Arfer Da gan y Cyngor http://www.wlga.cymru/good-council-practice http://www.rssboard.org/rss-specification mojoPortal Blog Module cy-GB 1 no Arweinwyr Awtistiaeth Covid-19 (Cymru Gyfan) Ar hyn o bryd mae 29 o arweinwyr Autism Leads mewn Awdurdodau Lleol ar draws Cymru sy’n ffurfio rhwydwaith o arferion ac ymrwymiad ar y cyd. Trwy gydol Covid-19, mae’r rhwydwaith wedi parhau i gefnogi ac ymrwymo gyda’u cymunedau awtistig lleol. Rhai enghreifftiau o’u harferion arloesol:

  • Cymorth un i un ‘ar y we’ parhaus i oedolion diamddiffyn, neu i’r rheiny gydag anghenion sylweddol ym Mlaenau Gwent.
  • Parti Diwrnod VE ar y we fel bod y gymuned yn gallu cadw mewn cysylltiad yn Wrecsam.
  • Sir y Fflint wedi darparu llyfrau stori yn egluro Covid-19 i blant bach, yn cynnwys plant awtistig.
  • Datblygwyd “cerdyn” i roi gwell mecanweithiau cyfathrebu i bobl awtistig gyda’r gwasanaethau brys yn ystod y cyfnod clo yn Sir Ddinbych.
  •  “Fforwm” ar y we i oedolion awtistig ifanc yn datblygu sgiliau bywyd yng Nghaerdydd a’r Fro.
  • Dadansoddiad trylwyr o’r “gwersi a ddysgwyd” yn ystod y cyfnod clo, yn arwain at ail-ddylunio ac ail-ddatblygu rhai o’r gwasanaethau yn Nhorfaen.
  • Deg “hwb” wedi’u hagor yn ystod y cyfnod clo i gefnogi teuluoedd yn Sir Benfro.
  • Ymrwymiad gydag oedolion awtistig a’r rheiny gydag anabledd dysgu trwy gydol y cyfnod clo yng Ngwynedd.

Mae’r Tîm Awtistiaeth Genedlaethol wedi parhau i drefnu cyfarfodydd rhwydwaith Arweinwyr Awtistiaeth Genedlaethol bob chwarter ar y we, ac wedi cyflwyno cyfarfodydd “Hwb” rhanbarthol i annog ymrwymiad cadarn ar draws yr arbenigedd ac i roi cyfle i rannu arfer da ar lefel cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae’r lefelau presenoldeb wedi torri record trwy’r fformat newydd hwn gan fod mwy o Arweinwyr yn gallu mynychu gan nad oes angen neilltuo amser i deithio i’r cyfarfodydd.

Mae’r Arweinwyr yn parhau i chwarae rôl hanfodol mewn lledaenu gwybodaeth gan y Tîm Awtistiaeth Genedlaethol yn lleol ac yn cyflwyno polisi ac arweiniad cenedlaethol trwy rwydweithiau lleol ac mewn dull llawr gwlad.,Mae’r rhwydwaith yn parhau i ‘gyfeirio’r’ pobl y maen nhw’n ei gefnogi a chydweithwyr proffesiynol i wefan y Tîm Awtistiaeth Genedlaethol Gwybodaeth Coronafeirws (Covid-19) ac i dudalennau  Facebook a Twitter.

]]>
http://www.wlga.cymru/autism-leads-covid-19-all-wales http://www.wlga.cymru/autism-leads-covid-19-all-wales http://www.wlga.cymru/autism-leads-covid-19-all-wales Tue, 11 Aug 2020 15:11:00 GMT
Covid-19 Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig (Cymru Gyfan) Mae 7 Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ar draws Cymru.  Maent yn bartneriaethau rhwng y 22 ALl a 7 Bwrdd Iechyd – sydd yn adlewyrchu ôl troed y Bwrdd Iechyd.  Mae gan y gwasanaethau rôl ddeublyg i gyflawni asesiadau diagnostig awtistiaeth oedolion a chynnig cymorth, cyngor ac arweiniad i oedolion awtistig, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.  Mae Covid-19 wedi golygu bod yr holl wasanaethau wedi addasu eu harferion a datblygu datrysiadau arloesol, megis:

  • Sesiynau galw heibio cyngor a gwybodaeth ar-lein
  • Cyrsiau ôl ddiagnostig ar gyfer oedolion awtistig ar-lein
  • Sesiynau hyfforddi ar-lein
  • Casglu gwybodaeth yn ddigidol er mwyn hysbysu’r asesiadau diagnostig
  • Cynnal sesiynau mewn gofod diogel e.e. yn yr ardd
  • Defnyddio ‘Attend Anywhere’, ‘Zoom’ a ‘MS Teams’ i gynnig sesiynau cyngor, arweiniad a chefnogaeth
  • Datblygu sesiynau ioga ar-lein
  • Datblygu cefnogaeth gan gymheiriaid ar-lein

Mae ymchwil wedi cael ei adeiladu i mewn i nifer o’r prosiectau er mwyn archwilio effeithlonrwydd, effaith hirdymor a hyfywedd datblygu dull cymysg parhaus.  Mae’r adborth dechreuol gan nifer o fobl awtistig wedi bod yn gadarnhaol iawn, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig. Mae wedi lleihau pryder o ran mynd i leoliadau, swyddfeydd ac ati. Bydd canlyniad yr ymchwil yn cael ei fwydo i mewn i gynlluniau datblygu hirdymor ar gyfer y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a gwasanaethau awtistiaeth yn gyffredinol yng Nghymru.

]]>
http://www.wlga.cymru/integrated-autism-services-covid-19-all-wales http://www.wlga.cymru/integrated-autism-services-covid-19-all-wales http://www.wlga.cymru/integrated-autism-services-covid-19-all-wales Fri, 07 Aug 2020 07:32:00 GMT