News http://www.wlga.cymru/news http://www.rssboard.org/rss-specification mojoPortal Blog Module cy-GB 120 no Cynghorau i ymestyn darpariaeth prydau ysgol am ddim i wyliau Ebrill a Mai Mae CLlLC wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd darpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim yn parhau i fod ar gael i blant o deuluoedd incwm isel trwy wyliau ysgol y Pasg a’r Sulgwyn.

Mae £9m wedi cael ei fuddosddi i helpu cynghorau i gynnig prydau maethlon i ddisgyblion cymwys hyd ddiwedd gwyliau hanner tymor fis Mai, gan gynnwys pob un o wyliau banc yn ystod y cyfnod.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Bydd cymaint o deuluoedd sy’n ei chael hi’n andros o anodd oherwydd costau byw yn buddio o’r estyniad i brydau ysgol am ddim.

“Rwyf yn falch iawn o’r gwaith mae’n cynghorau wedi ei wneud, ac yn parhau i’w wneud, i sicrhau bod y rhai cymwys yn derbyn y gefnogaeth bwysig yma.

“Dyma eisampl arall o’r ffordd y mae’n cymunedau ar eu h’ennill pan fo Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn cydweithio’n agos.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price (Sir Gaerfyrddin), Dirprwy Lefarydd CLlLC dros Addysg

“Mae’r cyhoeddiad yma heddiw yn cynnig cymorth i lu o deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd ar hyn o bryd.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor allweddol yw bwyd a maeth i ddatblygiad plant a phobl ifanc.

“O ganlyniad i’r Cytundeb Cydweithio blaengar rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, bydd cynghorau ledled Cymru yn gallu estyn y gefnogaeth hollbwysig yma i ddisgyblion a theuluoedd cymwys “

]]>
http://www.wlga.cymru/council-delivered-free-school-meals-extended-to-april-and-may-holidays http://www.wlga.cymru/council-delivered-free-school-meals-extended-to-april-and-may-holidays http://www.wlga.cymru/council-delivered-free-school-meals-extended-to-april-and-may-holidays Thu, 09 Mar 2023 15:21:00 GMT
CLlLC yn croesawu ailgyflwyno gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd Yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd gorchuddion wyneb yn cael eu hailgyflwyno mewn ysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Dwi’n croesawu penderfyniad y Gweinidog heddiw i ail-gyflwyno gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd. Mae’n ymateb synhwyrol a chymesur i’r sefyllfa pryderus sy’n datblygu, ac yn cael ei wneud er lles disgyblion a’r holl staff.”

]]>
http://www.wlga.cymru/wlga-welcomes-reintroduction-of-face-masks-in-secondary-schools- http://www.wlga.cymru/wlga-welcomes-reintroduction-of-face-masks-in-secondary-schools- http://www.wlga.cymru/wlga-welcomes-reintroduction-of-face-masks-in-secondary-schools- Mon, 29 Nov 2021 22:20:00 GMT
Angen eglurder o ran amserlen dychwelyd ysgolion Mae llywodraeth leol yn galw ar Lywodraeth Cymru am fap ffordd clir ar gyfer dod a mwy o ddisgyblion nôl i’r ysgol pan fo’n ddiogel i wneud hynny.

Yn flaenorol, cyhoeddwyd cychwyn ar gynllun cam-wrth-gam gan Lywodraeth Cymru o’r wythnos yn cychwyn ddydd Llun 22 Chwefror. Mae CLlLC nawr yn chwilio am syniad clir am pryd y gall grwpiau eraill ddychwelyd i’r ysgol i ailgydio’n ddiogel mewn dysgu wyneb-i-wyneb.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Trwy gydol yr argyfwng, mae llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth i flaenoriaethu addysg. Rydyn ni’n gwybod pa mor bryderus y bu’r flwyddyn ddiwethaf i’r holl ddysgwyr, yn enwedig y blynyddoedd hynny sydd wedi gweld asesiadau arferol yn cael eu tarfu o ganlyniad i’r argyfwng a sy’n edrych ymlaen i ddal i fyny gyda’u haddysg.

“Croesawn y ffaith bod dychwelyd plant i’r ysgol yn parhau i fod yn flaenoriaeth bennaf i Lywodraeth Cymru gan ei fod yn hollbwysig i addysg a datblygiad ein plant yn eu blynyddoedd ffurfiannol. Darparwyd eglurder gan y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf y cafodd ei groesawu gan ddysgwyr, eu teuluoedd, a staff mewn ysgolion. Mae’n bwysig rwan ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd i gael cynllun clir ynglyn â sut i ddychwelyd grwpiau a blynyddoedd eraill o ddisgyblion yn ôl i’r ysgol i ailddechrau dysgu wyneb-i-wyneb, pan fo cyfradd yr haint yn rhoi digon o hyblygrwydd i wneud hynny’n ddiogel, ac ar gyngor y Prif Swyddog Meddygol. Byddai cael cynllun o’r fath yn helpu i roi digon o amser i awdurdodau lleol ac ysgolion i baratoi, a byddai’n helpu i sicrhau staff, dysgwyr, a’u teuluoedd o’r ffordd ymlaen.”

-DIWEDD-

]]>
http://www.wlga.cymru/clear-timescale-needed-for-schools-return http://www.wlga.cymru/clear-timescale-needed-for-schools-return http://www.wlga.cymru/clear-timescale-needed-for-schools-return Wed, 17 Feb 2021 10:45:00 GMT
Dull gweithredu cyffredin ar gyfer ailagor ysgolion ym mis Ionawr Yn dilyn trafodaethau helaeth, mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi cytuno ar ddull gweithredu cyffredin ar gyfer dychwelyd i'r ysgol ym mis Ionawr.

Gyda lefelau trosglwyddo’r coronafeirws yn parhau i gynyddu ledled Cymru, ac ansicrwydd ynghylch pa effaith y gallai hynny ei chael ar lefelau staffio ysgolion dros gyfnod y Nadolig, bydd rhywfaint o hyblygrwydd ar ddechrau'r tymor. Fodd bynnag, ein blaenoriaeth o hyd yw amharu cyn lleied â phosibl ar addysg ein plant a'n pobl ifanc, a dysgu wyneb-yn-wyneb ddylai ddigwydd yn ddiofyn oni bai bod rhesymau iechyd a diogelwch clir dros symud i ddysgu o bell.

I'r rhan fwyaf o'n dysgwyr bydd y tymor ysgol newydd yn dechrau ar 4 Ionawr, er y bydd rhai ysgolion wedi cynllunio diwrnodau HMS yn yr wythnos gyntaf hon. Wrth i ysgolion asesu eu lefelau staffio cyn, ac yn ystod, yr wythnos gyntaf, rydym yn disgwyl y bydd ysgolion yn darparu dysgu wyneb-yn-wyneb i'r rhan fwyaf o'u disgyblion erbyn 11 Ionawr, gan ddychwelyd yn llawn yn y dyddiau cyn 18 Ionawr ar yr hwyraf.

