Posts in Category: COVI9-19

Cefnogi Banciau Bwyd ym Mhowys (Cyngor Sir Powys) 

Mae Tîm Adfywio Cyngor Sir Powys a Tyfu ym Mhowys wedi helpu banciau bwyd Powys i reoli’r heriau a’r newidiadau a ddaeth yn sgil COVID-19. Bu’r tîm yn rheoli’r Grant Tlodi Bwyd gan Llywodraeth Cymru, a ddosbarthwyd gan CLlLC. Rhannwyd y grant refeniw o £11,602.08 rhwng saith o fanciau bwyd ym Mhowys. Roedd yr arian grant Cyfalaf ychwanegol o £13,477.00 er mwyn cefnogi mynediad sefydliadau at gyflenwadau ychwanegol o fwyd o ansawdd dda, ei storio a’i ddosbarthu, drwy brynu offer fel rhewgelloedd. Yn ystod y cyfnod clo, roedd gan y banciau bwyd arian i brynu ffonau clyfar neu liniaduron i alluogi gweithio hyblyg. Oherwydd prinder rhewgelloedd cist, cafwyd rhewgelloedd i ffitio o dan y cownter mewn un achos. Nododd hwb Llandrindod iddyn nhw weld cynnydd o 300% mewn galw. Gallai Cwmtawe Action to Combat Hardship storio cyflenwadau sylweddol o fara a nwyddau wedi eu pobi yn eu rhewgell newydd. Drwy ymwneud â chymunedau yn ardaloedd Ystradgynlais a'r Gelli Gandryll, sefydlwyd banciau bwyd allgymorth ychwanegol.

Dyweddodd Banc Bwyd Y Drenewydd, a ariennir gan Salvation Army: “Rydym wedi gorfod cau ein siop a thrwy hynny, wedi colli’r cyfle i barhau i godi arian ein hunain drwy werthu ein nwyddau. Fe droesom at eich arian chi ar unwaith i’n helpu ni.”  

Defnyddio taliadau llog solar i gefnogi banciau bwyd (Cyngor Sir Gar) 

Bydd banciau bwyd yn Sir Gaerfyrddin yn cael dros £42,000 ar ffurf talebau bwyd, byddant yn derbyn cyfran o’r arian mewn talebau o’r incwm a gynhyrchir gan banelau solar ar doeau adeiladau Cyngor Sir Gâr. Bydd pob banc bwyd sydd wedi gweld cynnydd sylweddol mewn galw ers pandemig y coronafeirws, yn derbyn rhestr o gyflenwyr ble gallan nhw gael nwyddau. Mae’r cyfraniad yn gyfwerth a thua £70,000 am bob mega-wat o solar a osodwyd, sef y taliad sengl mwyaf am bob megawat o solar a osodwyd i unrhyw gymdeithas budd cymunedol, fferm solar fasnachol neu bortffolio yn y DU.

Dywedodd y Cyng. David Jenkins, aelod o fwrdd gweithredol y cyngor dros adnoddau, a chyfarwyddwr Egni Sir Gâr Cyfyngedig, cymdeithas egni budd cymunedol a sefydlwyd gan y Cyngor yn 2015: “Mae pobl yn gwneud mwy o ddefnydd nag erioed o’r banciau bwyd er mwyn darparu prydau. Mae’n gyfnod heriol i bawb wrth i bandemig y coronafeirws barhau. Drwy ailgylchu ein taliad llog solar, bydd yn helpu’r rhai sy’n ei chael yn anodd ac yn methu fforddio hanfodion bywyd.”

Cysylltu Sir Gâr (Cyngor Sir Gar)  

