Posts in Category: COVI9-19

Preswylwyr, busnesau a budd-ddeiliaid lleol sy’n ymwneud ag adferiad economaidd (CC Casnewydd) 

Mae adferiad economaidd, gan gynnwys ailagor canol y ddinas yn ddiogel, yn hanfodol i Gyngor Dinas Casnewydd ac mae cynllun adferiad economaidd wedi ei fabwysiadu gan gabinet y cyngor.

Fe gynhaliwyd arolwg ar gyfer preswylwyr a busnesau er mwyn deall pryderon a blaenoriaethau pobl a sefydlwyd Grŵp Tasg a Gorffen er mwyn canolbwyntio ar sut i ymgymryd ag adferiad economaidd mewn dull diogel yn seiliedig ar wybodaeth. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o Casnewydd Nawr Ardal Gwella Busnes , Heddlu Gwent, Cynrychiolwyr Busnes (gan gynnwys y Siambr Fasnach) a grwpiau’r trydydd sector fel Grŵp Mynediad Casnewydd, Guide Dogs Cymru a Pobl Casnewydd yn Gyntaf. Mae’r grŵp wedi bod yn canolbwyntio ar gyfathrebu a gwybodaeth, cefnogi busnesau Casnewydd, creu lle a diogelwch y cyhoedd.

Llyfrgelloedd yn mynd arlein i gefnogi defnyddwyr o bell (C Bro Morgannwg) 

Yn ystod y cyfnod clo fe ddatblygodd llyfrgelloedd ym Mro Morgannwg fentrau arlein i barhau i gefnogi defnyddwyr y llyfrgell o bell. Wrth i wasanaethau ailagor maent yn cynnal neu'n cynyddu lefelau o weithgarwch arlein ac yn gweld hyn fel dechrau dull newydd o weithio a darparu cynnwys arlein.

Mae’r llyfrgelloedd wedi gwneud defnydd helaeth o’r cyfryngau cymdeithasol, yn arbennig Facebook a Twitter, i ddarparu gweithgareddau niferus gan gynnwys amseroedd stori dwyieithog o lyfrgell y Bont-faen, a fideos amser rhigymau o lyfrgell Penarth.

Mae rhan helaeth y gwaith o greu’r fideos hyn yn cael ei wneud gan staff o gartref yn defnyddio eu hoffer eu hunain a’u harbenigedd eu hunain o ran ffilmio a golygu cynnwys fideo.

Mae clybiau arlein ar gyfer oedolion a phlant wedi eu sefydlu yn lle’r clybiau presennol sydd wedi eu lleoli yn y llyfrgell gan gynnwys clwb llyfrau arlein, clybiau lego arlein, clybiau côd a chlybiau celf.

Roedd cam un y broses o ailagor llyfrgelloedd Bro Morgannwg yn cynnwys darparu gwasanaeth llyfrau Clicio a Chasglu i gwsmeriaid, a datblygwyd system archebu arlein sydd wedi profi’n effeithiol.

Daeth presenoldeb cyffredinol Llyfrgelloedd Bro Morgannwg ar y cyfryngau cymdeithasol yn ganolbwynt ac maent wedi canfod eu bod yn cyrraedd cynulleidfa newydd ehangach drwy gyhoeddi cynnwys diddorol a doniol yn gyson yn hytrach na gwneud cyhoeddiadau a rhannu diweddariadau yn unig.

Dydd Iau, 17 Medi 2020 14:31:00 Categorïau: Bro Morgannwg COVI9-19 COVID-19 (Llyfrgelloedd - Digidol) Hamdden a Diwylliant

Addasu atyniad i dwristiaid at ddibenion gwahanol er mwyn cefnogi'r gymuned (CBS Caerffili) 

Mae Maenordy Llancaiach Fawr yn atyniad i dwristiaid wedi ei leoli yn Nelson, Caerffili, sy'n portreadu bywyd yn 1645 drwy ddehongliad byw i tua 60,000 o ymwelwyr a phlant ysgol bob blwyddyn. Hefyd mae yna ystafelloedd cynadledda, canolfan addysg, caffi, tŷ bwyta a siop anrhegion.