Pan fydd ysgol wedi symud i ddysgu o bell oherwydd amgylchiadau lleol eithriadol a phenodol, bydd disgwyl i awdurdodau lleol ac ysgolion wneud trefniadau i ddysgwyr sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol (gan gynnwys staff ysgol) fynychu, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd. 

Dywedodd llefarydd ar ran CLlLC:

“Bydd y cynllun i ddychwelyd i ysgolion ym mis Ionawr yn rhoi rhywfaint o sicrwydd, tra hefyd yn caniatáu hyblygrwydd i ystyried amgylchiadau lleol.

“Mae ymateb athrawon, staff ysgol, dysgwyr a rhieni a gofalwyr wedi bod yn rhyfeddol drwy gydol y flwyddyn heriol hon. Nid yw wedi bod yn hawdd, a diolchwn iddynt am eu hamynedd a'u dyfalbarhad parhaus i helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel.

“Er mwyn helpu i leihau lledaeniad cyflym y feirws, rhaid i bob un ohonom barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein hunain, ein gilydd a'n cymunedau.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Rydyn ni i gyd yn cydnabod bod hwn yn gyfnod na welwyd ei debyg o'r blaen, a bod yn rhaid inni fod yn hyblyg o ran sut rydym yn ymateb i'r effaith y mae'r feirws yn ei chael ar ein cymunedau. 

“Drwy gytuno i fod yn hyblyg yn ystod pythefnos cyntaf y tymor ysgol newydd ym mis Ionawr, gall ein hysgolion roi trefniadau cymesur ar waith sy'n adlewyrchu eu hamgylchiadau penodol ac sy'n cael eu harwain gan ystyriaethau iechyd a diogelwch y cyhoedd.  

“Rydyn ni’n gwybod bod ein plant a'n pobl ifanc yn dysgu orau pan fyddant yn yr ystafell ddosbarth, yn derbyn gwersi wyneb-yn-wyneb, felly mae'n rhaid i unrhyw fesurau a roddwn ar waith geisio tarfu cyn lleied â phosibl ar eu haddysg.”

]]>
http://www.wlga.cymru/school-return-approach-for-january http://www.wlga.cymru/school-return-approach-for-january http://www.wlga.cymru/school-return-approach-for-january Thu, 17 Dec 2020 16:29:00 GMT
Ysgolion uwchradd a cholegau Cymru yn symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun ymlaen fel rhan o 'ymdrech genedlaethol i atal trosglwyddo’r coronafeirws' Bydd ysgolion uwchradd a cholegau Cymru yn symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun, 14 Rhagfyr ymlaen fel rhan o 'ymdrech genedlaethol i atal trosglwyddo’r coronafeirws' cadarnhaodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams heddiw.

Dywedodd y Gweinidog yn glir, diolch i ymdrechion staff addysg ledled y wlad, fod ysgolion a cholegau yn fannau diogel, gyda bron i hanner holl ysgolion Cymru heb gael unrhyw achosion o covid ers mis Medi.

Fodd bynnag, cydnabyddir y gallai’r ffaith fod lleoliadau addysg ar agor gyfrannu at gymysgu ehangach y tu allan i’r ysgol a’r coleg.

Wrth wneud y penderfyniad, roedd y Gweinidog yn teimlo ei bod yn bwysig cael 'cyfarwyddyd clir, cenedlaethol' i dynnu pwysau oddi ar ysgolion a cholegau unigol, awdurdodau lleol, rhieni a gofalwyr.

Dywedodd y Gweinidog fod ei phenderfyniad yn dilyn cyngor arbenigol gan Brif Swyddog Meddygol Cymru sy’n dangos bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn dirywio.

Mae'r data Profi, Olrhain, Diogelu diweddaraf yn dangos bod cyfraddau Covid-19 wedi cynyddu ymhellach ledled Cymru a'u bod bellach wedi pasio 370/100k gydag 17% o brofion yn bositif.

Mae'r gyfradd R yng Nghymru wedi cynyddu i 1.27 gydag amser dyblu o ddim ond 11.7 diwrnod.

Fel y digwyddodd yn ystod y cyfnod atal byr, bydd disgwyl i awdurdodau lleol ac ysgolion ystyried pa ddarpariaeth fyddai’n briodol i ddysgwyr agored i niwed, a gallai hyn gynnwys dysgu ar y safle.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams: "Bob dydd, rydyn ni’n gweld mwy a mwy o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty gyda symptomau’r coronafeirws.

"Mae'r feirws yn rhoi pwysau sylweddol a pharhaus ar ein gwasanaeth iechyd ac mae'n bwysig ein bod i gyd yn gwneud ein rhan i osgoi ei drosglwyddo.

"Yn ei gyngor i mi heddiw, mae'r Prif Swyddog Meddygol yn argymell y dylid symud tuag at ddysgu ar-lein ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

"Gallaf gadarnhau felly y dylid symud tuag at ddysgu ar-lein ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd a myfyrwyr coleg o ddydd Llun yr wythnos nesaf ymlaen.

"Rydym yn cydnabod, fel y gwnaethom yn ystod y cyfnod atal byr, ei bod yn anos i blant oedran cynradd ac ysgolion arbennig ymgymryd â dysgu hunangyfeiriedig.

“Dyna pam rydyn ni’n annog ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig i barhau i aros ar agor.

"Ar ôl siarad ag arweinwyr addysg lleol, rwy'n hyderus bod gan ysgolion a cholegau ddarpariaeth ddysgu ar-lein ar waith.

“Bydd hyn hefyd yn bwysig o ran sicrhau bod myfyrwyr gartref yn ystod y cyfnod hwn, gan ddysgu ac aros yn ddiogel.

"Yn bendant, ac mae hyn yn bwysig iawn, dylai plant fod gartref.

"Nid gwyliau Nadolig cynnar yw hwn, gwnewch bopeth o fewn eich gallu i leihau eich cysylltiad ag eraill.”

"Mae'r teulu addysg yng Nghymru wedi tynnu ynghyd gymaint o weithiau eleni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gwrs y feirws hwn ac yn y pen draw i achub bywydau, ac rwy'n gwybod y gallwn wneud yr un peth eto.

"Gyda'n gilydd gallwn ddiogelu Cymru."