Mae preswylwyr a busnesau ar draws Sir Gâr yn dangos ysbryd cymunedol eithriadol drwy helpu a chefnogi’r rhai sydd mewn angen yn eu cymunedau yn ystod pandemig Coronafeirws (COVID-19). Mae sawl grŵp gwirfoddol wedi ei sefydlu i gynorthwyo pan fo modd, gan gynnig cymorth ymarferol ac emosiynol. Crewyd Connect Carmarthenshire i ddod â chymunedau ac unigolion ynghyd – rhywle i gynnig neu i ofyn am gymorth i / gan gymdogion a’r gymuned ehangach. Mae’r platfform hwn ar gael i unrhyw un sy’n byw yn Sir Gâr. Mae’r platfform hwn ar gael i unrhyw un sy’n byw yn Sir Gâr. Gall defnyddwyr y wefan ymuno â Sir Gâredig, sef ymgyrch ranbarthol i annog mwy o bobl i ddangos caredigrwydd tuag at y naill a’r llall. Ar wefan y Cyngor cewch lawer o wybodaeth ddefnyddiol am yr amrywiol grwpiau cymorth sydd wedi eu sefydlu a sut i wirfoddoli. Mae Cynghorau Tref a Chymuned hefyd yn cydlynu gwirfoddolwyr yn eu hardaloedd ac yn gweithio’n agos gyda grwpiau lleol.

Dydd Mawrth, 11 Awst 2020 16:44:00 Categorïau: Cefnogi Pobl Agored i Niwed COVI9-19 COVID-19 (Gwirfoddoli - Digidol) Sir Gar

Cyflenwyr lleol yn rhoi cymorth gyda phecynnau bwyd (Cyngor Sir Gar)  

Mae Cyngor Sir Gar yn gweithio gyda chyflenwyr bwyd lleol i ddarparu pecynnau bwyd hanfodol i breswylwyr yn Sir Gâr sy’n gwarchod a heb ffordd arall o dderbyn cymorth. Golyga hyn y bydd y parseli, a ddanfonir bob wythnos, yn cynnwys rhywfaint o gynnyrch lleol yn ogystal ag eitemau bwyd sylfaenol a nwyddau i’r cartref. Y cyngor sydd wedi cymryd y gwaith o gyflenwi a danfon pecynnau bwyd gan Llywodraeth Cymru ac mae’n gweithio gyda Castell Howell a chyflenwyr lleol eraill i roi’r pecynnau ynghyd. Mae staff y Cyngor a faniau ag arwyddion Sir Garedig arnynt wedi eu defnyddio i ddanfon y parseli.  Bydd pawb sy’n derbyn y pecyn yn cael yr un cyflenwadau, er mai’r nod yw amrywio’r cynnwys gymaint â phosibl bob wythnos.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Emlyn Dole: “Rydw i wrth fy modd fod y cyngor wedi gallu cymryd cyfrifoldeb dros reoli’r pecynnau bwyd i drigolion agored i niwed sy’n gwarchod yn Sir Gâr. “Mae’n golygu y gallwn weithio gyda chyflenwyr lleol a chasglu cynnyrch lleol i’r pecynnau sy’n bwysig iawn, gan ei fod yn cefnogi ein heconomi leol ni, yn ogystal â darparu bwyd ffres a lleol i’n trigolion.”

Dydd Mawrth, 11 Awst 2020 16:42:00 Categorïau: Cefnogi Pobl Agored i Niwed COVI9-19 COVID-19 (Gwarchod - Partneriaeth) Sir Gar

Arweinwyr Awtistiaeth Covid-19 (Cymru Gyfan) 

Ar hyn o bryd mae 29 o arweinwyr Autism Leads mewn Awdurdodau Lleol ar draws Cymru sy’n ffurfio rhwydwaith o arferion ac ymrwymiad ar y cyd. Trwy gydol Covid-19, mae’r rhwydwaith wedi parhau i gefnogi ac ymrwymo gyda’u cymunedau awtistig lleol. Rhai enghreifftiau o’u harferion arloesol:

  • Cymorth un i un ‘ar y we’ parhaus i oedolion diamddiffyn, neu i’r rheiny gydag anghenion sylweddol ym Mlaenau Gwent.
  • Parti Diwrnod VE ar y we fel bod y gymuned yn gallu cadw mewn cysylltiad yn Wrecsam.
  • Sir y Fflint wedi darparu llyfrau stori yn egluro Covid-19 i blant bach, yn cynnwys plant awtistig.
  • Datblygwyd “cerdyn” i roi gwell mecanweithiau cyfathrebu i bobl awtistig gyda’r gwasanaethau brys yn ystod y cyfnod clo yn Sir Ddinbych.
  •  “Fforwm” ar y we i oedolion awtistig ifanc yn datblygu sgiliau bywyd yng Nghaerdydd a’r Fro.
  • Dadansoddiad trylwyr o’r “gwersi a ddysgwyd” yn ystod y cyfnod clo, yn arwain at ail-ddylunio ac ail-ddatblygu rhai o’r gwasanaethau yn Nhorfaen.
  • Deg “hwb” wedi’u hagor yn ystod y cyfnod clo i gefnogi teuluoedd yn Sir Benfro.
  • Ymrwymiad gydag oedolion awtistig a’r rheiny gydag anabledd dysgu trwy gydol y cyfnod clo yng Ngwynedd.