Yn ystod y cyfnod clo, fe wirfoddolodd y mwyafrif o staff i gael eu hadleoli i’r cynllun cyfeillio, i gasglu presgripsiynau a siopa ar gyfer preswylwyr diamddiffyn y fwrdeistref sirol a oedd yn gwarchod eu hunain. Ymunodd eraill â Thîm y Rhaglen Tracio ac Olrhain

Mae canolfan addysg wedi ei haddasu dros dro i weithredu fel canolbwynt dosbarthu. Caiff rhoddion eu casglu gan staff a chaiff parseli eu creu i’w dosbarthu i fanciau bwyd.

Mae’r bar a’r tŷ bwyta wedi eu defnyddio ar gyfer darparu canolbwynt gofal plant a gaiff ei gynnal mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y gwasanaeth Ysgol a Cherddoriaeth, Tîm Datblygu’r Celfyddydau a’r Gwasanaeth Ysgolion Iach er mwyn lleddfu materion yn ymwneud â gofal plant yn ystod gwyliau’r haf ar gyfer Gweithwyr Golau Glas.

Mae paratoadau ar gyfer y ‘normal newydd’ wedi cynnwys darparu gweithdai arlein a darparu gwasanaeth allgymorth i ysgolion. Mae’r caffi wedi ailagor a’r gerddi ffurfiol ac ardal y patio yn cynnwys seddi i eistedd yn yr awyr agored. Mae prydau i fynd a’r cinio dydd Sul wedi mynd o nerth i nerth.  

Theatr Clwyd yn parhau’n hanfodol ar gyfer y gymuned yn ystod y pandemig (CS y Fflint) 

Nid yw Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint ,wedi llwyfannu sioe ers misoedd ond mae wedi parhau’n hanfodol ar gyfer ei chymuned yn ystod y pandemig.

Mae wedi bod y brif ganolfan ar gyfer rhoi gwaed yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, gan gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd i gynnal eu cyflenwadau gwaed.

Gan weithio gyda gwasanaethau cymdeithasol y cyngor, maent wedi helpu gyda dosbarthu cyflenwadau bwyd i deuluoedd mewn angen o fewn y sir. Maent hefyd wedi cynnal apêl ‘Bocs Enfys’ llwyddiannus, a oedd yn gofyn i aelodau o’r gymuned i roi bocsys o ddeunyddiau celf a chrefft ar gyfer pobl ifanc ddiamddiffyn. Cafodd dros 300 eu rhoi a’u dosbarthu.

Symudodd y theatr ei holl weithdai wythnosol arlein (o'r grwpiau dementia i’r sesiynau ieuenctid) ac mae wedi bod yn eu darparu i dros 200 o bobl bob wythnos.

Dros yr haf, fe ddaeth y theatr yn un o’r prif ganolfannau ar gyfer plant diamddiffyn ac anabl yn Sir y Fflint a hefyd roedd yn cynnig lleoedd i blant gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru yn ystod gwyliau’r haf.

Mae'r theatr hefyd wedi cefnogi bachgen ifanc lleol, sydd wedi ei dderbyn i'r Ysgol Fale Frenhinol, ond y mae ei le wedi ei ohirio. Wedi i’w gynghorydd lleol gysylltu mae wedi bod yn hyfforddi ddwywaith yr wythnos ar y llwyfan.

Canolfannau Cymdogaeth yn cefnogi preswylwyr diamddiffyn yn ystod y cyfnod clo (C Casnewydd) 

Fe brofodd Canolfannau Cymdogaeth Casnewydd, pedair ohonynt i gyd, yn amhrisiadwy yn ystod y cyfnod clo gan gefnogi a chynorthwyo rhai o breswylwyr mwyaf diamddiffyn y ddinas.