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir Y Fflint), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Rydyn ni’n gweld cynnydd pryderus yn niferoedd y cyfradd achosion Covid pob dydd sy’n rhoi mwy a mwy o bwysau ar ein gwasanaeth iechyd a thimau Profi, Olrhain, Diogelu. Ar gyngor y Prif Swyddog Iechyd ac yn dilyn trafod estynedig gyda’r Gweinidog ac undebau dysgu, bydd ysgolion uwchradd yn symud i ddysgu o bell o ddydd Llun.”

“Mae’r sefyllfa o ran coronafeirws yng Nghymru yn ddifrifol. Allwn ni ddim pwysleisio digon y dylai plant aros gartref a pheidio â chymysgu gyda’u ffrindiau neu eraill yn y gymuned i osgoi’r risg o ledaenu’r haint. Er y bydd ysgolion uwchradd yn cau, bydd y dysgu yn parhau ar-lein.”

“Trwy gydol y flwyddyn heriol hon, mae athrawon, staff ysgol, dysgwyr, a rhieni a gofalwyr wedi ymateb yn eithriadol. Dyw hi heb fod yn hawdd, a rydyn ni’n diolch iddyn nhw i gyd am eu amynedd a’u dyfalbarhad parhaus i gadw ein cymunedau’n saff.”

 

DIWEDD

]]>
http://www.wlga.cymru/secondary-schools-and-colleges-in-wales-will-move-to-online-learning-from-monday-as-part-of-national-effort-to-reduce-coronavirus-transmission http://www.wlga.cymru/secondary-schools-and-colleges-in-wales-will-move-to-online-learning-from-monday-as-part-of-national-effort-to-reduce-coronavirus-transmission http://www.wlga.cymru/secondary-schools-and-colleges-in-wales-will-move-to-online-learning-from-monday-as-part-of-national-effort-to-reduce-coronavirus-transmission Thu, 10 Dec 2020 16:52:00 GMT
Canolbwyntio ar Anghenion Dysgwyr ac Ymddiried yn yr Athrawon Mae llywodraeth leol Cymru yn credu mai defnyddio asesiadau athrawon – Graddau a Asesir gan y Ganolfan – yw’r unig ddull teg o bennu graddau lefel A, lefel UG a TGAU eleni ac mae’n galw ar y Gweinidog Addysg i weithredu’r newid polisi hwn ar unwaith hyd yn oed os yw’n golygu oedi canlyniadau TGAU ddydd Iau. Dylid gweithredu’r dull hwn yn ôl-weithredol ac ar fyrder i bob gradd lefel ‘A’ ac UG.

 

Bellach fod y darlun llawn o ran canlyniadau lefel ‘A’ ac UG o amgylch Cymru’n gliriach, mae CLlLC yn credu fod y dull a fabwysiadwyd gan Gymwysterau Cymru - y rheoleiddwyr wrth bennu graddau lefel ‘A’ ac UG wedi bod yn fympwyol ac wedi canolbwyntio ar anghenion sefydliadau yn hytrach na dysgwyr unigol. Mae wedi creu dryswch a phryder ac wedi bod yn annheg. Nid yw wedi rhoi’r canlyniadau roedd dysgwyr unigol wedi eu disgwyl ac y byddent yn debyg o’u cyflawni pe baent wedi sefyll yr arholiadau. Mae angen i ni roi dysgwyr wrth galon y broses ac ymddiried yn y proffesiwn dysgu, gan nad oes neb yn adnabod y dysgwyr a'u perfformiad yn well na’u hathrawon.

 

Rhaid datrys y mater hwn ar fyrder er mwyn galluogi myfyrwyr lefel A o Gymru i gael gafael ar leoedd mewn prifysgolion cyn gynted â phosibl ac osgoi'r un sefyllfa rhag codi gyda chanlyniadau TGAU yn ddiweddarach yr wythnos hon.

 

Dywedodd y Cyng Ian Roberts, Llefarydd Addysg CLlLC:

 

“Mi wnes i â’r Arweinydd CLlLC gwrdd â’r Gweinidog Addysg fore dydd Iau, ac mi wnaethom dynnu sylw at anghysonderau a phryderon lleol a oedd yn dod i’r amlwg; yn amlwg, nid pryderon lleol yn unig yw’r rhain ond mae materion systematig ac rydym felly’n galw am adolygiad brys o raddau, ac y dylid dyfarnu canlyniadau TGAU ddydd Iau yn seiliedig ar Raddau a Asesir gan yn Ganolfan).”

 

“Mi wnes i, ac Aelodau Cabinet ar gyfer Addysg gwrdd â CBAC a Chymwysterau Cymru yn gynharach yn yr haf a chodom bryderon a cheisio sicrwydd ynghylch tegwch y system arfaethedig. Roedd gennym bryder penodol o ystyried mai rhan o’r dystiolaeth fyddai’n cael ei defnyddio oedd data a pherfformiad hanesyddol a fyddai’n ffafrio dysgwyr ac ysgolion lle'r oedd perfformiad cadarn, ond byddai'n dirywio canlyniadau ar gyfer dysgwyr unigol lle nad oedd perfformiad eu hysgolion yn dda yn y gorffennol. Byddwn yn bwydo ein barn yn ystod trafodaethau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd a fydd yn cael ei ailymgynnull yfory.”

 

Mae CLlLC hefyd yn galw am adolygiad o Gymwysterau Cymru ac a yw’r sefydliad yn addas at y diben.

  

-Diwedd -

 

]]>
http://www.wlga.cymru/focus-on-the-needs-of-learners-and-trust-teachers http://www.wlga.cymru/focus-on-the-needs-of-learners-and-trust-teachers http://www.wlga.cymru/focus-on-the-needs-of-learners-and-trust-teachers Mon, 17 Aug 2020 14:04:00 GMT
Ysgolion i ailagor o fis Medi Yr wythnos hon, argymhellodd Grŵp Cynghori Technegol Cymru, sy’n darparu cyngor gwyddonol a thechnegol i’r Llywodraeth yn ystod argyfyngau, wrth y Gweinidog y dylai ysgolion “gynllunio i agor ym mis Medi gyda 100% o’r disgyblion yn bresennol ar safleoedd ysgolion, yn amodol ar ostyngiad parhaus a chyson ym mhresenoldeb COVID-19 yn y gymuned.”

Bydd y papur, sy'n cynnwys y cyngor, yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Cyhoeddodd y Gweinidog y canlynol:

  • Bydd ysgolion yn dychwelyd i gapasiti llawn gydag elfen gyfyngedig yn unig o gadw pellter cymdeithasol oddi mewn i grwpiau cyswllt.
  • Wrth weithredu’n llawn, dylai grŵp cyswllt gynnwys tua 30 o blant. Bydd rhywfaint o gymysgu uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng plant mewn gwahanol grwpiau cyswllt hefyd yn amhosibl ei osgoi, fel ar gludiant, wrth dderbyn addysg arbenigol neu oherwydd cyfyngiadau staffio.
  • Dylai pob ysgol barhau i fod yn “Ddiogel Rhag Covid” – wedi cynnal asesiadau risg a lliniaru unrhyw risg gyda chyfuniad o fesurau rheoli fel hylendid dwylo ac arwynebau, systemau un ffordd ac ati.
  • Os yw gwybodaeth rybuddio gynnar yn dangos digwyddiad neu achosion lleol, dylai’r ysgolion cyfagos weithredu mesurau cyfyngu priodol.       
  • Bydd cyflenwad o becynnau profi cartref ar gael ym mhob ysgol.

Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd tymor yr hydref yn dechrau ar Fedi 1 ac y dylai ysgolion sy’n gallu croesawu’r disgyblion i gyd o ddechrau’r tymor wneud hynny.

Bydd cyfnod o hyblygrwydd i gydnabod y bydd ysgolion eisiau canolbwyntio ar rai grwpiau blwyddyn â blaenoriaeth, fel y rhai sydd newydd ddechrau mewn ysgolion uwchradd, y rhai sy’n sefyll arholiadau yr haf nesaf neu’r rhai sydd yn y dosbarthiadau derbyn. Bydd hyn hefyd yn rhoi amser, hyd at bythefnos, ar gyfer unrhyw gynllunio ac ad-drefnu. Bydd canllawiau pellach yn dilyn ar addysg feithrin, oherwydd y cymhlethdodau unigryw a'r goblygiadau pellach i ddysgwyr iau.

Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd y bydd canllawiau gweithredol a dysgu diwygiedig yn cael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf. Mae swyddogion addysg y Llywodraeth yn cael cefnogaeth gyda’r gwaith hwn gan awdurdodau lleol, penaethiaid, swyddogion iechyd cyhoeddus, undebau athrawon ac ymarferwyr addysg. Amlinellodd y Gweinidog y cynlluniau oriau yn unig ar ôl cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £29m ar gael i ‘recriwtio, adfer a chodi safonau’ yn ysgolion Cymru fel ymateb i effaith y pandemig, sydd i’w theimlo o hyd.

 

Wrth siarad ym mriff dyddiol Llywodraeth Cymru heddiw, bydd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn dweud:

"Rydyn ni’n gwybod bod Covid-19 wedi achosi difrod difrifol, yn enwedig i’n pobl ifanc. Rwy’ wedi dweud drwy gydol y pandemig mai’r flaenoriaeth yw darparu cymaint â phosib o addysg gan amharu cyn lleied â phosib ar ein pobl ifanc.

"Mae pob penderfyniad wedi bod yn seiliedig ar yr wybodaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf. Diolch i ymagwedd ofalus Cymru, mae presenoldeb Covid yn ein cymunedau yn dirywio. Gan ddisgwyl y bydd hyn yn parhau, y cyngor rwy’ wedi ei dderbyn yw y gall ysgolion baratoi i agor ym is Medi gyda’r holl ddisgyblion yn bresennol."

 

Wrth gyfeirio at y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd, dywedodd y Gweinidog:

"Byddwn yn recriwtio, yn adfer ac yn parhau i godi safonau. Gyda'r cyllid hwn, byddwn yn recriwtio'r hyn sy’n cyfateb i 600 o athrawon ychwanegol a 300 o gynorthwywyr addysgu drwy gydol y flwyddyn ysgol nesaf. Byddwn yn targedu cymorth ychwanegol at Flynyddoedd 11, 12 a 13, yn ogystal â dysgwyr difreintiedig ac agored i niwed o bob oed.

"Gallai'r pecyn cymorth, a ddarperir ar lefel ysgol, gynnwys cymorth hyfforddi ychwanegol, rhaglenni dysgu personol ac amser ac adnoddau ychwanegol ar gyfer disgyblion y blynyddoedd sy'n sefyll arholiadau. Ni ddylem fyth ostwng ein disgwyliadau ar gyfer unrhyw un o'n pobl ifanc, ni waeth beth yw eu cefndir. Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i godi safonau ar gyfer pawb, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau bod gennym ni system sy’n ffynhonnell o falchder a hyder ymhlith y cyhoedd."

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, llefarydd CLlLC ar Addysg:

"Ers i ysgolion gau ar ddechrau’r argyfwng, mae nifer o blant a phobl ifanc wedi bod yn teimlo’n bryderus am golli cyfleoedd dysgu a methu gweld eu ffrindiau. Bydd cynllun y Gweinidog heddiw yn galluogi ysgolion i ailagor eu dosbarthiadau yn ddiogel o fis Medi ymlaen. Bydd awdurdodau lleol yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion er mwyn sicrhau bod y trefniadau angenrheidiol yn eu lle i gadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru.

"Mae’n hysgolion wedi cael eu taro’n ddifrifol yn ystod y pandemig hwn, ac rydym yn croesawu’r £29m y mae’r Gweinidog wedi ei addo ar gyfer cymorth penodol i gyfyngu ar effaith yr ychydig fisoedd diwethaf ar ddisgyblion. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd, mewn partneriaeth er mwyn sicrhau’r profiadau dysgu gorau ac mwyaf diogel posib i’n plant a’n pobl ifanc, yn arbennig dan amgylchiadau mor heriol."

]]>
http://www.wlga.cymru/schools-to-reopen-from-september http://www.wlga.cymru/schools-to-reopen-from-september http://www.wlga.cymru/schools-to-reopen-from-september Thu, 09 Jul 2020 12:10:00 GMT
Cefnogi pobl ifanc trwy’r argyfwng Mae cynghorau yng Nghymru wedi canmol gweithwyr ieuenctid am eu rôl gwerthfawr yn cefnogi pobl ifanc yn ystod yr argyfwng presennol.

Wrth nodi Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni, mae llywodraeth leol wedi cydnabod sut mae gweithwyr ieuenctid wedi addasu yn gyflym i sicrhau eu bod yn gallu darparu cefnogaeth i bobl ifanc yn eu cymunedau. Trwy ystod o gyfleon dysgu, a gweithgareddau cymdeithasol rhithiol, mae nhw wedi bod yn allweddol i helpu pobl ifanc ddeall canllawiau gan Lywodraeth Cymru ac i’w hannog nhw i gydymffurfio.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir Y Fflint), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod dryslyd i’n pobl ifanc ni. Er y llu o heriau, mae gweithwyr ieuenctid wedi dod i’r adwy i’w cefnogi nhw mewn amryw o ffyrdd. O gynnal cwisiau a gweithgareddau rhyngweithiol ar-lein, i helpu i staffio hybiau gofal plant ac i godi ymwybyddiaeth o ganllawiau’r llywodraeth, mae nhw wedi chwarae rhan bwysig mewn amgylchiadau anodd.