Mae’r Tîm Awtistiaeth Genedlaethol wedi parhau i drefnu cyfarfodydd rhwydwaith Arweinwyr Awtistiaeth Genedlaethol bob chwarter ar y we, ac wedi cyflwyno cyfarfodydd “Hwb” rhanbarthol i annog ymrwymiad cadarn ar draws yr arbenigedd ac i roi cyfle i rannu arfer da ar lefel cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae’r lefelau presenoldeb wedi torri record trwy’r fformat newydd hwn gan fod mwy o Arweinwyr yn gallu mynychu gan nad oes angen neilltuo amser i deithio i’r cyfarfodydd.

Mae’r Arweinwyr yn parhau i chwarae rôl hanfodol mewn lledaenu gwybodaeth gan y Tîm Awtistiaeth Genedlaethol yn lleol ac yn cyflwyno polisi ac arweiniad cenedlaethol trwy rwydweithiau lleol ac mewn dull llawr gwlad.,Mae’r rhwydwaith yn parhau i ‘gyfeirio’r’ pobl y maen nhw’n ei gefnogi a chydweithwyr proffesiynol i wefan y Tîm Awtistiaeth Genedlaethol Gwybodaeth Coronafeirws (Covid-19) ac i dudalennau  Facebook a Twitter.

Tîm Awtistiaeth Cymru ar y We Covid-19 (Cymru Gyfan) 

Sefydlwyd “Tîm Awtistiaeth Cymru ar y We” gan y Tîm Awtistiaeth Genedlaethol ar ddechrau cyfnod clo Covid-19, ac mae ei gyfarfodydd yn parhau i gael eu trefnu a’u harwain gan Arweinydd Proffesiynol Awtistiaeth Genedlaethol. Mae’r Grŵp yn cynnwys pobl awtistig, pobl broffesiynol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol, grwpiau gwirfoddol o bob cwr o Gymru a’r Tîm Awtistiaeth Genedlaethol. Mae’r Grŵp wedi bod yn cyfarfod yn wythnosol i drafod achosion “byw” sydd yn wynebu’r gymuned awtistig ac i baratoi adnoddau defnyddiol i gefnogi pobl awtistig a’u teuluoedd a’u gofalwyr yn ystod Covid-19.

Yna mae’r adnoddau yn cael eu rhannu ar hwb dudalen we Tîm Awtistiaeth Genedlaethol Gwybodaeth Coronafeirws (Covid-19) a’u cyhoeddi ar dudalennau Tîm Awtistiaeth Genedlaethol Facebook a Twitter  Mae’r holl adnoddau y bydd y Grŵp yn eu llunio ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn cynnwys, ond ddim yn gyfyngedig i:

Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar y we sydd yn galluogi seicolegwyr a seiciatryddion o bob cwr o’r wlad i fynychu, ni fyddai’r arbenigwyr hyn ar gael fel arall oherwydd diffyg amser i deithio i’r cyfarfodydd.  Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo barhau i gael eu llacio yng Nghymru, bydd y Grŵp yn cyfarfod yn llai aml ond yn parhau i ddatblygu cyngor ac arweiniad defnyddiol ynghylch achosion fel pontio nôl i ysgol, trafnidiaeth a brechiadau.

