Arfer Da gan y Cyngor http://www.wlga.cymru/good-council-practice http://www.rssboard.org/rss-specification mojoPortal Blog Module cy-GB 1 no Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru Comisiynodd CLlLC yr adolygiad hwn ar sefyllfa bresennol Cynllunio Datgarboneiddio yn Llywodraeth Leol Cymru fel rhan o’u Rhaglen Cefnogi Trosglwyddiad ac Adferiad i ddarparu gwybodaeth i’r unigolion hynny sy’n gweithio yn y maes polisi hwn; i nodi a rhannu ymarfer; a ffyrdd o gefnogi swyddogion ac aelodau sy’n gweithio yn y maes hwn.

 

Bwriad yr ymchwil yw llywio dull llywodraeth leol o ran symud tuag at y targed Carbon Sero Net 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus a’r targed Carbon Sero Net 2050 i Gymru. Mae’r ymchwil wedi cael ei lunio i lywio gwaith ymarferwyr datgarboneiddio, uwch reolwyr, aelodau arweiniol a staff allweddol o fewn awdurdodau lleol sydd angen bod yn rhan o’r rhaglen ddatgarboneiddio. Bydd y gwaith hefyd yn llywio gwaith cenedlaethol Panel Strategaeth Datgarboneiddio Llywodraeth Leol.

 

Mae’r gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar yr agweddau canlynol o gynnydd yn y gwaith Cynllunio Datgarboneiddio, cynhyrchu, cyflawni, cwmpas ac uchelgais, trefniadau llywodraethu, natur yr ymyriadau yn y cynlluniau, mesur llinell sylfaen allyriadau nwyon tŷ gwydr ac anghenion cymorth. Roedd yr ymchwil yn defnyddio tystiolaeth ddogfennol a safbwyntiau ymarferwyr awdurdod lleol arbenigol i lywio’r canfyddiadau.

 

Roedd pob un o’r 22 awdurdod yn rhan o’r ymchwil hwn gyda dros 50 o unigolion yn rhan o drafodaethau unigol, trafodaethau grŵp a gweithdai rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2021.

]]>
http://www.wlga.cymru/welsh-local-government-decarbonisation-planning-review http://www.wlga.cymru/welsh-local-government-decarbonisation-planning-review http://www.wlga.cymru/welsh-local-government-decarbonisation-planning-review Wed, 19 Jan 2022 09:29:00 GMT
Cefnogi Pobl Ddigartref yn ystod y pandemig (Cymru Gyfan) Roedd cronfa Llywodraeth Cymru o £10 miliwn yn galluogi awdurdodau lleol i ddod i gyswllt â’r holl rai oedd yn cysgu ar y stryd a sicrhau bod ganddynt lety diogel ac addas i fodloni cyfyngiadau’r pandemig. O fewn pythefnos gyntaf y cyfnod clo, roedd awdurdodau lleol wedi rhoi llety i dros 500 o aelwydydd a oedd un ai wedi bod yn cysgu ar y stryd neu mewn llety oedd yn anaddas i gadw pellter cymdeithasol. Mae’r ffigwr hwn wedi cynyddu i dros 1000 o aelwydydd ers dechrau’r pandemig.

 

Roedd yn rhaid i awdurdodau lleol aildrefnu timau ac ailbennu staff i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu’n effeithiol a hefyd i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio gyda phartneriaid. Roedd un gell gydlynu ganolog ym mhob cyngor yn dod â phartneriaid fel rhai o’r maes iechyd, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, yr heddlu a’r gwasanaeth prawf, sefydliadau’r trydydd sector, ac ati, ynghyd i gynllunio a darparu gwasanaethau ar y cyd.

 

Mae’r profiadau hyn wedi helpu i siapio a chynllunio darpariaeth gwasanaethau cymorth digartrefedd a thai heddiw ac yn y dyfodol.