“Pob blwyddyn, mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn rhoi cyfle i ni i ddiolch i’r gweithwyr sydd yn helpu i gefnogi a datblygu ein pobl ifanc. Eleni, mae eu gwaith wedi bod yn bwysicach nag erioed. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw i gyd am eu hymroddiad a’u hymrwymiad yn y gwaith mae nhw wedi ei wneud, ac y byddan nhw’n parhau i’w wneud dros y misoedd i ddod.”

-DIWEDD-

]]>
http://www.wlga.cymru/supporting-young-people-through-the-crisis http://www.wlga.cymru/supporting-young-people-through-the-crisis http://www.wlga.cymru/supporting-young-people-through-the-crisis Mon, 29 Jun 2020 15:26:00 GMT
Cynllun pwyllog ac arloesol ar gyfer disgyblion i “Ddod i’r Ysgol, Dal Ati i Ddysgu, Paratoi ar gyfer yr Haf a mis Medi” o 29ain Mehefin yn cael ei groesawu gan gynghorau Yn ymateb i’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg heddiw, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir Y Fflint), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

 

“Mae’r ffordd hon ymlaen yn rhoi cyfle i bob plentyn i gael gweld eu ffrindiau ac athrawon wyneb-i-wyneb, o fewn niferoedd cyfyngedig dros gyfnod o bedair wythnos, mewn ysgolion a fydd wedi cael eu teilwra’n sylweddol ar gyfer pellhau cymdeithasol. Mae’n gyfle gwerthfawr dros  ben i ddisgyblion i ddod i’r ysgol a dal ati i ddysg dros wythnosau olaf y tymor, sydd yn bwysig i sicrhau y bydd disgyblion, teuluoedd, ac athrawon dysgu a staff ysgol fel eu gilydd yn barod yn feddyliol, emosiynol ac yn ymarferol ar gyfer profiad tebyg ym mis Medi.

“Sicrha’r cynllun na fydd rhieni yn cael eu cosbi am beidio derbyn y cynnig yma oherwydd unrhyw bryderon posib o ran diogelwch – bydd presenoldeb yn wirfoddol.

“Bydd awdurdodau lleol, prifathrawon ac undebau dysgu yn trafod yr anghenion gweithredol i gyflwyno’r cynllun yma mewn lleoliadau ysgol unigol.”

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Rydyn ni’n croesawu’r dull gofalus ac ystyriol yma gan y Gweinidog heddiw. Bydd awdurdodau lleol yn cymryd amser i weithio trwy manylion y canllawiau i sicrhau bod y trefniadau perthnasol i gyd yn eu lle. Mae awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru ac undebau addysg i gyd wedi cydweithio dros yr wythnosau diwethaf ar ffordd ymlaen sydd wrth fodd pawb.

“Mae gennym ni dair wythnos a hanner hyd nes y bydd y cynllun yn dod yn fyw, sy’n rhoi cyfle i ni i gyd i weithio gyda’n gilydd i roi’r trefniadau angenrheidiol mewn lle mewn ysgolion i groesawu disgyblion ar sail wirfoddol.”

 

-DIWEDD-

 

NODIADAU I OLYGYDDION: Ceir rhagor o fanylion am gynllun y Gweinidog Addysg yma: https://llyw.cymru/dod-ir-ysgol-dal-ati-i-ddysgu-paratoi-ar-gyfer-yr-haf-mis-medi

 

 

]]>
http://www.wlga.cymru/cautious-and-innovative-29th-june-plan-welcomed-by-councils http://www.wlga.cymru/cautious-and-innovative-29th-june-plan-welcomed-by-councils http://www.wlga.cymru/cautious-and-innovative-29th-june-plan-welcomed-by-councils Wed, 03 Jun 2020 12:58:00 GMT
Gwelliant nodedig mewn addysg yng Nghymru Mae CLlLC heddiw wedi croesawu’r canlyniadau PISA diweddaraf, sy’n dangos gwelliant nodedig ymhob ardal o system addysg Cymru.

Wedi’i gydlynu gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), mae PISA’n asesu dealltwriaeth a sgiliau bywyd disgyblion 15 oed.

 

Yn ymateb i’r canlyniadau PISA heddiw, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Mae canlyniadau PISA heddiw yn dangos bod y system addysg yng Nghymru yn dal i wella, diolch i waith caled disgyblion, athrawon, staff cefnogol a phawb arall sydd ynghlwm â’r system addysg. Mae awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio’n galed gyda Llywodraeth Cymru i weithredu’r cwricwlwm diwygiedig, ac mae’n galonogol iawn i weld bod Cymru’n perfformio’n well o lawer nag yn y rowndiau PISA yn 2009 a 2012.”

“Rwy’n falch bod Andreas Schleicher, pennaeth addysg a sgiliau yr OECD, wedi cydnabod bod y newidiadau diweddar yn gam cyntaf pwysig yn y gwaith o wella addysg. Mae dysgwyr yn haeddu’r cyfleon dysgu gorau posib, a rwy’n ddiolchgar iddyn nhw am eu hamynedd a’u diwydrwydd yn ystod cyfnod o newid mawr yn y cwricwlwm. Mae’n glir bod ein hymdrechion ar y cyd i ddiwygio yn talu ar eu canfed, ac mae llywodraeth leol wedi ymrwymo i weithio gyda’r holl bartneriaid perthnasol i barhau i wella ein system addysg i ddarparu dysgwyr yng Nghymru gydag addysg o’r safon uchaf.”

 

 

 

 

]]>
http://www.wlga.cymru/gwelliant-nodedig-mewn-addysg-yng-nghymru http://www.wlga.cymru/gwelliant-nodedig-mewn-addysg-yng-nghymru http://www.wlga.cymru/gwelliant-nodedig-mewn-addysg-yng-nghymru Tue, 03 Dec 2019 16:40:00 GMT
Ceisio barn ar wasanaeth synhwyraidd a chyfathrebu yn Ne Ddwyrain Cymru Gwahoddir rhieni yn Ne Ddwyrain Cymru i fynychu unrhyw un o nifer o gyfarfodydd sy’n cael eu cynnal i ganfod barn ar y ddarpariaeth o wasanaethau synhwyraidd a chyfathrebu yn y rhanbarth, fel rhan o adolygiad annibynnol.

Yn cael ei adnabod fel SENCOM, darperir y gwasanaeth yn rhanbarthol ar hyn o bryd ar draws Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen. Mae’n cefnogi anghenion dysgu ychwanegol mewn meysydd arbenigol megis anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, a namau ar y clyw, ar y golwg, ac aml-synhwyraidd. Mae tua 1500 o blant a phobl ifanc ar hyn o bryd yn derbyn cefnogaeth gan SENCOM ar draws y pum awdurdod.