Dydd Mawrth, 11 Awst 2020 16:10:00 Categorïau: Cefnogi Pobl Agored i Niwed COVI9-19 COVID-19 (Awtistiaeth - Digidol) Cymru Gyfan

Covid-19 Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig (Cymru Gyfan) 

Mae 7 Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ar draws Cymru.  Maent yn bartneriaethau rhwng y 22 ALl a 7 Bwrdd Iechyd – sydd yn adlewyrchu ôl troed y Bwrdd Iechyd.  Mae gan y gwasanaethau rôl ddeublyg i gyflawni asesiadau diagnostig awtistiaeth oedolion a chynnig cymorth, cyngor ac arweiniad i oedolion awtistig, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.  Mae Covid-19 wedi golygu bod yr holl wasanaethau wedi addasu eu harferion a datblygu datrysiadau arloesol, megis:

  • Sesiynau galw heibio cyngor a gwybodaeth ar-lein
  • Cyrsiau ôl ddiagnostig ar gyfer oedolion awtistig ar-lein
  • Sesiynau hyfforddi ar-lein
  • Casglu gwybodaeth yn ddigidol er mwyn hysbysu’r asesiadau diagnostig
  • Cynnal sesiynau mewn gofod diogel e.e. yn yr ardd
  • Defnyddio ‘Attend Anywhere’, ‘Zoom’ a ‘MS Teams’ i gynnig sesiynau cyngor, arweiniad a chefnogaeth
  • Datblygu sesiynau ioga ar-lein
  • Datblygu cefnogaeth gan gymheiriaid ar-lein

Mae ymchwil wedi cael ei adeiladu i mewn i nifer o’r prosiectau er mwyn archwilio effeithlonrwydd, effaith hirdymor a hyfywedd datblygu dull cymysg parhaus.  Mae’r adborth dechreuol gan nifer o fobl awtistig wedi bod yn gadarnhaol iawn, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig. Mae wedi lleihau pryder o ran mynd i leoliadau, swyddfeydd ac ati. Bydd canlyniad yr ymchwil yn cael ei fwydo i mewn i gynlluniau datblygu hirdymor ar gyfer y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a gwasanaethau awtistiaeth yn gyffredinol yng Nghymru.

Cyngor Ieuenctid Sir Fynwy – Ymgysylltu er mwyn Newid (Cyngor Sir Fynwy) 

Ymgysylltu er mwyn Newid (E2C) yw Cyngor Ieuenctid Sir Fynwy, a ymatebodd i sefyllfa Covid-19 yn gyflym drwy drefnu cyfarfodydd wythnosol ar-lein. Nod y sesiynau hyn yw sicrhau bod llais pobl ifanc Sir Fynwy yn parhau i gael ei glywed a’i gefnogi.   

I ddechrau, roedd E2C yn trafod profiadau, materion ac emosiynau  yr oedd ganddynt yn ystod cyfnod cynnar y clo, a gwahoddwyd Dr Sarah Brown (Seicolegydd Clinigol, Seicoleg Gymunedol Gwent, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan) i drafod sut allai pobl ifanc ddatblygu gwytnwch. O ganlyniad, fe wnaeth y bobl ifanc helpu i greu cynnwys ar gyfer straeon dyddiol y Gwasanaeth Ieuenctid ar Facebook ac Instagram, gan gynnwys ‘Dydd Mercher Lles’.   Roedd pobl ifanc yn rhan o dreialu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiwyd gan gynnig gwaith digidol y Gwasanaethau Ieuenctid ar gyfer sesiynau galw heibio, clybiau amser cinio a ieuenctid ar-lein. 

Mae E2C wedi cynnal cyswllt gyda Fforwm Rhanbarthol De-Ddwyrain Cymru, ac ar hyn o bryd yn datblygu prosiect Ucan fel rhan o Gronfa Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cymru. Mae gweithio’n rhanbarthol wedi galluogi E2C i rannu profiadau gyda phobl ifanc o ardaloedd daearyddol eraill, gan ddatblygu perthnasau a rhwydweithiau cefnogi, yn ogystal â hyder a hunan-barch.

Yn ddiweddar, mae E2C wedi dechrau cynnal sesiynau holi ac ateb wythnosol gyda phobl sy’n gwneud penderfyniadau, er mwyn trafod materion a nodir gan bobl ifanc, megis iechyd meddwl, cludiant, addysg a blaenoriaethau Sir Fynwy a nodwyd yn yr ymgynghoriad Gwneud eich March Cyngor Prydain.

