi’r partneriaid hyn drwy ddefnyddio sianeli cyfathrebu’r cyngor i rannu’r wybodaeth a gynhyrchwyd.

Addasu cefnogaeth i ofalwyr ifanc Merthyr Tudful (CBS Merthyr Tudful) 

Mae gwasanaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar gyfer gofalwyr ifanc wedi gorfod addasu i ffordd newydd o weithio yn ystod y pandemig i ddiwallu anghenion gofalwyr ifanc a chefnogi eu diogelwch.

Mae asesiadau nawr yn cael eu cynnal drwy ddulliau digidol neu drwy sesiynau gardd lle cedwir pellter cymdeithasol.

Caiff sesiynau grŵp, fel côr y gofalwyr ifanc, eu cynnal nawr drwy zoom. Hefyd mae sesiynau un i un yn cael eu cynnal yn ddigidol ac yn yr awyr agored.

Mae’r cyngor yn cysylltu â’r holl ofalwyr ifanc yn wythnosol, a thrwy hyn fe archwilir cefnogaeth emosiynol ac ymarferol. Mae cefnogaeth ymarferol yn cynnwys cymorth gyda thasgau fel siopa, sy’n weithgaredd a allai fod wedi ei gefnogi’n flaenorol gan aelod o deulu estynedig. Mae cefnogi gofalwyr ifanc i ymgysylltu mewn sesiynau addysgol a chael mynediad i ddysgu digidol wedi bod yn faes cefnogaeth y mae’r gwasanaeth gofalwyr ifanc wedi gweithio gyda chydweithwyr yn y maes addysg i'w gyflawni.

Mae’r cyngor hefyd wedi darparu pecynnau gweithgaredd ac adnoddau i ofalwyr ifanc yn rheolaidd.

Mae’r lefel uchel o gyswllt sydd wedi ei gynnal â gofalwyr ifanc yn ystod y pandemig wedi galluogi’r cyngor i addasu i’w hanghenion cymorth, tra’n gweithio mewn dull sy’n glynu at ganllawiau'r llywodraeth.

http://www.wlga.cymru/Blog/ViewCategory.aspx?cat=203&mid=2030&pageid=723