Parhau i gefnogi pobl ddigartref yn ystod pandemig y coronafeirws: canllawiau i awdurdodau lleol | LLYW.CYMRU

]]>
http://www.wlga.cymru/supporting-homeless-people-during-the-pandemic-all-wales http://www.wlga.cymru/supporting-homeless-people-during-the-pandemic-all-wales http://www.wlga.cymru/supporting-homeless-people-during-the-pandemic-all-wales Wed, 25 Aug 2021 15:41:00 GMT
Tystysgrif Gymeradwyaeth ar gyfer y Wobr Caffael Ysgol – CLlLC a Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) yn caffael gorchuddion wyneb i blant ysgolion Cymru Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) wedi cael tystysgrif gymeradwyaeth ar gyfer y Wobr Caffael Ysgolion  gan Wobrau Busnes Addysg am gydweithio wrth ddarparu gorchuddion wyneb i blant ysgol. Yn ystod y pandemig Covid-19, bu i’r GCC weithio gyda Lyreco, CLlLC a RotoMedical, adran offer cyfarpar diogelu a meddygol Rototherm Group, ym Margam, De Cymru, i gynhyrchu a dosbarthu gorchudd wyneb 3 haen i blant ysgol Cymru trwy'r fframwaith GCC ar gyfer cyfarpar diogelu personol. Bu i CLlLC amlygu’r angen i ddarparu gorchuddion wyneb, i ysgolion Cymru i GCC yn dilyn cyhoeddi grant Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol Cymru i brynu’r eitemau hyn. Roedd hefyd ddyhead i gynhyrchu gorchuddion wyneb yng Nghymru. Yna, bu i GCC a CLlLC weithio gyda RotoMedical i ddeall sut y gallant helpu i wasanaethu sector cyhoeddus Cymru yn y frwydr yn erbyn y feirws. Prynodd Lyreco y cynnych gan RotoMedical ar ran GCC a’u dosbarthu i gwsmeriaid gan ddefnyddio eu rhwydwaith logisteg cenedlaethol eu hunain. Mae Lyreco yn gwasanaethu eu cwsmeriaid de Cymru o’u canolfan ddosbarthu ym Mhen-y-Bont ar Ogwr a chwsmeriaid Gogledd Cymru o ychydig dros y ffin yn Warrington.

]]>
http://www.wlga.cymru/commended-certificate-for-the-school-procurement-award-–-wlga-and-nps-procurement-of-face-coverings-to-welsh-school-children http://www.wlga.cymru/commended-certificate-for-the-school-procurement-award-–-wlga-and-nps-procurement-of-face-coverings-to-welsh-school-children http://www.wlga.cymru/commended-certificate-for-the-school-procurement-award-–-wlga-and-nps-procurement-of-face-coverings-to-welsh-school-children Fri, 20 Aug 2021 11:23:00 GMT
Ymateb Dechreuol Arlwywyr Ysgolion i Brydau Ysgol am Ddim (Cymru Gyfan) Yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru bod addysg statudol yn cael ei atal dros dro o ganol mis Mawrth 2020, un o’r pryderon mwyaf oedd sut i ddarparu ar gyfer y plant oedd â hawl i brydau ysgol am ddim yn ystod y cyfnod hwn. Yn yr wythnosau cyntaf, roedd Awdurdodau Lleol (ALl) yn darparu pecynnau bwyd i’w casglu o’r ysgolion, canolfannau lleol neu eu danfon i gartrefi. Fodd bynnag, roedd y nifer oedd yn defnyddio’r gwasanaeth yn isel, ac roedd gwastraff yn uchel felly nid oedd hyn yn gynaliadwy yn yr hirdymor.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod £7M ar gael i ALl ddarparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys yn ystod gwyliau’r Pasg, a £33M ychwanegol hyd at ddiwedd gwyliau’r haf. Mewn ymateb, cynhaliodd a rheolodd CLlLC gyfarfodydd ar-lein cenedlaethol a rhanbarthol gydag arlwywyr ALl a Llywodraeth Cymru i olrhain a rhannu gwybodaeth am ymateb arlwywyr ysgolion a materion oedd yn codi. Roedd y cyfarfodydd hyn yn cyfrannu at Ganllawiau Prydau Ysgol am Ddim a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod y cyfnod dechreuol, datblygodd yr ALl ddarpariaeth yn unol â’u hanghenion a galw lleol a chynigiwyd y dewisiadau canlynol: taliadau uniongyrchol (17), danfon bwyd (10), talebau bwyd (8) neu wasanaeth casglu (1). Fodd bynnag, roedd y mwyafrif o ALl yn cynnig nifer o ddewisiadau, a oedd yn gweithio’n dda ac yn dangos pwysigrwydd dull lleol i gefnogi eu cymunedau lleol.

