Ni fydd trefniadau cyllido presennol gan Lywodraeth Cymru yn ddigon i gwrdd â’r cynnydd mewn costau a’r galw sy’n wynebu gofal cymdeithasol, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn rhybuddio heddiw.
Mae adroddiad WLGA ar y cyd gyda ADSS i Bwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn amcangyfrif y bydd pwysedd ariannol ychwanegol o £99m mewn gwasanaethau cymdeithasol y flwyddyn nesaf yn tyfu i £344m erbyn 2021-22, oherwydd costau anochel uniongyrchol ac uniongyrchol yn deillio o gostau’r gweithlu, yn ogystal â phoblogaeth sy’n heneiddio mewn angen gofal cymdeithasol.
Mae rhagamcanion poblogaeth yn dangos y bydd y nifer o bobl sydd dros 65 oed yng Nghymru yn cynyddu 33% erbyn 2035, gyda’r nifer o’r rheiny dro 85 yn cynyddu 107% yn ôl system Daffodil y Sefydliad Gofal Cyhoeddus.
Meddai y Cynghorydd Huw David (Pen y bont ar Ogwr), Llefarydd WLGA dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Tra’r ydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y £10m o gyllid diweddar i ddelio â phwysedd y gaeaf mewn gofal cymdeithasol, mae’n glir nad ydi hwb ariannol untro yn ddigon i gwrdd â phwysedd ariannol cynyddol heb sôn am bwyseddau galw a chost yn y dyfodol.”
“Fel mae’n poblogaeth sy’n heneiddio yn cynyddu, felly hefyd mae’r galw ar wasanaethau cymdeithasol. Prun a’i bod hynny yn addasiadau i’r cartref, therapi galwedigaethol, cefnogaeth ariannol, gofal preswyl neu yn y cartref, a llawer mwy, rhain yw’r gwasanaethau sydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol gwirioneddol i fywydau pobl o ddydd i ddydd.”
“Gan gofio graddfa’r heriau yma, mae atebion hir-dymor radical yn wirioneddol eu hangen ar fyrder. Nawr yw’r amser i ni gael trafodaeth go iawn ar newidiadau sylfaenol i gyllido gofal cymdeithasol, ac i roi diwedd ar y dull plaster byr-dymor sydd bellach ddim yn addas i’r diben.”
-DIWEDD-
Nodiadau i Olygyddion
• Tystiolaeth a gyflwynwyd gan WLGA ar y cyd gyda ADSS i ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid ar ‘Y gost o ofalu am boblogaeth sy’n heneiddio’ i’w weld yma: http://www.wlga.wales/SharedFiles/Download.aspx?pageid=62&mid=665&fileid=1433
- Bydd y Cynghorydd Huw David (Pen y bont ar Ogwr), Llefarydd WLGA dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a’r Cynghorydd Susan Elsmore (Caerdydd), Dirprwy Lefarydd WLGA dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid yn y Cynulliad Cenedlaethol ar Ddydd Iau 19 Ebrill.