Posts From Medi, 2020

Cyngor yn Prynu Cyfeiriadur Lleol (CSB Castell-nedd Port Talbot) 

Ar ddechrau’r cyfnod clo, fe greodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot gyfeiriadur Prynu’n Lleol Castell-nedd Port Talbot, cyfeiriadur ar-lein syml ar wefan y cyngor yn dangos pa fusnesau lleol oedd yn darparu cyflenwadau i’r cartref a chefnogaeth.

Fe grëwyd hwn i brofi’r ddamcaniaeth y byddai o gymorth i breswylwyr yn ystod Covid-19 drwy eu cyfeirio at fusnesau lleol, amlygu busnesau lleol gyda rhestr ddigidol ar ein gwefan a helpu i gefnogi a hybu’r economi leol.

Mae wedi cael effaith gadarnhaol, gyda 6,000 o ymweliadau â’r dudalen ers ei lansio. Fe fu nifer o breswylwyr yn siopa am y tro cyntaf gyda’u gwerthwr llysiau a ffrwythau lleol, cigydd neu siop fferm gan nad oeddent yn gallu siopa arlein gyda'r archfarchnadoedd mawr nad oedd yn gallu ymdopi gyda’r galw ac am y tro cyntaf fe gafodd nifer o fusnesau lleol, a oedd wedi eu heithrio'n ddigidol, y cyfle i gyrraedd cwsmeriaid newydd arlein.

Mae fersiynau eraill wedi eu darparu, gan wella cynllun y cyfeiriadur, creu categorïau i’w gwneud yn haws i breswylwyr i leoli busnesau a sefydlu cronfa ddata i storio a rheoli rhestrau busnes.

Mae'r Cyngor nawr yn bwriadu adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud yn ystod Covid-19 i ddod â’r cyngor, ei fusnesau a’i breswylwyr yn nes at ei gilydd, gyda’r weledigaeth o greu platfform ar gyfer stryd fawr rithwir i gyd-fynd â (ond nid cystadlu â’r) stryd fawr draddodiadol.

Cymorth i grwpiau o wirfoddolwyr sy’n ymdrin â heriau COVID (CS Fynwy) 

Yn Sir Fynwy, ymdriniwyd â heriau sy’n gysylltiedig â COVID-19 gydag ymateb anhygoel ac ar y cyd gan gymunedau a sefydliadau – dros chwe deg o grwpiau cymunedol yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr gyda dros 1000 o wirfoddolwyr yn dod at ei gilydd dros nos. Strategaeth Cyngor Sir Fynwy oedd i fynd i’r afael â COVID-19 gyda chymunedau ac i gefnogi’r grwpiau gwirfoddol ymhob ffordd y gallant.

Fe gydlynodd y cyngor ‘rwydwaith cymunedol rhithwir’, gyda phwrpas clir ar y cyd i ddiogelu bywyd a chefnogi cymunedau, heb unrhyw fylchau nac unrhyw ddyblygu.  

Tra roedd y grwpiau cymunedol yn gallu datblygu datrysiadau cyflym a lleol oedd yn newid bywydau pobl yn ystod y cyfnod clo a'r cyfnod o warchod, gallai'r cyngor ddarparu strwythur drwy weithio mewn partneriaeth. Cafodd yr holl unigolion eu sgrinio yn broffesiynol ac effeithlon gan weithwyr cymdeithasol i sicrhau ei bod yn briodol i wirfoddolwr eu cefnogi ac yna dyrannwyd y gefnogaeth mewn dull amserol.  

I gyd-fynd â'r rhwydweithiau rhithwir fe lansiodd y cyngor gymuned arlein - Ein Sir Fynwy, sy'n darparu strwythur amgen i bobl i ofyn am gymorth a chynnig cymorth.

Yn ymwybodol o’r potensial mewn cymunedau, mae’r cyngor yn darparu’r Rhaglen Arweinyddiaeth Gymunedol, sy'n cynnig ystod o gyfleoedd hyfforddiant, dysgu a datblygiad personol i wirfoddolwyr cymunedol, er enghraifft hyfforddiant Ysgrifennu am Grant yn Llwyddiannus i grwpiau gwirfoddol sy’n archwilio’r camau nesaf yn dilyn COVID-19.  

Gweithio ar draws adrannau i ddarparu grantiau busnes (CS Benfro)  

Drwy weithio ar draws adrannau i ymateb i’r angen i ddarparu grantiau i fusnesau lleol, roedd Cyngor Sir Penfro, awdurdod lleol bach, yn gallu mynd yn fyw gyda grantiau o fewn dyddiau a nawr mae wedi darparu dros £52M i'r economi leol. 

 

Roedd y cyngor yn defnyddio cymysgedd o reolaeth matrics a secondiadau i dynnu staff i mewn o adrannau Adfywio a Datblygu Economaidd, Refeniw a Budd-daliadau, y Timau Cyllid Allanol a Chyllid a Chyflogadwyedd. Roedd rhan o hyn yn gydnabyddiaeth nad oes gan yr un tîm unigol y sgiliau i gyflawni popeth ac roedd yna ofyniad i weithio fel 'Tîm Sir Benfro’.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30