CLILC

 

Posts in Category: Cefnogi Pobl Agored i Niwed

  • RSS
  • Add To My MSN
  • Add To Windows Live
  • Add To My Yahoo
  • Add To Google

Categorïau

Ffrind Mewn Angen Gorllewin Cymru (CS Gâr, CS Ceredigion, CS Benfro) 

Yn ystod y pandemig cyflwynwyd menter Ffrind mewn Angen Gorllewin Cymru gyda chymorth arian gan Age Cymru. Nod y prosiect oedd gwella'r gallu i wirfoddolwyr ffurfiol ac anffurfiol gysylltu’n ddigidol gyda phobl yng Ngorllewin Cymru, a gostwng arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd. Sefydlwyd grŵp prosiect rhanbarthol i sefydliadau gydweithio, roedd aelodaeth y grŵp yn cynnwys Age Cymru Dyfed , Cyngor Sir Benfro , Cyngor Sir Ceredigion , Cyngor Sir Gâr, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr  a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Sir Ceredigion Cafodd cyfanswm o 11 grwpiau gwirfoddol a chymunedol gyllid gan y grant gan olygu bod dros 1,100 o unigolion yn elwa o’r fenter gyda 155 o wirfoddolwyr yn treulio 1,975 o oriau yn gweithio yn eu cymunedau.

Galw Gofal (CBS Conwy) 

Dydd Gwener, 20 Awst 2021 12:13:00 Categorïau: Cefnogi Pobl Agored i Niwed Conwy COVI9-19 COVID-19 (Gwarchod - Partneriaeth)

Sefydlwyd Galw Gofal gan Dîm Lles Cymunedol Gofal Cymdeithasol ac Addysg  Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy  i ddarparu cefnogaeth yn y cartref trwy systemau ffôn i wella ansawdd bywyd ac annibyniaeth pobl, Yn ystod y pandemig ymestynnwyd gwasanaethau Galw Gofal i gynnwys y rhai yn y gymuned a oedd yn gwarchod eu hunain. Er mwyn ymateb yn gyflym i’r angen cynyddol am gefnogaeth yn ystod y pandemig, bu i Galw Gofal ddatblygu partneriaethau oedd yn bodoli gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Age Connects Canol Gogledd Cymru a Chymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy . O Fawrth i Awst 2020, gwnaed 10,789 o alwadau ffôn dyddiol gyda staff yn ymateb i amrywiaeth o ymholiadau o gymorth gyda dosbarthu bwyd a phresgripsiynau i gyfeirio at Dimau Lles Cymunedol i gael cefnogaeth i fynd ar-lein.

Ffrind mewn Angen (CBS Pen-Y-Bont ar Ogwr) 

Yn ystod pandemig Covid-19 fe weithiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr ochr yn ochr â Chymdeithas Gwirfoddol Sefydliadau Pen-y-Bont ar Ogwr (BAVO) i ymestyn y cynllun Cymdeithion Cymunedol gan gydnabod yr angen i addasu dulliau mewn cysylltiad â’r pandemig a chyfyngiadau. Roedd Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-Bont ar Ogwr a’r Cyngor eisiau darparu cefnogaeth i unigolion mewn ffyrdd gwahanol, yn cynnwys cyfeillio dros y ffôn i ddarparu cefnogaeth o bell, gan dargedu oedolion hŷn sydd wedi’u hynysu dros gyfnod y gaeaf. Yn ystod 2020, derbyniwyd 229 o atgyfeiriadau ar gyfer cefnogaeth cyfeillio. Cefnogwyd 145 o unigolion gyda chyfleoedd cyfeillio, ac roedd 102 o wirfoddolwyr yn rhan o brosiect cyfeillio dros y ffôn a 50 o unigolion yn rhan brosiect treialu cyfaill gohebol. Parhaodd y cynllun cyfaill gohebol rhwng cenedlaethau i dyfu er gwaethaf yr amhariadau gyda’r ysgolion yn cau ac mae’r Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-Bont ar Ogwr wedi creu cysylltiadau gydag ysgol gynradd lleol yn ystod y cyfnod clo i ysgrifennu llythyrau/darluniadau y datblygodd Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-Bont ar Ogwr y rhain mewn i gardiau post i’w hanfon at fuddiolwyr a gwirfoddolwyr Cymdeithion Cymunedol.

