Arfer Da gan y Cyngor http://www.wlga.cymru/good-council-practice http://www.rssboard.org/rss-specification mojoPortal Blog Module cy-GB 1 no Llwyfan Rhith-Amgylchedd Dysgu (Cyngor Sir Benfro) Mae Tîm Digartrefedd Ymhlith Pobl Ifanc Sir Benfro wedi addasu ei arferion i ymgysylltu, addysgu, rhoi gwybod a chynorthwyo pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol. Mae’r mentrau hyn yn cynnwys: Cyrsiau Sgiliau Tenantiaeth ac Ymwybyddiaeth o Ddigartrefedd wedi’u darparu ar ffurf rhaglen ddysgu cyfunol; Sesiynau Rhyngweithiol gyda mynediad i weithwyr ieuenctid, yn ogystal ag ystorfa o adnoddau ac ystod o heriau, cwisiau, tasgau gwaith a fideos, wedi’u cynnal ar lwyfan Rhith-amgylchedd Dysgu. Bydd gwaith yr unigolion yn cael ei osod a’i fonitro drwy’r llwyfan hwn ond mi fydd yna gyfle i wneud apwyntiad i ddod i’n hamgylchedd dysgu yn y Ganolfan Byw'n Annibynnol. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynllunio i gyd-fynd â cherrig milltir dysgu allweddol a gyrhaeddir yn y Rhith-Amgylchedd Dysgu. Bydd y rheiny sydd heb sgiliau TGCh i gwblhau’r tasgau ar y llwyfan hwn yn cael cynnig sesiynau wyneb yn wyneb ychwanegol a bydd y rheiny heb ddyfais briodol yn cael benthyg un.

]]>
http://www.wlga.cymru/virtual-learning-environment-platform-pembrokeshire-cc http://www.wlga.cymru/virtual-learning-environment-platform-pembrokeshire-cc http://www.wlga.cymru/virtual-learning-environment-platform-pembrokeshire-cc Thu, 16 Jul 2020 16:40:00 GMT