Ym mis Mai 2019, fe wnaeth yr awdurdodau sy’n ymwneud â SENCOM ofyn i CLlLC i gomisiynu arbenigwr annibynnol i adolygu ac adrodd ar y gwasanaeth i archwilio ffyrdd mwy cynaliadwy i ddarparu’r model rhanbarthol. Mae ymgynghorydd annibynnol, Mr Mark Geraghty, ers hynny wedi cychwyn ac ymgymryd â nifer o ymarferion ymgynghori ac ymgysylltu fel rhan o’r adolygiad.

 

Dywedodd Mark Geraghty:

“Rhan bwysig o’r broses o gasglu tystiolaeth yw gwrando ar farn y plant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n derbyn gwasanaeth gan un neu fwy o dimau SENCOM.

“Yn yr holl gyfarfodydd yr ydw i wedi eu mynychu hyd yma, ar draws pob lefel, mae’r angerdd a’r awch i sicrhau bod plant a phobl ifanc gydag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, a namau ar y clyw ac ar y golwg yn derbyn cefnogaeth o safon ac adnoddau addas, wedi bod yn gwbl amlwg,

“Rwyf felly yn edrych ymlaen i groesawu rhieni i unrhyw un o’r cyfarfodydd sydd wedi cael eu trefnu i drafod eu profiadau nhw o SENCOM. Bydd y safbwyntiau yma yn hollbwysig i’r adolygiad er mwyn gallu sicrhau gwneud penderfyniadau wedi’i seilio ar dystiolaeth.”

 

-DIWEDD-

Nodiadau i Olygyddion:

Dyma ddyddiadau a lleoliadau’r cyfarfodydd ymgynghoriad:

 

  • 12eg Tachwedd     1.30pm a 6.00pm

Canolfan Casnewydd, NP20 1UH

Paula Halsall – CS Casnewydd

01633 210626

 

  • 14eg Tachwedd    10.00am a 6.00pm

Stadiwm Cwmbran, NP44 3YS

Tracey Hall – CBS Torfaen

01495 766903

 

  • 15fed Tachwedd    11.00am

Neuadd y Sir, Brynbuga, NP15 1GA

Julie Owen – CS Mynwy

01633 644512

 

  • 15fed Tachwedd 6.00pm

Tŷ Penallta, Ystrad Mynach, CF82 7PG

Sarah Ellis – CBS Caerffili

01443 866618

 

  • 19eg Tachwedd 9.00am

Tŷ Penallta, Ystrad Mynach, CF82 7PG

Sarah Ellis – CBS Caerffili

01443 866618

 

  • 19eg Tachwedd 6.00pm

Neuadd y Sir, Brynbuga, NP15 1GA

Julie Owen – CS Mynwy

01633 644512

 

  • 21ain Tachwedd  10.00am a 6.00pm

Canolfan Dysgu Gweithredol Glynebwy, NP23 6JG

Gavin Metheringham – CBS Blaenau Gwent

01495 355010

 

  • Mae croeso i rhieni a rhanddeiliaid i ddarparu adborth trwy holiadur, sydd i’w ganfod ar y linc yma: www.smartsurvey.co.uk/s/SenCom

 

  • Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â David Hopkins, Pennaeth Addysg Dros Dro ar David.hopkins@wlga.gov.uk 
]]>
http://www.wlga.cymru/views-sought-on-sensory-and-communication-service-in-south-east-wales http://www.wlga.cymru/views-sought-on-sensory-and-communication-service-in-south-east-wales http://www.wlga.cymru/views-sought-on-sensory-and-communication-service-in-south-east-wales Tue, 29 Oct 2019 15:04:00 GMT
CLlLC yn croesawu £12.8m o gyllid ychwanegol ar gyfer dyfarniad cyflog athrawon Mae CLlLC heddiw wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru o £12.8m o gyllid ychwanegol i helpu i gwrdd â’r gost o godiadau i gyflogau athrawon.

Dyma’r flwyddyn gyntaf i Lywodraeth Cymru allu gosod cyflogau ac amodau athrawon yn dilyn datganoli’r pwerau hynny i Gymru. Cadarnhaodd y Gweinidog Addysg y bydd cynnydd o 5% yng nghyflog cychwynnol athrawon sydd newydd gymhwyso yng Nghymru, tra bydd cynnydd o 2.75% i isafswm ac uchafswm pob ystod band cyflog a lwfans arall i athrawon.

 

Dywedodd y Farwnes Wilcox o Gasnewydd, Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Rwy’n croesawu’r cyllid ychwanegol sydd wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru heddiw ar gyfer cyflogau athrawon. Os ydyn ni am greu system addysg o’r radd flaenaf, mae’n hollbwysig ein bod ni’n gallu denu athrawon talentog i weithio yn ein ysgolion trwy eu gwobrwyo nhw’n briodol.

“Mae cyllid addysg yn dal yn cyflwyno darlun heriol iawn i awdurdodau lleol, ac mae nhw’n wynebu gorwario o £54m ar draws yr holl wasanaethau am y flwyddyn gyllidol yma’n unig. Mae’n bwysig bod y dyfarniad cyflog cyflawn yn cael ei gwrdd yn llawn gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf, yn ogystal â phwyseddau o £105m ar gyfer gwasanaethau addysg ac ysgolion, a’r costau gweithlu o ran athrawon a chymorthyddion.”

“Mae gwasanaethau lleol sy’n cael eu rhedeg gan gynghorau yn wynebu pwyseddau o £254m, gydag ysgolion ac addysg yn cynrychioli 40% o hynny, sydd yn amlwg yn mynd i effeithio’n uniongyrchol ar allu cynghorau i ddarparu gwasanaethau. Gan ragweld y bydd £593m yn llifo i Gymru yn dilyn Adolygiad Gwariant y DU, mae gan Lywodraeth Cymru nawr gyfle i wireddu addewidion i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus, ac i Lywodraeth Cymru a lleol i weithio gyda’u gilydd i ddarparu dros ein cymunedau.”

-DIWEDD-

 

 

 

]]>
http://www.wlga.cymru/wlga-welcomes-additional-funding-for-teachers’-pay-award http://www.wlga.cymru/wlga-welcomes-additional-funding-for-teachers’-pay-award http://www.wlga.cymru/wlga-welcomes-additional-funding-for-teachers’-pay-award Tue, 22 Oct 2019 16:19:00 GMT
Arweinydd yn llongyfarch dysgwyr ar ddiwrnod canlyniadau TGAU Mae Arweinydd CLlLC, y Cynghorydd Debbie Wilcox, heddiw wedi llongyfarch dysgwyr ar eu canlyniadau TGAU.