Cysylltu Cymunedau (CBS Pen-y-Bont ar Ogwr) 

Mae rhaglen Cysylltu Cymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr wedi cynyddu’r gefnogaeth y mae’n ei ddarparu i bobl a chymunedau yn ystod pandemig Covid-19. Mae Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-Bont ar Ogwr (BAVO) gan weithio gyda’r Cyfeirwyr Cymunedol yn cefnogi amrywiaeth o anghenion cymunedol. Mae’r prif lefelau o gefnogaeth yn cynnwys: cyflenwi presgripsiwn, gwasanaethau siopa, cefnogaeth banc bwyd yn cynnwys talebau banc bwyd a danfon parseli bwyd i’r rhai sydd eu hangen fwyaf, ynghyd ag addysgu pobl am ddarpariaeth bwyd fforddiadwy eraill megis Pantris Bwyd, gwiriadau lles a chyfeillio dros y ffôn. Mae rhaglen Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-Bont ar Ogwr a Chysylltu Cymunedau yn gweithio gyda sefydliadau allanol a gwasanaethau cynnal er mwyn sicrhau bod y bobl mwyaf diamddiffyn yn cael mynediad at y gefnogaeth maent eu hangen. Mae yna restr partneriaid o 77 sefydliad sydd wedi cefnogi Cysylltu Cymunedau, ac mewn cyfres o wiriadau effaith ynglŷn â chefnogaeth Cysylltu Cymunedau i 214 o unigolion, roedd 99% yn hapus gyda’r gefnogaeth, yr atgyfeirio a’r wybodaeth a chyngor y mae’r cyfeirwyr wedi’i ddarparu.

Gwirfoddoli yng Nghymuned Sir Fynwy (CS Fynwy) 

Dydd Mercher, 3 Mawrth 2021 15:27:00 Categorïau: Cefnogi Pobl Agored i Niwed COVID-19 (Gwirfoddoli - Partneriaeth) Sir Fynwy

Roedd Cyngor Sir Fynwy  a sefydliadau’r trydydd sector wedi gweithio gyda’i gilydd yn ystod y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020 i ddatblygu strwythur cefnogi ar gyfer grwpiau cymunedol. Roedd y strwythur cefnogi yn cynnwys hyfforddi a sgrinio gwirfoddolwyr ar gyfer diogelu, rhannu gwybodaeth, datblygu rhwydweithiau cymdogaeth ac un pwynt mynediad yn y cyngor fyddai’n gallu cynorthwyo’r grwpiau gydag unrhyw heriau yr oeddent yn eu hwynebu. Roedd egwyddorion seiliedig ar ased a chred ac ymddiried mewn cymunedau yn sylfeini strategaeth y cyngor ar gyfer rheoli’r cyfnod clo. Roedd cryfder perthnasoedd y cyngor gyda’r grwpiau cymuned presennol a grwpiau cymorth cydfuddiannol newydd yn golygu bod y cyngor yn gallu cael budd drwy gefnogi’r cymunedau mewn llawer mwy na siopa a chasglu presgripsiynau. Mae’r math hwn o ddull o dan arweiniad y gymuned ac wedi’i lywio gan berthynas bersonol wedi ysbrydoli creu Rhaglen Llysgennad y Dref newydd y sir. Wedi’i drefnu gan gynghorau tref, gyda chefnogaeth y cyngor sir a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, mae’r rhaglen yn gweld gwirfoddolwyr lleol yn cwrdd gyda’r sawl sy’n teimlo’n ansicr am adael eu cartrefi a cherdded gyda nhw o amgylch canol y dref. Mae’r gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant fel y gallant roi cyngor am fesurau Covid-19 sydd ar waith o amgylch canol y dref a’r siopau, sgwrsio am les cyffredinol ac arwyddbostio i wasanaethau lleol.

