CLILC

 

Posts in Category: COVID-19 (Gwasanaethau Ieuenctid)

  • RSS
  • Add To My MSN
  • Add To Windows Live
  • Add To My Yahoo
  • Add To Google

Categorïau

Model Ar-lein ar gyfer darparu Gwasanaethau Ieuenctid (CBS Rhondda Cynon Taf) 

Mae Gwasanaeth Ymgysylltiad a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) Rhondda Cynon Taf wedi’u hymrwymo i gefnogi pobl ifanc 11 i 25 oed i wella eu cadernid i ddelio â heriau yn y presennol ac yn y dyfodol, gan gefnogi eu lles a’u hymgysylltiad cadarnhaol a chyfraniad yn y cymunedau maent yn byw.

Mae’r model darparu ar-lein newydd wedi cael ei ddatblygu a’i gyflwyno, yn ogystal â gwasanaethau negeseua gwib, clybiau ieuenctid ar-lein ar zoom a sesiynau holi ac ateb ar instagram ac ati, gan gynnwys WICID.TV, i bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant, ac yn cynnwys fideos ar amrywiaeth o destunau, megis gwneud cais am swydd, technegau STAR, cyfweliadau swydd ar-lein ac mae mwy o fideos yn cael eu hychwanegu bob wythnos. Mae’r adran Gwaith, Addysg a Hyfforddiant hefyd yn cynnwys dolenni i brentisiaethau sydd ar gael yn Rhondda Cynon Taf, cymorth Gyrfa Cymru, diwrnodau agored ar-lein colegau ac ati. Mewn partneriaeth â’r Cyngor roeddent hefyd yn gallu cynnig wythnos profiad gwaith ar-lein gyntaf yn Rhondda Cynon Taf, a oedd yn annog nifer o bobl ifanc 16 oed a hŷn i fynd ar-lein i gael cyngor ar yrfaoedd, ac ati.

Cyngor Ieuenctid Sir Fynwy – Ymgysylltu er mwyn Newid (Cyngor Sir Fynwy) 

Ymgysylltu er mwyn Newid (E2C) yw Cyngor Ieuenctid Sir Fynwy, a ymatebodd i sefyllfa Covid-19 yn gyflym drwy drefnu cyfarfodydd wythnosol ar-lein. Nod y sesiynau hyn yw sicrhau bod llais pobl ifanc Sir Fynwy yn parhau i gael ei glywed a’i gefnogi.   

I ddechrau, roedd E2C yn trafod profiadau, materion ac emosiynau  yr oedd ganddynt yn ystod cyfnod cynnar y clo, a gwahoddwyd Dr Sarah Brown (Seicolegydd Clinigol, Seicoleg Gymunedol Gwent, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan) i drafod sut allai pobl ifanc ddatblygu gwytnwch. O ganlyniad, fe wnaeth y bobl ifanc helpu i greu cynnwys ar gyfer straeon dyddiol y Gwasanaeth Ieuenctid ar Facebook ac Instagram, gan gynnwys ‘Dydd Mercher Lles’.   Roedd pobl ifanc yn rhan o dreialu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiwyd gan gynnig gwaith digidol y Gwasanaethau Ieuenctid ar gyfer sesiynau galw heibio, clybiau amser cinio a ieuenctid ar-lein. 

Mae E2C wedi cynnal cyswllt gyda Fforwm Rhanbarthol De-Ddwyrain Cymru, ac ar hyn o bryd yn datblygu prosiect Ucan fel rhan o Gronfa Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cymru. Mae gweithio’n rhanbarthol wedi galluogi E2C i rannu profiadau gyda phobl ifanc o ardaloedd daearyddol eraill, gan ddatblygu perthnasau a rhwydweithiau cefnogi, yn ogystal â hyder a hunan-barch.

Yn ddiweddar, mae E2C wedi dechrau cynnal sesiynau holi ac ateb wythnosol gyda phobl sy’n gwneud penderfyniadau, er mwyn trafod materion a nodir gan bobl ifanc, megis iechyd meddwl, cludiant, addysg a blaenoriaethau Sir Fynwy a nodwyd yn yr ymgynghoriad Gwneud eich March Cyngor Prydain.

Prosiect Estyn Allan a Dargedir (CBS Caerffili) 

Roedd Heddlu Gwent yn cael nifer o broblemau gyda phobl ifanc nad oedd yn dilyn rheolau’r cyfnod clo ac fe wnaethant gysylltu â Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i’w cynorthwyo i ymgysylltu â phobl ifanc. Cytunwyd y byddai’r heddlu a staff ieuenctid estyn allan y Cyngor yn cyflawni patrolau ar y cyd er mwyn siarad â phobl ifanc am ragofalon diogelwch COVID-19. Roedd hyn hefyd yn galluogi gwasanaethau ieuenctid a’r heddlu i wirio eu lles a darparu cymorth ychwanegol os oedd angen. Mae staff y Gwasanaeth Ieuenctid wedi bod allan gyda'r heddlu 2-3 gwaith yr wythnos, gan weithio gyda thimoedd plismona cymdogaethau ar draws y fwrdeistref.  Roedd y patrolau yn canolbwyntio ar ardaloedd lle ganfuwyd ymddygiad gwrthgymdeithasol neu lle roedd grwpiau o bobl ifanc wedi cael eu gweld. Roedd rhai anawsterau ar y dechrau, gan nad oedd rhai pobl ifanc yn awyddus i siarad gyda'r heddlu, ond goresgynnwyd hyn gan fod y gweithiwr ieuenctid gyda nhw ac yn annog y bobl ifanc i ymgysylltu. Mae lefel ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi lleihau ar draws y fwrdeistref, ac mae llai o bobl ifanc i’w gweld, sydd wedi arwain at leihau’r gefnogaeth oedd ei angen gan yr heddlu.

