Arfer Da gan y Cyngor http://www.wlga.cymru/good-council-practice http://www.rssboard.org/rss-specification mojoPortal Blog Module cy-GB 1 no Addasu atyniad i dwristiaid at ddibenion gwahanol er mwyn cefnogi'r gymuned (CBS Caerffili) Mae Maenordy Llancaiach Fawr yn atyniad i dwristiaid wedi ei leoli yn Nelson, Caerffili, sy'n portreadu bywyd yn 1645 drwy ddehongliad byw i tua 60,000 o ymwelwyr a phlant ysgol bob blwyddyn. Hefyd mae yna ystafelloedd cynadledda, canolfan addysg, caffi, tŷ bwyta a siop anrhegion.

Yn ystod y cyfnod clo, fe wirfoddolodd y mwyafrif o staff i gael eu hadleoli i’r cynllun cyfeillio, i gasglu presgripsiynau a siopa ar gyfer preswylwyr diamddiffyn y fwrdeistref sirol a oedd yn gwarchod eu hunain. Ymunodd eraill â Thîm y Rhaglen Tracio ac Olrhain

Mae canolfan addysg wedi ei haddasu dros dro i weithredu fel canolbwynt dosbarthu. Caiff rhoddion eu casglu gan staff a chaiff parseli eu creu i’w dosbarthu i fanciau bwyd.

Mae’r bar a’r tŷ bwyta wedi eu defnyddio ar gyfer darparu canolbwynt gofal plant a gaiff ei gynnal mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y gwasanaeth Ysgol a Cherddoriaeth, Tîm Datblygu’r Celfyddydau a’r Gwasanaeth Ysgolion Iach er mwyn lleddfu materion yn ymwneud â gofal plant yn ystod gwyliau’r haf ar gyfer Gweithwyr Golau Glas.

Mae paratoadau ar gyfer y ‘normal newydd’ wedi cynnwys darparu gweithdai arlein a darparu gwasanaeth allgymorth i ysgolion. Mae’r caffi wedi ailagor a’r gerddi ffurfiol ac ardal y patio yn cynnwys seddi i eistedd yn yr awyr agored. Mae prydau i fynd a’r cinio dydd Sul wedi mynd o nerth i nerth.  

]]>
http://www.wlga.cymru/repurposing-tourist-attraction-to-support-the-community-caerphilly-cbc http://www.wlga.cymru/repurposing-tourist-attraction-to-support-the-community-caerphilly-cbc http://www.wlga.cymru/repurposing-tourist-attraction-to-support-the-community-caerphilly-cbc Thu, 17 Sep 2020 13:27:00 GMT