Mae perfformiad TGAU wedi gwella 1.2 pwynt canran ar y cyfan o gymharu a 2018, gyda 62.8% o ymgeiswyr yn cyflawni gradd C neu uwch. Arhosodd cyfradd y rhai gyflawnodd raddau A*-A yn sefydlog ar 18.4%.

Daeth trawsnewidiad hir-dymor y system TGAU i derfyn eleni, gyda’r saith pwnc diwethaf o’r pynciau TGAU diwygiedig yn cael eu cyflwyno eleni, gan gynnwys Cymraeg Ail Iaith, Busnes a Hanes.

 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Fel cyn athro fy hun, rwy’n gwybod ond yn rhy dda pa mor nerfus y gall diwrnod canlyniadau fod i bawb sy’n gysylltiedig ag e. Hoffwn longyfarch yr holl ddysgwyr ar eu cyflawniadau, ac ar eu gwaith caled sydd wedi arwain tuag at heddiw. Gall teuluoedd, athrawon a staff ysgolion, sydd i gyd wedi cefnogi dysgwyr dros yr hyn all fod yn gyfnod neilltuol o anodd iddyn nhw, heddiw ymhyfrydu ac ymfalchïo yn eu llwyddiant, a hoffwn i hefyd ddiolch iddyn nhw am eu rôl hollbwysig.”

 

-DIWEDD-

]]>
http://www.wlga.cymru/leader-congratulates-learners-on-gcse-results-day http://www.wlga.cymru/leader-congratulates-learners-on-gcse-results-day http://www.wlga.cymru/leader-congratulates-learners-on-gcse-results-day Thu, 22 Aug 2019 14:22:00 GMT
Llwyddiant Safon Uwch i ddysgwyr Cymru Mae dysgwyr ar draws Cymru yn dathlu eu gwaith caled a’u cyflawniadau heddiw, wrth i fwy o bobl nag erioed gyrraedd y graddau uchaf.

Bu cynnydd yn y nifer o ddysgwyr a gyflawnodd raddau A - A*, o 26.3% yn 2018 i 27% eleni, ac arhosodd y nifer a gyrhaeddodd raddau A - C yn sefydlog ar gyfradd o 76.3%.

97.8% o’r ymgeiswyr a lwyddodd i gyflawni Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru.

Bu cynnydd bach o 0.2 pwynt canran yn y nifer o ymgeiswyr a gyflawnodd y cymhwyster eleni (97.8%) â’r rhai a gyflawnodd raddau A*- A (21.7%) eleni. Cyflawnodd 4.6% radd A*, cynnydd o 0.7% o gymharu â 2018.

 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Mae heddiw yn ddiwrnod mawr i ddysgwyr ar hyd a lled Cymru sydd wedi gweithio’n galed i gyrraedd eu graddau. Hoffwn eu llongyfarch nhw i gyd ar eu llwyddiannau a dymuno’r gorau iddyn nhw ym mha bynnag lwybr y byddan nhw’n dewis ei ddilyn.

“Ar ddiwrnod canlyniadau, mae hefyd yn bwysig cofio am gyfraniad hollbwysig teuluoedd, athrawon a staff ysgolion yn cefnogi ac yn hybu pob dysgwr i gyrraedd eu llawn botensial. Mae pawb sydd ynghlwm â’r system addysg yng Nghymru wedi ymrwymo’n llwyr i roi’r cyfleon gorau posib i ddysgwyr ac i ddarparu awyrgylch gefnogol iddyn nhw ffynnu a datblygu fel unigolion.”

 

-DIWEDD-

 

]]>
http://www.wlga.cymru/a-level-success-for-welsh-learners http://www.wlga.cymru/a-level-success-for-welsh-learners http://www.wlga.cymru/a-level-success-for-welsh-learners Thu, 15 Aug 2019 15:52:00 GMT
Mwy o gyllid ei angen ar addysg yng Nghymru, yn ôl adroddiad Cynulliad Mae CLlLC heddiw wedi croesawu cyhoeddi adroddiad gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad i’w hymchwiliad estynedig i ariannu ysgolion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd). Arweinydd CLlLC a Llefarydd dros Addysg:

“Mae’r adroddiad yma yn amserol tu hwnt ac yn gyfraniad pwysig i’r drafodaeth i gyllido addysg. Bydd angen amser ar CLlLC i ystyried yr adroddiad a’i ganfyddiadau yn llawn, a bydd angen trafodaeth estynedig gydag aelodau cyn dod i unrhyw gasgliadau cadarn.

“Gallwn ni groesawu llawer o gynnwys yr adroddiad ac mae unrhywbeth sy’n cynyddu eglurder a thryloywder ar fater sydd mor bwysig a chyllido addysg yn gam i’r cyfeiriad cywir. Croesawir yn arbennig felly y gydnabyddiaeth bod angen rhagor o arian ar y system addysg yng Nghymru a’r angen i sefydlu dealltwriaeth eang o’r gost sylfaenol o addysgu plentyn yng Nghymru.”

“Mae CLlLC wedi dadlau yn gyson y dylai ein ysgolion gael eu cyllido trwy lywodraeth leol a’r cyllid craidd. Er bod gan grantiau penodol rolau i’w chwarae, mae llywodraeth leol yn glir y dylai eu bod nhw’n cael eu uno fel rhan o’r cyllid craidd pryd a phan bo’n briodol i ddarparu cyn gymaint o hyblygrwydd a phosib i wneud penderfyniadau wedi’i seilio ar amgylchiadau lleol.”

“Awgryma’r adroddiad y bydd angen £120 miliwn yn flynyddol dim ond i gael gwariant fesul disgybl yn ôl i lefelau cyn y cynni ariannol. Mae ein rhagolygon ein hunain yn dangos y bydd pwyseddau o £105m yn y system addysg ar gyfer 2020-21, ac yn codi i £289m erbyn 2022-23, yn cael ei yrru yn bennaf gan gostau gweithlu.”

“Ynghyd â’r ansicrwydd dros yr Adolygiad Gwariant a phryd y bydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i gyhoeddi ei chyllideb ei hun, mae hyn yn achosi pryder mawr ar draws llywodraeth leol.”

“Mae llywodraeth leol wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad i fynd i’r afael â’r materion yma i gyd gyda’r nôd o godi safonau a gwella deilliannau i ddysgwyr.”

 

-DIWEDD-

 

Nodiadau i Olygyddion:

Gellir gweld adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad yma.

 

 

]]>
http://www.wlga.cymru/more-funding-required-for-welsh-education-system-says-national-assembly-report http://www.wlga.cymru/more-funding-required-for-welsh-education-system-says-national-assembly-report http://www.wlga.cymru/more-funding-required-for-welsh-education-system-says-national-assembly-report Wed, 10 Jul 2019 13:47:00 GMT
Dathlu gweithwyr ieuenctid mewn gwobrau i nodi Wythnos Gwaith Ieuenctid 2019 Bydd gweithwyr ieuenctid ledled Cymru yn cael eu cydnabod mewn seremoni gwobrwyo yn Neganwy heno (Dydd Gwener 28 Mehefin) fel rhan o Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni.