Datblygodd a chyhoeddodd CLlLC daflen wybodaeth Gwneud y Mwyaf o'ch taliadau neu dalebau Prydau Ysgol am Ddim i bob ALl er mwyn eu rhannu â rhieni, gan ddarparu argymhellion defnyddiol ar gynllunio, siopa a pharatoi bwyd maethlon, ynghyd â rhestr siopa posibl. Roedd Data Cymru hefyd yn casglu data ar ymateb ALl i ddarparu prydau ysgol am ddim yn ystod y cyfnod hwn.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar yr ymateb dechreuol yn y Cyflwyniad 'Trosolwg o ymatebion Prydau Ysgol am Ddim  i COVID-19 yng Nghymru'.  

]]>
http://www.wlga.cymru/school-catering-initial-response-to-free-school-meals-fsm-all-wales http://www.wlga.cymru/school-catering-initial-response-to-free-school-meals-fsm-all-wales http://www.wlga.cymru/school-catering-initial-response-to-free-school-meals-fsm-all-wales Thu, 17 Sep 2020 15:21:00 GMT
Arweinwyr Awtistiaeth Covid-19 (Cymru Gyfan) Ar hyn o bryd mae 29 o arweinwyr Autism Leads mewn Awdurdodau Lleol ar draws Cymru sy’n ffurfio rhwydwaith o arferion ac ymrwymiad ar y cyd. Trwy gydol Covid-19, mae’r rhwydwaith wedi parhau i gefnogi ac ymrwymo gyda’u cymunedau awtistig lleol. Rhai enghreifftiau o’u harferion arloesol:

  • Cymorth un i un ‘ar y we’ parhaus i oedolion diamddiffyn, neu i’r rheiny gydag anghenion sylweddol ym Mlaenau Gwent.
  • Parti Diwrnod VE ar y we fel bod y gymuned yn gallu cadw mewn cysylltiad yn Wrecsam.
  • Sir y Fflint wedi darparu llyfrau stori yn egluro Covid-19 i blant bach, yn cynnwys plant awtistig.
  • Datblygwyd “cerdyn” i roi gwell mecanweithiau cyfathrebu i bobl awtistig gyda’r gwasanaethau brys yn ystod y cyfnod clo yn Sir Ddinbych.
  •  “Fforwm” ar y we i oedolion awtistig ifanc yn datblygu sgiliau bywyd yng Nghaerdydd a’r Fro.
  • Dadansoddiad trylwyr o’r “gwersi a ddysgwyd” yn ystod y cyfnod clo, yn arwain at ail-ddylunio ac ail-ddatblygu rhai o’r gwasanaethau yn Nhorfaen.
  • Deg “hwb” wedi’u hagor yn ystod y cyfnod clo i gefnogi teuluoedd yn Sir Benfro.
  • Ymrwymiad gydag oedolion awtistig a’r rheiny gydag anabledd dysgu trwy gydol y cyfnod clo yng Ngwynedd.

Mae’r Tîm Awtistiaeth Genedlaethol wedi parhau i drefnu cyfarfodydd rhwydwaith Arweinwyr Awtistiaeth Genedlaethol bob chwarter ar y we, ac wedi cyflwyno cyfarfodydd “Hwb” rhanbarthol i annog ymrwymiad cadarn ar draws yr arbenigedd ac i roi cyfle i rannu arfer da ar lefel cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae’r lefelau presenoldeb wedi torri record trwy’r fformat newydd hwn gan fod mwy o Arweinwyr yn gallu mynychu gan nad oes angen neilltuo amser i deithio i’r cyfarfodydd.

Mae’r Arweinwyr yn parhau i chwarae rôl hanfodol mewn lledaenu gwybodaeth gan y Tîm Awtistiaeth Genedlaethol yn lleol ac yn cyflwyno polisi ac arweiniad cenedlaethol trwy rwydweithiau lleol ac mewn dull llawr gwlad.,Mae’r rhwydwaith yn parhau i ‘gyfeirio’r’ pobl y maen nhw’n ei gefnogi a chydweithwyr proffesiynol i wefan y Tîm Awtistiaeth Genedlaethol Gwybodaeth Coronafeirws (Covid-19) ac i dudalennau  Facebook a Twitter.

