£1.2m ar gyfer paratoadau gan Lywodraeth Leol ar gyfer Brexit

Dydd Mercher, 13 Mawrth 2019

Mae £1.2m yn ychwanegol wedi'i ddyrannu i helpu'r awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer Brexit, cyhoeddodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James heddiw.

Bydd hyd at £45,000 ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru, a bydd swm pellach o £200,000 ar gael iddynt trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  Bydd yr arian yn sicrhau bod adnodd dynodedig ym mhob awdurdod lleol i wneud y gwaith cynllunio, cydgysylltu a pharatoi. Caiff ei gefnogi a'i gydgysylltu gan CLlLC ar draws yr holl awdurdodau lleol er mwyn osgoi dyblygu, sicrhau effeithiolrwydd a hybu cyflawni ar draws llywodraeth leol.

Dros y misoedd diwethaf, wrth i'r awdurdodau lleol ddechrau paratoi o ddifrif ar gyfer Brexit a'r posibilrwydd y byddwn yn ymadael â'r UE heb gytundeb, mae wedi dod i'r amlwg bod angen iddynt gynyddu eu gallu i baratoi a rhoi ymatebion ar waith ar lefel leol. Er bod y gwaith o ailddyrannu ac ailflaenoriaethu staff wedi digwydd ar draws yr holl awdurdodau lleol, mae graddfa'r gweithgarwch y mae ei angen erbyn hyn ar gyfer paratoadau Brexit yn golygu bod angen iddynt fynd ati i gynllunio a pharatoi a hynny ar fyrder.

 

Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd y Gweinidog:

“Mae gan yr Awdurdodau Lleol rôl allweddol o ran paratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb a sefyllfaoedd eraill mewn perthynas â Brexit ac ymateb i'r sefyllfaoedd hyn.  Os na fyddant wedi paratoi'n ddigonol, bydd yn gwaethygu'r risgiau a'r materion a wynebir gan bobl, sefydliadau a busnesau ac yn effeithio ar wasanaethau hanfodol megis iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.”

“Mae angen i hyn fod yn adnodd dynodedig ac nid adnodd ar ben y gwaith bob dydd os oes gobaith iddo fod yn effeithiol. Rhaid cofio mai darparu gwasanaethau hanfodol yw llawer o'r gwaith bob dydd. Mae'n debygol y bydd galwadau cynyddol ar y gwasanaethau hyn ni waeth pa fath o Brexit gawn ni yn y pen draw felly bydd y cyllid hwn yn ein helpu i baratoi ar eu cyfer yn fwy trylwyr.  

“Er nad oes modd lliniaru effeithiau Brexit heb gytundeb yn llwyr, byddwn yn parhau i gymryd camau ac yn helpu sefydliadau ledled Cymru i wneud ein gorau glas i baratoi ar gyfer Brexit.”

 

Dywedodd y Cyng Debbie Wilcox (Casnewydd), Arweinydd CLlLC:

“Mae'r awdurdodau lleol ar y rheng flaen pan ddaw at liniaru effaith Brexit ar gymunedau, sefydliadau a busnesau yng Nghymru.

“Buom yn cynllunio a pharatoi ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd Brexit ers canlyniad y refferendwm. Ond rhaid i hyn gael ei wneud yn erbyn cefndir o ansicrwydd mawr ynghylch cyfeiriad Brexit ar adeg pan fo llywodraeth leol yn wynebu llu o bwysau eraill. Mae awdurdodau lleol Cymru wedi bod mewn sefyllfaoedd gwahanol o safbwynt y cyllid a'r capasiti y maent wedi llwyddo i'w neilltuo i'r paratoadau ar gyfer Brexit.

“Mae'r cyhoeddiad heddiw ynghylch cymorth ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru yn cael ei groesawu'n fawr gan bob un o Awdurdodau Lleol Cymru. Mae Rhaglen CLlLC i gefnogi Brexit wedi rhoi cymorth canolog hollbwysig i'r awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer Brexit ac mae'n bwysig i hyn barhau. Bydd y cyllid sy'n mynd at yr awdurdodau lleol yn sicrhau bod adnodd dynodedig yn ei le ym mhob awdurdod lleol i wneud y gwaith cynllunio, cydgysylltu a pharatoi sy'n gysylltiedig â Brexit sy'n debygol o barhau at y dyfodol.

Categorïau: Ewrop Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30