Sefydlwyd rhif Rhadffôn i sicrhau fod gan breswylwyr fynediad hawdd at gefnogaeth ac mae timau’r canolfannau wedi dosbarthu dros 800 o barseli bwyd mewn argyfwng. Mae pecynnau gweithgaredd wedi eu darparu ar gyfer preswylwyr iau a hŷn, ac mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn y maes Iechyd darparwyd bwndeli babi i rieni newydd sy'n ei chael yn anodd yn ystod y cyfnod clo.  

Mae staff y canolfannau hefyd wedi cysylltu â dros 5000 o breswylwyr oedd yn gwarchod eu hunain. Maent wedi darparu gwasanaeth gwirio yn ystod y galwadau hyn, gan gynnig cefnogaeth a gwneud atgyfeiriadau i asiantaethau partner pan fo angen. Mae cymorth cyffredinol gyda siopa, casglu presgripsiwn, creu cyfeillgarwch a cherdded cŵn wedi ei ddarparu gan atgyfeiriadau i Volunteering Matters Cymru.  

Mae grwpiau cymunedol eraill wedi bod yn awyddus i helpu preswylwyr diamddiffyn, gan gynnwys Cymdeithas Cymuned Yemeni Casnewydd, sydd wedi bod yn dosbarthu bwyd i breswylwyr oedd yn hunan ynysu ac Achub y Plant, sydd wedi darparu eitemau hanfodol i deuluoedd, gan gynnwys mynediad i adnoddau digidol. Nododd arolwg yng Nghasnewydd nad oedd gan dros 2,500 o blant fynediad i ddyfais ddigidol neu gysylltiad rhyngrwyd dibynadwy. O ganlyniad cafodd bron i 800 o ddyfeisiadau eu benthyg i ddisgyblion yn ogystal â 1261 o unedau i ddarparu cysylltiad rhyngrwyd 4G.

Prosiect Diogel ac Iach i gefnogi preswylwyr diamddiffyn (C Castell-nedd Port Talbot) 

Cafodd Gwasanaeth Diogel ac Iach Cyngor Castell-nedd Port Talbot ei sefydlu ar ddechrau cyfnod y coronafeirws i gefnogi preswylwyr a oedd yn gwarchod eu hunain ac nad oedd ganddynt neb i’w ffonio am gymorth gyda thasgau dyddiol fel siopa a chasglu meddyginiaethau.

Cafodd grwpiau eraill o bobl a oedd angen cefnogaeth eu nodi gan aelodau a swyddogion hefyd, gan gynnwys pobl oedd angen hunan ynysu ac nad oeddent yn derbyn unrhyw gefnogaeth, gofalwyr ifanc, rhieni plant oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim nad oeddent yn gallu derbyn taliadau BACS, a gofalwyr pobl oedd yn gwarchod eu hunain ac yn hunan ynysu.

Derbyniodd tua 1,300 o bobl gefnogaeth gan y gwasanaeth rhwng diwedd Mawrth 2020 a diwedd Mehefin 2020.

Sefydlwyd canolfan fwyd lle roedd staff o nifer o wahanol adrannau’n cydweithio i gael bwyd, sicrhau ei fod yn cael ei storio’n ddiogel, ymdrin a dosbarthu, gwneud y gwaith dosbarthu, cadw cofnodion da, paratoi bwydlenni iach oedd yn darparu ar gyfer gofynion deietegol penodol, a sicrhau darpariaeth bwyd brys pan oedd amgylchiadau’n gofyn am hynny. Cafodd y trefniadau hyn eu nodi gan Lywodraeth Cymru fel enghraifft o arfer da.

