Yn sgîl cyhoeddiad Canghellor Trysorlys San Steffan heddiw, fe fydd pwysau o hyd ar y gwasanaethau cyhoeddus lleol. Mae’u cyllidebau wedi crebachu i raddau nas gwelwyd erioed ers 2009-10. Er bod y dyraniad sydd wedi’i gadarnhau y mis hwn ar gyfer 2016-17 yn well na’r disgwyl, cynghorau lleol sy’n ysgwyddo’r rhan fwyaf o faich llymder yn ôl pob golwg. O fis Ebrill ymlaen, bydd Cymru yn wynebu diffyg o ryw £200 miliwn o ganlyniad i chwyddiant, newidiadau yn natur y boblogaeth a phwysau ariannol nad oes modd eu hosgoi megis cyflwyno pensiwn un haen. Yn ôl pob tebyg, bydd angen £800 miliwn ychwanegol erbyn 2019-20.
Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton (Sir y Fflint), Dirprwy Arweinydd a’r Llefarydd dros Arian ac Adnoddau:
"Mae’r gyllideb yma’n atgyfnerthu neges datganiad diwethaf Canghellor y Trysorlys ym mis Tachwedd, sef rydyn ni’n wynebu talcen caled. Rhaid inni weld y manylion i bwyso a mesur sut y bydd yn effeithio ar gyllidebau Llywodraeth Cymru o hyn ymlaen. Mae’n amlwg y bydd tynged gwasanaethau lleol gwerthfawr sy’n bwysig i’r bobl fwyaf bregus yn parhau’n ansicr. Byddwn ni’n cydweithio’n agos â llywodraeth newydd Cymru i hybu rhesymau dros ddiogelu gwasanaethau lleol, yn arbennig rhai ataliol eu natur.”
Meddai’r Cynghorydd Anthony Hunt (Tor-faen), Dirprwy Lefarydd Arian ac Adnoddau:
"Mae toriadau cyllidebol yn rhan barhaus o faterion ariannol y wladwriaeth bellach ac nid dyna newyddion da i wasanaethau cyhoeddus. Bydd cynghorau ledled Cymru yn parhau i wynebu dewisiadau anodd am wasanaethau o’r fath yn ogystal ag ymdopi â’r toriadau llym sy’n effeithio ar eu coffrau yn barod.”
DIWEDD