 “Gwaith partneriaeth gwych...cefnogi pobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn...rhaid i ni fod yn rhagweithiol...nid aros i’r broblem gael ei chodi...bydd bod yn weledol yn darparu sicrwydd ac yn annog pobl ifanc i ymgysylltu â ni...” Prif Gwnstabl Pam Kelly, Heddlu Gwent @GP_PamKelly

Canllawiau i staff ar ailagor Canolfannau Ieuenctid a chymorth wyneb yn wyneb (Cyngor Sir Ceredigion) 

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn sylweddoli bod y cyfnod hwn wedi bod, ac yn parhau i fod yn gyfnod anodd iawn i bawb. Nid yw plant na phobl ifanc wedi gallu treulio amser gyda ffrindiau, cyfoedion na staff cymorth fel gweithwyr ieuenctid - staff y mae llawer ohonynt yn ystyried yn oedolion y gallan nhw ymddiried ynddynt. Ceir tystiolaeth gynyddol bod diffyg rhyngweithio o’r fath yn effeithio ar iechyd a lles meddyliol ac emosiynol pobl ifanc. O ganlyniad, mae'r Cyngor yn paratoi ac yn cynllunio i ailagor darpariaethau wyneb yn wyneb fel canolfannau ieuenctid. Bydd yn gwneud y canolfannau yn ddiogel, addysgiadol ac yn hwyl. Mae’r Canllawiau i Staff yn ddogfen ar gyfer staff sy’n darparu cymorth ac ymyraethau o fewn canolfannau ieuenctid yr awdurdod lleol. Fodd bynnag, bydd llawer o’r agweddau yn berthnasol i leoliadau teuluoedd ac addysgol eraill ac yn cyd-fynd ag amcanion COVID-19 Cyfnod 3: Addasu a Chydnerthedd Hirdymor y Cyngor.

 

Dalier sylw: Mae’r canllawiau hyn yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf (18 Mehefin 2020) a byddant yn cael eu diweddaru yn ôl yr angen.

Llwyfan Rhith-Amgylchedd Dysgu (Cyngor Sir Benfro) 

Mae Tîm Digartrefedd Ymhlith Pobl Ifanc Sir Benfro wedi addasu ei arferion i ymgysylltu, addysgu, rhoi gwybod a chynorthwyo pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol. Mae’r mentrau hyn yn cynnwys: Cyrsiau Sgiliau Tenantiaeth ac Ymwybyddiaeth o Ddigartrefedd wedi’u darparu ar ffurf rhaglen ddysgu cyfunol; Sesiynau Rhyngweithiol gyda mynediad i weithwyr ieuenctid, yn ogystal ag ystorfa o adnoddau ac ystod o heriau, cwisiau, tasgau gwaith a fideos, wedi’u cynnal ar lwyfan Rhith-amgylchedd Dysgu. Bydd gwaith yr unigolion yn cael ei osod a’i fonitro drwy’r llwyfan hwn ond mi fydd yna gyfle i wneud apwyntiad i ddod i’n hamgylchedd dysgu yn y Ganolfan Byw'n Annibynnol. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynllunio i gyd-fynd â cherrig milltir dysgu allweddol a gyrhaeddir yn y Rhith-Amgylchedd Dysgu. Bydd y rheiny sydd heb sgiliau TGCh i gwblhau’r tasgau ar y llwyfan hwn yn cael cynnig sesiynau wyneb yn wyneb ychwanegol a bydd y rheiny heb ddyfais briodol yn cael benthyg un.

Ysgolion Hyb (CBS Torfaen) 

Ers dechrau pandemig COVID-19 a’r mesurau cadw pellter cymdeithasol, mae Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen wedi bod yn rhan o dîm sy’n cynnal hyb ysgolion uwchradd ar gyfer plant gweithwyr allweddol a phobl ifanc diamddiffyn. Prif rôl y Gwasanaeth Ieuenctid oedd hwyluso a darparu gweithgareddau i’r bobl ifanc. Yn ogystal â hyn, gan weithio’n agos â Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Chynhwysiant, fe greodd y Gwasanaeth Ieuenctid hyb bychan yn un o’i ganolfannau ieuenctid ar gyfer ychydig o bobl ifanc hynod o ddiamddiffyn a oedd angen mwy o gefnogaeth. Roedd yr hyb yn cynnig cyfleoedd i’r bobl ifanc goginio, garddio a chymryd rhan mewn gweithgareddau meithrin tîm ac ati. Mae’r bobl ifanc wedi ymgysylltu’n annibynnol â gweithgareddau'r hyb er bod rhai ohonyn nhw’n cael cymorth 1 i 1 i gael mynediad at ddysgu ffurfiol. Mae @torfaenyouth wedi bod yn lle diogel y gall pobl ifanc sy’n bryderus ynghylch eu rhieni a’u perthnasau ei fwynhau a'i werthfawrogi.

http://www.wlga.cymru/Blog/ViewCategory.aspx?cat=121&pageid=723&mid=2030