Fe wirfoddolodd tua 100 o weithwyr yn eu hamser eu hunain a chofrestrodd tua 450 o breswylwyr i fynegi diddordeb mewn gwirfoddoli gyda’r gwasanaeth. Cafodd gwirfoddolwyr eu hyfforddi ac yna aethant ati i weithio gyda chynghorwyr lleol i gefnogi'r gymuned leol. Fe fydd Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn cael ei recriwtio er mwyn cefnogi'r prosiect a’i weithgarwch ac mae strategaeth yn cael ei datblygu gyda mewnbwn gan gynghorwyr a sefydliadau cymunedol i sefydlu’r hyn fydd ei angen yn y ‘normal newydd'.

Cyngor yn Prynu Cyfeiriadur Lleol (CSB Castell-nedd Port Talbot) 

Ar ddechrau’r cyfnod clo, fe greodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot gyfeiriadur Prynu’n Lleol Castell-nedd Port Talbot, cyfeiriadur ar-lein syml ar wefan y cyngor yn dangos pa fusnesau lleol oedd yn darparu cyflenwadau i’r cartref a chefnogaeth.

Fe grëwyd hwn i brofi’r ddamcaniaeth y byddai o gymorth i breswylwyr yn ystod Covid-19 drwy eu cyfeirio at fusnesau lleol, amlygu busnesau lleol gyda rhestr ddigidol ar ein gwefan a helpu i gefnogi a hybu’r economi leol.

Mae wedi cael effaith gadarnhaol, gyda 6,000 o ymweliadau â’r dudalen ers ei lansio. Fe fu nifer o breswylwyr yn siopa am y tro cyntaf gyda’u gwerthwr llysiau a ffrwythau lleol, cigydd neu siop fferm gan nad oeddent yn gallu siopa arlein gyda'r archfarchnadoedd mawr nad oedd yn gallu ymdopi gyda’r galw ac am y tro cyntaf fe gafodd nifer o fusnesau lleol, a oedd wedi eu heithrio'n ddigidol, y cyfle i gyrraedd cwsmeriaid newydd arlein.

Mae fersiynau eraill wedi eu darparu, gan wella cynllun y cyfeiriadur, creu categorïau i’w gwneud yn haws i breswylwyr i leoli busnesau a sefydlu cronfa ddata i storio a rheoli rhestrau busnes.

Mae'r Cyngor nawr yn bwriadu adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud yn ystod Covid-19 i ddod â’r cyngor, ei fusnesau a’i breswylwyr yn nes at ei gilydd, gyda’r weledigaeth o greu platfform ar gyfer stryd fawr rithwir i gyd-fynd â (ond nid cystadlu â’r) stryd fawr draddodiadol.

Cymorth i grwpiau o wirfoddolwyr sy’n ymdrin â heriau COVID (CS Fynwy) 

Yn Sir Fynwy, ymdriniwyd â heriau sy’n gysylltiedig â COVID-19 gydag ymateb anhygoel ac ar y cyd gan gymunedau a sefydliadau – dros chwe deg o grwpiau cymunedol yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr gyda dros 1000 o wirfoddolwyr yn dod at ei gilydd dros nos. Strategaeth Cyngor Sir Fynwy oedd i fynd i’r afael â COVID-19 gyda chymunedau ac i gefnogi’r grwpiau gwirfoddol ymhob ffordd y gallant.

Fe gydlynodd y cyngor ‘rwydwaith cymunedol rhithwir’, gyda phwrpas clir ar y cyd i ddiogelu bywyd a chefnogi cymunedau, heb unrhyw fylchau nac unrhyw ddyblygu.  

Tra roedd y grwpiau cymunedol yn gallu datblygu datrysiadau cyflym a lleol oedd yn newid bywydau pobl yn ystod y cyfnod clo a'r cyfnod o warchod, gallai'r cyngor ddarparu strwythur drwy weithio mewn partneriaeth. Cafodd yr holl unigolion eu sgrinio yn broffesiynol ac effeithlon gan weithwyr cymdeithasol i sicrhau ei bod yn briodol i wirfoddolwr eu cefnogi ac yna dyrannwyd y gefnogaeth mewn dull amserol.  

