Arfer Da gan y Cyngor http://www.wlga.cymru/good-council-practice http://www.rssboard.org/rss-specification mojoPortal Blog Module cy-GB 1 no FiNi – Cydweithio i ddatblygu Arweinwyr gwych (CBS Caerffili a Heddlu Gwent) Mae Cyngor Caerffili a Heddlu Gwent wedi ymuno i lansio rhaglen arweinyddiaeth arloesol ar y cyd gyda'r nod o ddatblygu cenhedlaeth newydd o arweinwyr beiddgar ac arloesol.

Cafodd y fenter, o’r enw ‘FiNi’, ei lansio heddiw (dydd Mercher 7 Gorffennaf) gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

Syniad Christina Harrhy (Prif Weithredwr CBSC) a Pam Kelly (Prif Gwnstabl Heddlu Gwent) yw FiNi sy'n rhannu dyhead i ddatblygu rhaglen arweinyddiaeth uchelgeisiol i sicrhau bod gan uwch reolwyr y sgiliau a'r cymwyseddau uchaf.

Bydd wyth o weithwyr o'r ddau sefydliad yn ffurfio'r garfan gyntaf erioed i gymryd rhan yn y rhaglen - pedwar o Gyngor Caerffili a phedwar o Heddlu Gwent. Bydd y rhaglen arweinyddiaeth 12 mis yn cael ei darparu gan Brifysgol De Cymru a bydd y garfan gychwynnol yn allweddol wrth helpu llunio cyfeiriad a chynnwys y cwrs ar gyfer cyfranogwyr yn y dyfodol.

]]>
http://www.wlga.cymru/meus-–-working-together-to-develop-brilliant-leaders-caerphilly-cbc-and-gwent-police http://www.wlga.cymru/meus-–-working-together-to-develop-brilliant-leaders-caerphilly-cbc-and-gwent-police http://www.wlga.cymru/meus-–-working-together-to-develop-brilliant-leaders-caerphilly-cbc-and-gwent-police Wed, 22 Jun 2022 10:51:00 GMT