 

Mae manylion pellach wedi’i gasglu mewn Astudiaeth Leol Newydd (Ion 2021): Symud y Cydbwysedd: Addasu'n lleol, arloesi a chydwithio yn ystod y pandemig a thu hwnt

Ysbryd Cymunedol Gwynedd (Cyngor Gwynedd) 

Dydd Mercher, 3 Mawrth 2021 14:29:00 Categorïau: Cefnogi Pobl Agored i Niwed COVI9-19 COVID-19 (Gwirfoddoli - Partneriaeth)

O fewn pythefnos cyntaf  y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020, roedd dros 600 o bobl wedi cofrestru i wirfoddoli gyda Banc Gwirfoddolwyr Mantell Gwynedd   Roedd Cyngor Gwynedd a chyrff trydydd sector yn cynnal cyfarfodydd ar-lein ffurfiol ac yn gweithio gyda’i gilydd yn fwy cyfunol i wasanaethu anghenion cymunedau drwy nodi bylchau, rhannu adnoddau a chamu i fyny i’r galw. Er bod natur gwirfoddoli wedi newid ers y cyfnod clo cyntaf gyda llawer o bobl yn dychwelyd i’r gwaith neu i addysg, mae’r ysbryd gwirfoddoli wedi parhau. Roedd llawer o’r bobl oedd wedi cofrestru’n wreiddiol i wirfoddoli gyda Mantell Gwynedd ar ddechrau’r cyfnod clo cyntaf wedi estyn allan i wirfoddoli eto yn ystod y Cyfnod Atal Byr yn yr Hydref. 

 

Mae manylion pellach wedi’i gasglu mewn Astudiaeth Leol Newydd (Ion 2021): Symud y Cydbwysedd: Addasu'n lleol, arloesi a chydwithio yn ystod y pandemig a thu hwnt

Well-Fed – o ddarparu prydau maethlon mewn cartrefi gofal i focys bwyd mewn argyfwng (CS Fflint)  

Mae Well-fed yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir y FflintClwyd Alyn a Can Cook – cwmni bwyd sy’n ymroi i fwydo pawb yn dda. Ers argyfwng Covid-19, mae Well-fed wedi addasu ei weithrediadau o gyflenwi prydau parod maethlon i gartrefi gofal i ymateb i’r galw anhygoel i ddarparu bwyd ar frys yn y sir. Ochr yn ochr â phrydau parod maethlon, mae’r Cyngor wedi bod yn cyflenwi bagiau popty araf a ‘Bocsys Diogelwch Well-fed’ oedd yn ychwanegiad i focsys Cysgodi Llywodraeth Cymru. Cafodd y blychau diogelwch ‘saith niwrnod’ eu darparu i’r bobl oedd yn cael eu hystyried yn ddiamddiffyn, yn cysgodi am resymau iechyd a’r rhai oedd angen cymorth â bwyd am resymau ariannol, ac yn cynnwys detholiad o brydau barod, prif fwydydd a nwyddau ymolchi.  

Gwasanaeth Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru (CBS Wrecsam, CS Ddinbych a CS Y Fflint)  

Mae cynghorau WrecsamSir Ddinbych a Sir Y Fflint wedi gweithio mewn partneriaeth i ddarparu Gwasanaeth Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol i Ogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cefnogi oddeutu 40 o grwpiau cymunedol a sefydliadau trydydd sector sydd yn eu tro yn cynnig cefnogaeth weithgar i gymunedau lleiafrifol. 

Ers Mawrth 2020, mae’r Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol wedi parhau i gefnogi cymunedau ond fel gyda’r rhan fwyaf o wasanaethau mae’r ffocws wedi mynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu yn sgil COVID19.  Mae cyfanswm o tua £20,000 wedi cael ei wobrwyo mewn grantiau i gefnogi cynlluniau penodol fel: 

  • darparu parseli bwyd, cyfarpar diogelu personol a chefnogaeth ar-lein;  

  • pecynnau gwybodaeth wedi’u cyfieithu; 

  • gweithgareddau cadw pellter cymdeithasol yn ystod gwyliau’r haf;  

  • cefnogaeth mewn perthynas â thrais domestig a chamddefnyddio sylweddau yn ystod Covid-19; 

  • cyfleoedd gwirfoddoli ac ymrwymo’r gymuned ar ôl Covid-19; a 

  • chefnogi’r Gymuned Teithwyr lleol yn ystod Covid-19 gyda chefnogaeth addysg o bell.  