I gyd-fynd â'r rhwydweithiau rhithwir fe lansiodd y cyngor gymuned arlein - Ein Sir Fynwy, sy'n darparu strwythur amgen i bobl i ofyn am gymorth a chynnig cymorth.

Yn ymwybodol o’r potensial mewn cymunedau, mae’r cyngor yn darparu’r Rhaglen Arweinyddiaeth Gymunedol, sy'n cynnig ystod o gyfleoedd hyfforddiant, dysgu a datblygiad personol i wirfoddolwyr cymunedol, er enghraifft hyfforddiant Ysgrifennu am Grant yn Llwyddiannus i grwpiau gwirfoddol sy’n archwilio’r camau nesaf yn dilyn COVID-19.  

Gweithio ar draws adrannau i ddarparu grantiau busnes (CS Benfro)  

Drwy weithio ar draws adrannau i ymateb i’r angen i ddarparu grantiau i fusnesau lleol, roedd Cyngor Sir Penfro, awdurdod lleol bach, yn gallu mynd yn fyw gyda grantiau o fewn dyddiau a nawr mae wedi darparu dros £52M i'r economi leol. 

 

Roedd y cyngor yn defnyddio cymysgedd o reolaeth matrics a secondiadau i dynnu staff i mewn o adrannau Adfywio a Datblygu Economaidd, Refeniw a Budd-daliadau, y Timau Cyllid Allanol a Chyllid a Chyflogadwyedd. Roedd rhan o hyn yn gydnabyddiaeth nad oes gan yr un tîm unigol y sgiliau i gyflawni popeth ac roedd yna ofyniad i weithio fel 'Tîm Sir Benfro’.

Autism Wellbeing (Cyngor Sir Gar) 

Mae Autism Wellbeing yn fenter gymdeithasol nid er elw, a sefydlwyd ym mis Mai 2018, ac yn cael ei redeg gan gymysgedd o gyfarwyddwyr awtistig a rhai nad ydynt yn awtistig. Eu nod yw gwella lles pobl awtistig a lleihau eu profiadau o bryder.

Mae Autism Wellbeing yn darparu ystod o wasanaethau i bobl awtistig a’u teuluoedd, ac mae hyn i gyd yn cael ei nodi gan egwyddorion Cyfathrebu Ymatebol ac Ymyrraeth Cysylltiad Synhwyraidd. Maent yn darparu llinell gymorth dosturiol, llawn gwybodaeth i bobl awtistig a rhieni ar blant sy'n awtistig – 07393664048, Yn ychwanegol at hyn, mae Autism Wellbeing yn gweithredu dau grŵp cefnogaeth gan gymheiriaid ar-lein, un ar gyfer pobl awtistig  ac un ar gyfer rhieni ar blant awtistig . Mae’r grwpiau hyn yn ofodau diogel lle gall aelodau'r grŵp rannu profiadau a syniadau, yn ogystal â rhoi, a derbyn cefnogaeth.

Yn ystod pandemig Covid-19, mae Autism Wellbeing wedi derbyn grant gan Gronfa Ymateb Gymunedol i Covid-19 Sir Gaerfyrddin, a gefnogir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, i lunio Pecyn Cefnogaeth Covid-19 i Deuluoedd gyda Phlant Awtistig. Mae’r pecyn wedi bod yn boblogaidd iawn, ac wedi cael ei rannu’n eang gan gynghreiriad megis y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r pecyn yn cynnwys 17 taflen wybodaeth ar bynciau sy’n cynnwys bob un o’r wyth system synhwyraidd, yn ogystal â syniadau i gefnogi rhieni, plant a theuluoedd i reoli eu hunain ac eraill - Adnoddau Am Ddim C-19.

Dydd Mercher, 19 Awst 2020 09:05:00 Categorïau: Cefnogi Pobl Agored i Niwed COVI9-19 COVID-19 (Awtistiaeth - Ymgysylltu) Sir Gar

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30