CLILC

 

Posts in Category: Blaenau Gwent

  • RSS
  • Add To My MSN
  • Add To Windows Live
  • Add To My Yahoo
  • Add To Google

Categorïau

Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru - Cludiant (CBS Blaenau Gwent) 

Yn Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru ar sefyllfa bresennol y Cynllunio Datgarboneiddio yn Llywodraeth Leol Cymru, dadansoddwyd yr ymyriadau a restrir yng nghynlluniau Datgarboneiddio cynghorau yn ôl pedwar maes blaenoriaeth, yn cynnwys Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, a Defnydd Tir. Mae’r meysydd hyn yn adlewyrchu’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu hadroddiad Carbon Sero Net 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus.  

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi sefydlu depo ar gyfer loriau a cherbydau, sydd wedi bod yn ffactor yn yr achos busnes am bwyntiau gwefru Cerbydau Trydan, yn ogystal â datblygu sgiliau a hyfforddiant ar gyfer cynnal a chadw’r safle.

Gwasanaeth Ymateb Lleol i gefnogi Pobl Agored i Niwed (CBS Blaenau Gwent) 

Fe greodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Wasanaeth Ymateb Lleol yn cynnwys staff a adleolwyd i gefnogi'r galw cynyddol am gefnogaeth anstatudol yn ymwneud â chyfyngiadau COVID-19 pan oedd y pandemig yn ei anterth ac i ddiogelu gofal cymdeithasol rheng flaen. Fe weithiodd y gwasanaeth hwn yn agos gyda'r Trydydd sector i ddarparu cefnogaeth barhaus i breswylwyr drwy'r cyfnod hwn. Mae preswylwyr wedi eu cefnogi gyda cheisiadau grant, banciau bwyd, atgyfeiriadau parhaus am gefnogaeth arbenigol fel gydag iechyd meddwl, Cymorth Alcohol a Chyffuriau Gwent, gwasanaethau cefnogi pobl a’r gwasanaethau cymdeithasol os oedd angen. Ar ddechrau’r cyfnod clo a thrwy’r haf fe fu'r cyngor yn ymdrin â thros 1000 o geisiadau am gymorth gyda siopa, casglu presgripsiynau a gweithgareddau cyfeillio eraill. Wrth i’r cyfyngiadau lacio ac wrth i bobl roi’r gorau i warchod eu hunain am y tro, edrychodd y cyngor ar yr opsiynau a ran lleihau’r gwasanaeth. Cysylltodd y tîm yn uniongyrchol gyda'r holl achosion agored i sicrhau y gallant drosglwyddo i drefniant mwy cynaliadwy o ran cefnogaeth.

Defnyddio data mewn ffordd fwy craff er mwyn targedu cefnogaeth i’r rhai mwyaf diamddiffyn (CBS Blaenau Gwent) 

Dydd Mercher, 5 Awst 2020 15:15:00 Categorïau: Blaenau Gwent COVI9-19 COVID-19 (Cynghorwyr - Digidol) Llywodraethu

Fel rhan o ymateb Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i gefnogi’r unigolion mwyaf diamddiffyn yn ystod y pandemig, bu timoedd ymateb lleol yn mapio asedau a chymorth lleol, megis grwpiau cymunedol, busnesau ac ati, mewn ardaloedd er mwyn galluogi’r gymuned i gefnogi eu hunain. Bu’r Cyngor hefyd yn casglu data i ganfod y rhai oedd angen mwy o gefnogaeth, megis y rhai ar y rhestr gwarchod. Roedd y cynghorwyr yn gyfranwyr hanfodol o ran casglu’r data oherwydd eu gwybodaeth leol o drigolion eu wardiau.  Roedd y Cyngor yn gallu paru gwirfoddolwyr gydag unigolion er mwyn darparu’r cymorth yr oeddent eu hangen.  Mae hyn hefyd wedi eu cynorthwyo i ddeall profiadau bywyd trigolion, gyda rhai’n dweud eu bod yn croesawu rhyngweithio yn y dull hwn.  Mae’r Cyngor yn gweithio ar ailfodelu cam nesaf y gwasanaeth sy’n gysylltiedig â darpariaeth presennol, megis cefnogi pobl a chysylltiadau cymunedol. 

http://www.wlga.cymru/Blog/ViewCategory.aspx?cat=136&pageid=723&mid=2030