Prosiect Estyn Allan a Dargedir (CBS Caerffili) 

Roedd Heddlu Gwent yn cael nifer o broblemau gyda phobl ifanc nad oedd yn dilyn rheolau’r cyfnod clo ac fe wnaethant gysylltu â Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i’w cynorthwyo i ymgysylltu â phobl ifanc. Cytunwyd y byddai’r heddlu a staff ieuenctid estyn allan y Cyngor yn cyflawni patrolau ar y cyd er mwyn siarad â phobl ifanc am ragofalon diogelwch COVID-19. Roedd hyn hefyd yn galluogi gwasanaethau ieuenctid a’r heddlu i wirio eu lles a darparu cymorth ychwanegol os oedd angen. Mae staff y Gwasanaeth Ieuenctid wedi bod allan gyda'r heddlu 2-3 gwaith yr wythnos, gan weithio gyda thimoedd plismona cymdogaethau ar draws y fwrdeistref.  Roedd y patrolau yn canolbwyntio ar ardaloedd lle ganfuwyd ymddygiad gwrthgymdeithasol neu lle roedd grwpiau o bobl ifanc wedi cael eu gweld. Roedd rhai anawsterau ar y dechrau, gan nad oedd rhai pobl ifanc yn awyddus i siarad gyda'r heddlu, ond goresgynnwyd hyn gan fod y gweithiwr ieuenctid gyda nhw ac yn annog y bobl ifanc i ymgysylltu. Mae lefel ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi lleihau ar draws y fwrdeistref, ac mae llai o bobl ifanc i’w gweld, sydd wedi arwain at leihau’r gefnogaeth oedd ei angen gan yr heddlu.

 “Gwaith partneriaeth gwych...cefnogi pobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn...rhaid i ni fod yn rhagweithiol...nid aros i’r broblem gael ei chodi...bydd bod yn weledol yn darparu sicrwydd ac yn annog pobl ifanc i ymgysylltu â ni...” Prif Gwnstabl Pam Kelly, Heddlu Gwent @GP_PamKelly

Hyfforddiant ar gyfer Cynghorwyr yng Ngwynedd (Cyngor Gwynedd) 

Mae gan Gyngor Gwynedd raglen hyfforddi sydd wedi’i ddatblygu’n dda ar gyfer staff a chynghorwyr. Mae CLlLC yn darparu hyfforddiant i gynghorwyr fel rhan o’r rhaglen hon, gan ddefnyddio dull hyfforddi/mentora hybrid i gefnogi gwaith cynghorwyr mewn cymunedau ac yn y cyngor. Yn ystod y pandemig, mae’r hyfforddiant hwn wedi cael ei gynnal ar-lein drwy Microsoft Teams. Dywedodd un o’r cynghorwyr sy’n cymryd rhan, “Yn gyffredinol, rwy’n credu bod yr hyfforddiant rwyf wedi’i dderbyn gan CLlLC wedi chwarae rhan hanfodol yn fy natblygiad fel aelod cabinet ac fel cynghorwr.  Ers y cyfnod clo, rydym wedi parhau i gael sesiynau, ac os rhywbeth, rwy’n credu bod yr elfen ddigidol wedi gwella pethau.  Yn logistaidd, mae’n llawer haws ac yn golygu llai o amser a theithio.  Nid wyf yn credu bod hyn wedi newid dynameg y berthynas hyfforddi, yr unig senario bosibl rwy’n credu y byddai sesiwn hyfforddi wyneb yn wyneb yn well na sesiwn ddigidol, fydd y sesiwn/sesiynau dechreuol.  Roeddwn eisoes wedi datblygu perthynas gweithio gyda fy hyfforddwr cyn newid o sesiynau wyneb yn wyneb i sesiynau digidol, ac felly efallai bod y sgwrs wyneb yn wyneb yn bwysig yn ystod y camau dechreuol.  Hoffwn barhau gyda’r sesiynau digidol, hyd yn oed pan fydd “pethau yn mynd yn ôl i’r arfer”.

Ar ôl dysgu o’r hyfforddiant digidol yn ystod COVID, bydd CLlLC yn cynnig hyfforddiant ar-lein, ac os yw’n bosibl, sesiwn ddechreuol wyneb yn wyneb.

Dydd Mercher, 5 Awst 2020 15:25:00 Categorïau: COVI9-19 COVID-19 (Cynghorwyr - Gweithlu) Gwynedd Llywodraethu

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30