]]>
http://www.wlga.cymru/autism-leads-covid-19-all-wales http://www.wlga.cymru/autism-leads-covid-19-all-wales http://www.wlga.cymru/autism-leads-covid-19-all-wales Tue, 11 Aug 2020 15:11:00 GMT
Tîm Awtistiaeth Cymru ar y We Covid-19 (Cymru Gyfan) Sefydlwyd “Tîm Awtistiaeth Cymru ar y We” gan y Tîm Awtistiaeth Genedlaethol ar ddechrau cyfnod clo Covid-19, ac mae ei gyfarfodydd yn parhau i gael eu trefnu a’u harwain gan Arweinydd Proffesiynol Awtistiaeth Genedlaethol. Mae’r Grŵp yn cynnwys pobl awtistig, pobl broffesiynol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol, grwpiau gwirfoddol o bob cwr o Gymru a’r Tîm Awtistiaeth Genedlaethol. Mae’r Grŵp wedi bod yn cyfarfod yn wythnosol i drafod achosion “byw” sydd yn wynebu’r gymuned awtistig ac i baratoi adnoddau defnyddiol i gefnogi pobl awtistig a’u teuluoedd a’u gofalwyr yn ystod Covid-19.

Yna mae’r adnoddau yn cael eu rhannu ar hwb dudalen we Tîm Awtistiaeth Genedlaethol Gwybodaeth Coronafeirws (Covid-19) a’u cyhoeddi ar dudalennau Tîm Awtistiaeth Genedlaethol Facebook a Twitter  Mae’r holl adnoddau y bydd y Grŵp yn eu llunio ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn cynnwys, ond ddim yn gyfyngedig i:

Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar y we sydd yn galluogi seicolegwyr a seiciatryddion o bob cwr o’r wlad i fynychu, ni fyddai’r arbenigwyr hyn ar gael fel arall oherwydd diffyg amser i deithio i’r cyfarfodydd.  Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo barhau i gael eu llacio yng Nghymru, bydd y Grŵp yn cyfarfod yn llai aml ond yn parhau i ddatblygu cyngor ac arweiniad defnyddiol ynghylch achosion fel pontio nôl i ysgol, trafnidiaeth a brechiadau.

]]>
http://www.wlga.cymru/virtual-autism-team-wales-covid-19-all-wales http://www.wlga.cymru/virtual-autism-team-wales-covid-19-all-wales http://www.wlga.cymru/virtual-autism-team-wales-covid-19-all-wales Tue, 11 Aug 2020 15:10:00 GMT
Covid-19 Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig (Cymru Gyfan) Mae 7 Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ar draws Cymru.  Maent yn bartneriaethau rhwng y 22 ALl a 7 Bwrdd Iechyd – sydd yn adlewyrchu ôl troed y Bwrdd Iechyd.  Mae gan y gwasanaethau rôl ddeublyg i gyflawni asesiadau diagnostig awtistiaeth oedolion a chynnig cymorth, cyngor ac arweiniad i oedolion awtistig, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.  Mae Covid-19 wedi golygu bod yr holl wasanaethau wedi addasu eu harferion a datblygu datrysiadau arloesol, megis:

  • Sesiynau galw heibio cyngor a gwybodaeth ar-lein
  • Cyrsiau ôl ddiagnostig ar gyfer oedolion awtistig ar-lein
  • Sesiynau hyfforddi ar-lein
  • Casglu gwybodaeth yn ddigidol er mwyn hysbysu’r asesiadau diagnostig
  • Cynnal sesiynau mewn gofod diogel e.e. yn yr ardd
  • Defnyddio ‘Attend Anywhere’, ‘Zoom’ a ‘MS Teams’ i gynnig sesiynau cyngor, arweiniad a chefnogaeth
  • Datblygu sesiynau ioga ar-lein
  • Datblygu cefnogaeth gan gymheiriaid ar-lein

Mae ymchwil wedi cael ei adeiladu i mewn i nifer o’r prosiectau er mwyn archwilio effeithlonrwydd, effaith hirdymor a hyfywedd datblygu dull cymysg parhaus.  Mae’r adborth dechreuol gan nifer o fobl awtistig wedi bod yn gadarnhaol iawn, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig. Mae wedi lleihau pryder o ran mynd i leoliadau, swyddfeydd ac ati. Bydd canlyniad yr ymchwil yn cael ei fwydo i mewn i gynlluniau datblygu hirdymor ar gyfer y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a gwasanaethau awtistiaeth yn gyffredinol yng Nghymru.

]]>
http://www.wlga.cymru/integrated-autism-services-covid-19-all-wales http://www.wlga.cymru/integrated-autism-services-covid-19-all-wales http://www.wlga.cymru/integrated-autism-services-covid-19-all-wales Fri, 07 Aug 2020 07:32:00 GMT