CLILC

 

Posts in Category: Bro Morgannwg

  • RSS
  • Add To My MSN
  • Add To Windows Live
  • Add To My Yahoo
  • Add To Google

Categorïau

Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru – Defnydd tir a dulliau’n seiliedig ar leoedd (Bro Morgannwg) 

Yn Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru ar sefyllfa bresennol y Cynllunio Datgarboneiddio yn Llywodraeth Leol Cymru, dadansoddwyd yr ymyriadau a restrir yng nghynlluniau Datgarboneiddio cynghorau yn ôl pedwar maes blaenoriaeth, yn cynnwys Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, a Defnydd Tir. Mae’r meysydd hyn yn adlewyrchu’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu hadroddiad Carbon Sero Net 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus.  

 

Cafodd Cyngor Bro Morgannwg gyllid Partneriaethau Natur Lleol Cymru i ddatblygu Wal Fyw Werdd ar yr adeilad BSC2 yn y Bari. Bydd y prosiect yn gwella bioamrywiaeth ac yn cynnig mwy o fynediad at Isadeiledd Gwyrdd.  Disgwylir y bydd y prosiect yn echdynnu tua 41 kilo o CO2e bob blwyddyn. 

Llyfrgelloedd yn mynd arlein i gefnogi defnyddwyr o bell (C Bro Morgannwg) 

Dydd Iau, 17 Medi 2020 14:31:00 Categorïau: Bro Morgannwg COVI9-19 COVID-19 (Llyfrgelloedd - Digidol) Hamdden a Diwylliant

Yn ystod y cyfnod clo fe ddatblygodd llyfrgelloedd ym Mro Morgannwg fentrau arlein i barhau i gefnogi defnyddwyr y llyfrgell o bell. Wrth i wasanaethau ailagor maent yn cynnal neu'n cynyddu lefelau o weithgarwch arlein ac yn gweld hyn fel dechrau dull newydd o weithio a darparu cynnwys arlein.

Mae’r llyfrgelloedd wedi gwneud defnydd helaeth o’r cyfryngau cymdeithasol, yn arbennig Facebook a Twitter, i ddarparu gweithgareddau niferus gan gynnwys amseroedd stori dwyieithog o lyfrgell y Bont-faen, a fideos amser rhigymau o lyfrgell Penarth.

Mae rhan helaeth y gwaith o greu’r fideos hyn yn cael ei wneud gan staff o gartref yn defnyddio eu hoffer eu hunain a’u harbenigedd eu hunain o ran ffilmio a golygu cynnwys fideo.

Mae clybiau arlein ar gyfer oedolion a phlant wedi eu sefydlu yn lle’r clybiau presennol sydd wedi eu lleoli yn y llyfrgell gan gynnwys clwb llyfrau arlein, clybiau lego arlein, clybiau côd a chlybiau celf.

Roedd cam un y broses o ailagor llyfrgelloedd Bro Morgannwg yn cynnwys darparu gwasanaeth llyfrau Clicio a Chasglu i gwsmeriaid, a datblygwyd system archebu arlein sydd wedi profi’n effeithiol.

Daeth presenoldeb cyffredinol Llyfrgelloedd Bro Morgannwg ar y cyfryngau cymdeithasol yn ganolbwynt ac maent wedi canfod eu bod yn cyrraedd cynulleidfa newydd ehangach drwy gyhoeddi cynnwys diddorol a doniol yn gyson yn hytrach na gwneud cyhoeddiadau a rhannu diweddariadau yn unig.

Arwyr y Fro (Cyngor Bro Morgannwg) 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi sefydlu Tîm Cymorth Argyfwng i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth, gan weithio'n agos gyda Gwasanaeth Gwirfoddol Bro Morgannwg  , ac Age Connects Caerdydd a’r Fro i gyfeirio pobl i fudiadau a allai helpu. Mae Arwyr y Fro yn gronfa ddata y gellir ei chwilio, sy’n helpu i gysylltu unigolion mewn angen i gefnogaeth y sawl sy'n ei gynnig. Gall pobl gofrestru os oes angen cymorth arnynt gyda siopa bwyd neu gasgliadau meddyginiaeth, er enghraifft, fel y gall unigolion neu grwpiau helpu gyda’r fath dasgau. Ar hyn o bryd, mae nifer o bobl yn gwirfoddoli ar draws y Fro, gyda dros 2,000 o bobl yn cofrestru ers diwedd mis Mawrth pan darodd argyfwng Covid-19.

Mae Cronfa Grant Argyfwng hefyd wedi cael ei sefydlu i gynnig grantiau o hyd at £3,000 i grwpiau cymunedol, y sector gwirfoddol a chynghorau tref a chymuned, yn ogystal â busnesau cymwys.

http://www.wlga.cymru/Blog/ViewCategory.aspx?cat=108&mid=2030&pageid=723