Dydi Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol ddim yn gorffwys ar ei bri. Mae’n sefyll ar banel cronfeydd argyfwng Covid-19 Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac yn gweithio gyda CMGW a phartneriaid allweddol i adnabod a sicrhau cronfeydd mawr a mwy cynaliadwy i gefnogi cymunedau lleiafrifol ac unigolion gyda nodweddion rhagamcanol. 

System parseli bwyd a galwadau lles ar y we (CS Powys)  

The Web Team at Powys County Council developed a web-based system in response to assessing whether eligible people were in need of regular food parcel deliveries, monitoring the wellbeing of vulnerable residents on a weekly or fortnightly basis and responding to needs for support from Powys Social Care or Community Connectors volunteers.

Mae Tîm y We Cyngor Sir Powys wedi datblygu system ar y we sy’n ymateb i’r broses o asesu os oes angen parseli bwyd yn rheolaidd ar bobl cymwys, monitro lles preswylwyr diamddiffyn yn wythnosol neu bob pythefnos ac ymateb i’r angen am gefnogaeth gan Ofal Cymdeithasol Powys neu wirfoddolwyr Cysylltwr Cymunedol 

The system used ‘shielding people’ data and other internal ‘vulnerable individual’ data, which the council stored in a database.

Mae’r system yn defnyddio data ‘pobl yn gwarchod’ a data ‘unigolion diamddiffyn’ mewnol sydd mewn cronfa ddata gan y cyngor.

Trwy glicio ar enw o’r rhestr mae ffurflen ar y we yn agor i bobl sy’n delio gyda chwsmeriaid ar y ffôn i gofnodi eu hatebion i gwestiynau sydd ar sgript a gytunwyd arni. Mae’r cyngor wedi datblygu sbardunau awtomatig i anfon e-byst at Ofal Cymdeithasol i Oedolion neu Gysylltwyr Cymunedol neu lunio cais am barsel bwyd (os yn gymwys) yn seiliedig ar atebion y cwsmer i’r cwestiynau a natur y cymorth sydd ei angen.  

 

Rhwng 3 Ebrill a 14 Awst, mae cyfanswm o 23,791 o alwadau wedi’u gwneud gan staff Cyngor Sir Powys gan arwain at 

  • 649 o barseli bwyd Llywodraeth Cymru wedi’u harchebu 

  • 438 o geisiadau i gynghorydd sir leol gysylltu’n ôl â’r preswylydd  

  • 459 o ymholiadau am help gydag anghenion gofal sylfaenol wedi’u pasio ymlaen i ASSIST 

  • 1,654 o atgyfeiriadau i Wasanaeth Cysylltwyr Cymunedol Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (o’r rhain roedd 1,076 eisiau cymorth gyda bwyd, 373 eisiau cymorth gyda’u presgripsiynau a 205 yn dymuno siarad gyda gwirfoddolwr) 

  • 150 o atgyfeiriadau yn ymwneud â diogelu.  

Hub Llesiant y Gaeaf (CS Ceredigion)  

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi creu Hwb Llesiant Gaeaf ar-lein newydd i gefnogi trigolion Ceredigion dros fisoedd hydref a gaeaf. 

Nid yw gweithgareddau a digwyddiadau y byddem fel afer yn eu gweld yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn yn bosib mwyach oherwydd y pandemig. Felly, mae’r hwb yn darparu amrywiaeth o weithgareddau ar-lein sydd yn gynnwys gwybodaeth a fideos ar ystod o bynciau megis y gefnogaeth sydd ar gael, iechyd a lles, pobl ifanc a dysgu. 

Mae Lles y Gaeaf yn unol â Strategaeth Gaeaf y Cyngor, i amddiffyn iechyd a lles ein rhai mwyaf agored i niwed, gan gynnwys gwasanaethau gofal i’r henoed a’r rhai y mae eu cyflyrau meddygol yn eu gwneud mewn perygl arbennig o COVID-19. 

Tudalen 1 o 5 1 2 3 4 5 > >>
http://www.wlga.cymru/Blog/ViewCategory.aspx?cat=127&pageid=723&mid=2030