Nawr yn eu 25ain blwyddyn, bydd y gwobrau yn gyfle i roi diolch i’r gweithwyr talentog hynny sy’n gweithio gyda phobl ifanc i’w helpu nhw i ffynnu a chyrraedd eu llawn botensial.

Bydd y seremoni yn cloi wythnos yn llawn digwyddiadau ar draws Cymru yn dathlu ac arddangos rôl bwysig gwaith ieuenctid yn ein cymunedau.

 

Yn siarad cyn y seremoni, dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Hoffwn i longyfarch pawb sydd wedi eu henwebu am wobr, ac hefyd i ddiolch i holl weithwyr ieuenctid Cymru am eu hymroddiad a chyfraniad di-flino.”

“Wedi gweithio gyda pobl ifanc fy hun fel athro am 35 mlynedd, dwi’n gwybod o brofiad sut y gall bywyd person ifanc gael ei wella trwy gael rhwydwaith dda o’u cwmpas nhw i’w hybu a’u cefnogi nhw. Mae gweithwyr ieuenctid yn chwarae rôl hanfodol a chanolog yn y rhwydwaith hwnnw, ac yn dod â’r gorau allan o bobl ifanc i’w helpu i gyrraedd eu potensial.”

 

​-DIWEDD-

]]>
http://www.wlga.cymru/youth-workers-celebrated-at-awards-to-mark-youth-work-week-2019 http://www.wlga.cymru/youth-workers-celebrated-at-awards-to-mark-youth-work-week-2019 http://www.wlga.cymru/youth-workers-celebrated-at-awards-to-mark-youth-work-week-2019 Fri, 28 Jun 2019 15:15:00 GMT
CLlLC yn llongyfarch dysgwyr ar ddiwrnod canlyniadau TGAU Mae CLlLC wedi llongyfarch dysgwyr heddiw sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU a Bagloriaeth Cymru yn ystod yr ail flwyddyn o newid mawr i’r cymwysterau.

Cynyddodd y nifer o ddysgwyr a gyflawnodd raddau A*-A o 17.9% i 18.5% eleni, ac enillodd 61.6% o’r holl ddysgwyr raddau A*-C. Cyflawnodd 92.8% o’r holl ddysgwyr Dystysgrif Her Sgiliau fel rhan o gymhwyster Bagloriaeth Cymru, sydd yn gynnydd o 5.1 pwynt canran ar ganlyniadau y llynedd.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae’r cymhwyster TGAU yn cael ei drawsnewid gan Lywodraeth Cymru gyda newidiadau eang yn cael eu cyflwyno ar draws nifer o bynciau, a hynny’n cael ei adlewyrchu eleni yn y canlyniadau a phatrymau cofrestru. Bydd dadansoddiad pellach yn cymryd lle yn y dyddiau i ddod.

 

Dywedodd Llefarydd CLlLC dros Addysg, y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd):

“Hoffwn longyfarch ymdrechion a gwaith caled ein holl ddysgwyr, sydd wedi eu harwain at heddiw. Yn gyn athrawes fy hun, rwy’n gwybod bod rhieni, athrawon, ffrindiau a staff ysgolion ar draws Cymru yn chwarae rôl allweddol yn llwyddiant ein dysgwyr, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth ddiflino.”

“Golyga’r newidiadau i’r cymwysterau ei bod yn anodd i lunio casgliadau pendant o’r canlyniadau eleni. Byddwn yn parhau i gydweithio â chydweithwyr ar bob lefel yn y gyfundrefn addysg i sicrhau bod y diwygiadau i’r cymwysterau yn cael eu cyflwyno yn llwyddiannus yn ystod y cyfnod estynedig yma o newid.”

 

]]>
http://www.wlga.cymru/learners-congratulated-by-WLGA-on-GCSE-results-day http://www.wlga.cymru/learners-congratulated-by-WLGA-on-GCSE-results-day http://www.wlga.cymru/learners-congratulated-by-WLGA-on-GCSE-results-day Thu, 23 Aug 2018 15:32:00 GMT
Graddau Safon Uwch yn parhau i wella Bu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn llongyfarch disgyblion ar draws Cymru heddiw ar eu llwyddiant yn eu arholiadau Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru.

Mae’r nifer o ddisgyblion a lwyddodd i gyrraedd graddau A* wedi codi i 8.7% o ymgeiswyr – y canlyniad gorau ers cyflwyno’r gradd yma, gyda’r nifer o ddisgyblion yn cyrraedd A*-A hefyd wedi cynyddu unwaith eto eleni yn dilyn y patrwm sydd wedi ei sefydlu yn y blynyddoedd diweddar. Mae cynnydd o 1 pwynt canran yn nifer y disgyblion yn cyrraedd graddau A*-C.

Enillodd 97.7% y Dystysgrif Her Sgiliau fel rhan o Fagloriaeth Cymru, sydd yn gynnydd o 3.7 pwynt canran ers 2017. Llwyddodd 80.9% o ymgeiswyr yng Nghymhwyster Uwch Bagloriaeth Cymru – cynnydd o 2.2 pwynt canran.

 

Dywedodd Llefarydd WLGA dros Addysg, y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd):

“Fel cyn athrawes, rwy’n gwybod o brofiad am y straen sy’n cael ei brofi gan bawb sy’n gysylltiedig a diwrnod canlyniadau. Hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion heddiw am eu hymdrechion diwyd a’u gwaith caled, ac i ddymuno’r gorau oll iddyn nhw ym mha bynnag lwybr y bydden nhw’n dewis ei ddilyn.

“Ac wrth gwrs, fedrwn ni ddim anghofio rôl allweddol rhieni, athrawon a staff ysgol wrth hybu a chefnogi pob disgybl i gyrraedd eu llawn botensial. Mae pawb sy’n rhan o’r gyfundrefn addysg yng Nghymru ar bob lefel wedi ymrwymo i roi’r cyfleon gorau i ddisgyblion, ac i ddarparu awyrgylch sy’n cyfoethogi ac yn gefnogol er mwyn eu galluogi i gyflawni eu potensial ac i ddatblygu fel unigolion.”

 

-DIWEDD-

 

]]>
http://www.wlga.cymru/a-level-grades-continue-to-improve http://www.wlga.cymru/a-level-grades-continue-to-improve http://www.wlga.cymru/a-level-grades-continue-to-improve Thu, 16 Aug 2018 14:04:00 GMT